Cymunedau yn ymgyrchu dros newid yn y ffordd mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu

31 Mawrth 2023

Mae Cwmpas, asiantaeth ddatblygu flaenllaw sy’n gweithio dros newid cadarnhaol yng Nghymru a ledled y DU, yn gweithio’n agos gyda phobl sy’n sbarduno newid, pobl o gymunedau Gorllewin Caerdydd a Gogledd Ddwyrain Sir Benfro, gyda’r nod o roi llais a rheolaeth iddyn nhw dros eu gofal; gan ddangos bod ymyriadau gofal cymunedol cynnar yn atebion fforddiadwy, hyfyw a chynaliadwy i’r argyfwng gofal.

Yn draddodiadol, nid yw’r system gofal cymdeithasol ar draws y mwyafrif o Awdurdodau Lleol wedi rhoi ffocws ar sicrhau lles i bobl, nac ar ysgogi barn a gallu pobl. Mae diffyg cydweithio rhwng asiantaethau perthnasol a dim digon o bwys yn cael ei roi ar atal neu leihau dibyniaeth, tra bod y cyfle ar gyfer gweithgareddau i gryfhau lles cymunedol wedi cael ei anwybyddu.

Mae Cwmpas, drwy fuddsoddiad o £290,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn arwain prosiect ‘profi a dysgu’ sy’n profi dau fodel gwahanol o ofal a arweinir gan y gymuned, gyda’r nod o ysgogi datrysiad i faterion gofal cymdeithasol. Bydd y ddau fodel yn gweithio gyda phobl sy’n sbarduno newid, sef pobl sy’n cymryd rhan yn y prosiect sy’n mynnu newid. Bydd ymgysylltu â phobl sy’n sbarduno newid yn tynnu sylw at sut y gallant helpu i gefnogi ei gilydd o fewn y gymuned, pa ganlyniadau y maen nhw am eu gweld, pa gyfleoedd sy’n bodoli i drawsnewid gofal cymdeithasol yn yr ardal, ac felly’n ailffocysu ymdrechion ar les a chydweithio.

Mae’r prosiect Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (Action in Caerau and Ely – ACE) yng Nghaerdydd, yn profi model trefol ‘ACE Cares’ ac mae Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS) yn cyflwyno model gwledig ‘Gofal Preseli’, (gan adeiladu ar fuddsoddiad blaenorol yn Sir Benfro a ddarparodd cysylltwyr cymunedol a Hyb Sir Benfro), gyda Cwmpas yn arwain y ddau bartner. Teitl y prosiect yw ‘Gofal dan arweiniad y gymuned: Atebion i broblemau gofal cymdeithasol’.

Drwy fuddsoddiad Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae ACE yn ymgysylltu â’r gymuned leol i archwilio pa asedau a sgiliau y gall y gymuned eu cyflwyno a fyddai’n newid sut mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu.

Mae PAVS yn gweithio gyda phobl, grwpiau cymunedol, partneriaid statudol a busnesau yn y sector preifat i gyd-gynhyrchu Gofal Preseli. Mae Gofal Preseli yn cynrychioli symud i ffwrdd o ofal traddodiadol gan y bydd yn cynnig gweithgareddau a gwasanaethau sydd eu hangen ar gymunedau lleol, sy’n cael eu gyrru gan gymunedau lleol.

Drwy gynhyrchu ar y cyd, bydd Gofal Preseli ac ACE yn defnyddio asedau a chryfderau mewn cymunedau; o bobl sy’n cael mynediad at wasanaethau ar hyn o bryd, gwirfoddolwyr a gofalwyr cyflogedig a di-dâl, gan eu hannog i edrych ar eu sgiliau eu hunain, gan roi gwerth cymdeithasol wrth galon darparu gofal cymdeithasol.

