Gwerth cymdeithasol mewn gofal cymdeithasol
Ydych chi’n bwriadu datblygu modelau gwerth cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau gofal, ond yn ansicr ynghylch sut i wneud hyn? Rydyn ni yma i’ch helpu.

Cyfarchion i gydweithwyr comisiynu a chaffael a rhanddeiliaid ehangach!
Os ydych yn awyddus i gynyddu modelau gwerth cymdeithasol er mwyn darparu gwasanaethau gofal ac y byddai cymorth yn ddefnyddiol i chi, mae Cwmpas wedi creu adnoddau i chi eu defnyddio. Mae ein canllawiau a’n hadnoddau ar gyfer comisiynwyr, rheolwyr caffael a rhanddeiliaid allweddol. Rydyn ni wedi cydweithredu â chomisiynwyr i greu’r adnoddau sy’n adlewyrchu’r realiti, yr heriau a’r dyheadau a wynebir wrth ddatblygu modelau gwerth cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau gofal.
Isod ceir rhestr o weminarau, cyflwyniadau, adroddiadau, a chanllaw cam wrth gam, gyda’r nod o’ch cefnogi i hyrwyddo a buddsoddi mewn modelau darparu gwerth cymdeithasol.
- Cefnogi comisiynwyr gofal a chaffaelwyr i hyrwyddo modelau darparu gwerth cymdeithasol
- Sut i ail-greu gwasanaethau gofal er mwyn datblygu gwerth cymdeithasol i bobl a chymunedau
- Sut i ddefnyddio ‘contractau neilltuedig’ i gaffael a buddsoddi mewn modelau gwerth cymdeithasol
- Ail-gydbwyso gwasanaethau cartrefi gofal yng Nghymru: Menter gymdeithasol a modelau a dulliau cydweithredol
Os ydych yn awyddus i drafod ein hadnoddau ymhellach, cysylltwch â Donna Coyle, Rheolwr Prosiect Gofal Cydweithredol, donna.coyle@cwmpas.coop.