Cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig 2022

Croeso i Cwmpas

Cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig 2022

Rydym yn falch iawn o fod yng Nghynhadledd Ceidwadwyr Cymreig 2022. Nod y dudalen hon yw rhoi cipolwg i gyfranogwyr y gynhadledd ar ein gwaith.

Credwn y dylai ein heconomi a’n cymdeithas weithio’n wahanol, gan roi pobl a’r blaned yn gyntaf.

Er 1982, rydym wedi helpu cryfhau a grymuso cymunedau Cymru drwy gefnogi twf mentrau cydweithredol a mentrau cymdeithasol, a thrwy gyflwyno prosiectau ar y cyd sy’n darparu sgiliau ac yn mynd i’r afael ag allgáu.

Gan weithio gyda rhanddeiliaid lleol – gan gynnwys gwleidyddion, busnesau, grwpiau gwirfoddol a chymunedau – rydym yn adeiladu cymdeithas decach ac economi wyrddach yng Nghymru a ledled y DU. Siaradwch â ni os oes gennych syniad i fynd i’r afael â phroblemau parhaus tlodi, anghydraddoldeb economaidd a newid yn yr hinsawdd ac yr hoffech gael ein cefnogaeth.

Creu economi decach a gwyrddach – ein gwaith ar fentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol a busnesau sy’n eiddo i weithwyr

Rydym yn creu economi decach a gwyrddach drwy gynyddu nifer a graddfa mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol a busnesau sy’n eiddo i weithwyr. Ar hyn o bryd, dim ond 3% o’r CMC yn y DU yw’r modelau busnes cymdeithasol a democrataidd hyn, ac nid yw eu potensial yn cael ei wireddu i fynd i’r afael â’r heriau y mae ein cymunedau’n eu hwynebu i ddatgarboneiddio’r economi leol, creu swyddi o ansawdd da a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb.

Rydym yn cyflwyno rhaglenni sy’n darparu cymorth busnes i fentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a busnesau sy’n eiddo i weithwyr. Rydym hefyd yn cyhoeddi ymchwil ddylanwadol a phapurau gwyn am effaith a photensial y sector.

Adeiladu cymdeithas fwy cyfartal – ein gwaith ar berchnogaeth gymunedol, cynhwysiant digidol, a thai

Rydym yn darparu cymorth i gymunedau sy’n cael eu gadael ar ôl i wella gwasanaethau a chyfleusterau yn eu hardal leol. Rydym yn helpu gwneud cymdeithas yn fwy cyfartal drwy wella sgiliau’r rheiny sydd wedi’u heithrio neu sydd mewn perygl o gael eu heithrio.

Rydym yn cyflwyno rhaglenni sy’n cefnogi tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned, gofal cymdeithasol, cynhwysiant digidol a throsglwyddo asedau cymunedol. Rydym hefyd yn dylanwadu ar y tirlun polisi yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod yr ymyriadau mwyaf effeithiol posibl yn cael eu datblygu ym mhob haen o Lywodraeth i gefnogi democratiaeth a chynhwysiant lleol.

Gwneud i newid cadarnhaol ddigwydd – ein gwaith ochr yn ochr â sefydliadau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector

Rydym yn cyflwyno gwasanaethau dysgu a datblygu cyfranogol ac ymgysylltiol ar gyfer sefydliadau addysg a hyfforddiant yn ogystal â’r trydydd sector. Rydym yn rhoi hwb i sgiliau digidol, capasiti a seilwaith o fewn sefydliadau busnes cymdeithasol a’r trydydd sector. Rydym hefyd yn helpu sefydliadau i wneud i newid cadarnhaol ddigwydd drwy gyngor arbenigol ac amrywiaeth o wasanaethau ymgynghoriaeth sy’n adeiladu cyfoeth cymunedol a’r economi sylfaenol.

Rydym yn cydnabod mai dim ond drwy weithio gydag eraill y gallwn gyflawni ein cenhadaeth a’n nodau. Mae cydweithredu, gweithio mewn partneriaeth ac adeiladu clymbleidiau yn ganolog i’n dulliau a’r ffordd y cyflwynwn wasanaethau.

Byddem yn falch iawn o siarad â chynrychiolwyr sy’n mynychu cynhadledd Ceidwadwyr Cymreig. Byddem yn falch iawn o siarad â chynrychiolwyr sy’n mynychu cynhadledd Llafur Cymru. Dewch i siarad â ni yn ein stondin arddangos (gyda’r Blaid Gydweithredol) neu cysylltwch â ni:

Dros y ffôn: 0300 111 5050

Drwy e-bost: info@cwmpas.coop

Drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:

Cwmpas (@Cwmpas_Coop) / Twitter

Dod yn aelod
Credwn fod mentrau cydweithredol ac egwyddorion cydweithredol yn gallu helpu pobl, teuluoedd, cymunedau a busnesau i fod yn gryfach ac yn fwy hyderus. Trwy ddod yn aelod byddwch yn cefnogi'r egwyddorion hyn ac yn ein helpu ni i ledaenu'r delfrydau hyn.
Ymuno a ni