Ychwanegodd Diane, sy’n ofalwr di-dâl sy’n gweithio’n agos gydag ACE Cares: “Mae bwlch mawr yn y gefnogaeth sy’n cael ei darparu i ofalwyr di-dâl yng Nghaerdydd ac ym mhob cwr o Gymru. Mae angen i hyn newid. Mae angen mwy o gymorth, fel creu grwpiau cymunedol lle gall pobl ddod at ei gilydd i ddysgu a helpu ei gilydd, gan adeiladu ar brofiadau ei gilydd. Un enghraifft yw grŵp gofalwyr newydd yng Ngorllewin Caerdydd, sydd wedi bod yn fuddiol dros ben, gan fy ngalluogi i ryngweithio â phobl sy’n deall beth yw bod yn ofalwr ac sy’n gallu uniaethu â’m sefyllfa. Bydd mwy o grwpiau fel hyn nid yn unig yn helpu i gryfhau lles u gofalwyr di-dâl eu hunain ond yn rhoi mwy o wybodaeth iddyn nhw fel y gallan nhw gael effaith gadarnhaol ar y bobl dan eu gofal!”

Dywedodd aelod o’r gymuned sy’n ymgysylltu â Gofal Preseli: “Yn fy marn i, mae pob unigolyn, waeth pa broblemau sydd ganddo, o werth amlwg fel unigolyn, a chi’n cychwyn o fan ‘na.”

Mae’r syniad o gymunedau’n cael llais a rheolaeth dros eu gofal yn ddull hollol wahanol i’r ffordd mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu’n draddodiadol, sef, sut allwn ni barhau i wneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud gyda’r adnoddau staff sydd ar gael a sut allwn ni ddiwallu anghenion sylfaenol pobl?

Mae’r system gofal traddodiadol yn arwain at ganlyniadau gwael ac nid yw’n rhoi unrhyw sylw i’r heriau demograffig sydd yn ein hwynebu fel poblogaeth sy’n heneiddio, a phobl yn byw yn hirach gydag anghenion gofal cymhleth a dementia a fydd, heb os, yn cynyddu’r pwysau ar wasanaethau gofal.

Drwy’r prosiect ‘Gofal dan arweiniad y gymuned: Atebion i broblemau gofal cymdeithasol’ y nod yw ymchwilio i sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl a chymunedau yn y tymor byr a’r tymor hirach. Mae’r prosiect yn annog ac yn cefnogi cymunedau i greu a manteisio ar adnoddau cymunedol lleol sydd o fudd i bobl y tu allan i ofal ffurfiol ac i bobl fod yn gyfranogwyr a chyfranwyr i’w cymuned. Bydd hyn yn arwain at weithgareddau sy’n cryfhau lles pobl a chymunedau yn sylweddol.

Ychwanegodd Donna Coyle, Rheolwr Prosiect, Gofal a Chymorth Cydweithredol yn Cwmpas: “Trwy ein gwaith gyda phobl sy’n sbarduno newid, nod Cwmpas yw datblygu rhywbeth hollol wahanol i’r model gofal traddodiadol, nad yw’n ystyried yr hyn y mae’r gymuned ei eisiau mewn gwirionedd. Byddwn ni’n dangos sut y gall ymyrraeth gynnar o ran gofal cymunedol atal yr angen am ofal statudol mwy cymhleth yn y dyfodol ac rydyn ni hefyd yn gobeithio dangos, drwy hwyluso a harneisio’r cryfderau a’r asedau mewn cymunedau, y gallant berchnogi darpariaeth gofal yn hyderus mewn ffordd gynaliadwy, fforddiadwy sy’n gadael gwaddol parhaol.

“Mae sylfeini’r hyn rydyn ni’n ei gyflawni yno’n barod; mae angen gweithredu egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r Ddeddf yn rhoi’r gwaith o hyrwyddo lles wrth wraidd darparu gofal. Mae’n rhoi llais i bobl sy’n derbyn gofal a fydd yn helpu i siapio eu cymorth a’r penderfyniadau a fydd yn effeithio ar eu bywydau. Mae’n mynnu ymyrraeth gynnar i atal problemau rhag cyrraedd y pwynt tyngedfennol ac yn eiriol o blaid cydweithio a gweithio mewn partneriaeth gref rhwng y sefydliadau sy’n cefnogi bywyd rhywun.

“Ond haws dweud na gwneud.”