Creu newid economaidd a chymdeithasol
Rydym yn credu dylai ein heconomi a'n cymdeithas weithio'n wahanol, gan roi pobl a'r blaned yn gyntaf. Mae Cwmpas yn asiantaeth ddatblygu sy'n gweithio dros newid cadarnhaol.
Ein cenadaethau
Creu economi decach a gwyrddach
Rydym yn gweithio i gynyddu’r gyfran o fentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a busnesau sy’n eiddo i weithwyr a geir o fewn yr economi
Adeiladu cymdeithas fwy cyfartal
Rydym yn gweithio i ddatblygu cyfiawnder cymdeithasol trwy gynyddu mynediad, tegwch, amrywiaeth a chyfranogiad
Esgor ar newid cadarnhaol
Rydym yn cydweithio gyda phobl a sefydliadau fel y gellir cymryd camau er budd y gymdeithas
Sut rydym yn creu effaith
Ein gwasanaethau
Gall ein tîm cyfeillgar o gynghorwyr gynnig cymorth a chefnogaeth arbenigol ar draws ystod eang o feysydd.
Ein gwasanaethau
Dechrau Rhywbeth Da
Rydyn ni'n dod â phobl at ei gilydd i ddatblygu syniadau newydd i ddatrys problemau rydyn ni i gyd yn poeni amdanyn nhw.
Darganfyddwch fanteision cydweithio er lles pawb trwy broses gydweithredol, anghystadleuol, democrataidd, agored a charedig wedi'i chyd-gynllunio.
Darganfod mwy
Cynllun benthyg cyfrifiaduron llechen Bro Morgannwg yn arwain Cymru gam yn agosach at gynhwysiant digidol
Gan nad yw 170,000 o bobl yng Nghymru (7% o’r boblogaeth) yn defnyddio’r rhyngrwyd, mae gormod o bobl o hyd...
Darllen mwy
Ymuno â ni
Cwmni cydweithredol yw Cwmpas. Drwy ymaelodi, gallwch ddangos eich ymroddiad i gydweithredu a helpu i sbarduno'r sector busnesau cymdeithasol yng Nghymru.
Ymuno â ni