Amdanom ni
Mae Cwmpas yn gweithio mewn cymunedau ledled Cymru i helpu i greu economi decach a
gwyrddach a chymdeithas fwy cyfartal.
Ers dros 40 mlynedd, bu Cwmpas yn gweithio mewn cymunedau ledled Cymru i helpu i greu economi decach a gwyrddach a chymdeithas fwy cyfartal.
Fel cwmni cydweithredol, credwn y dylai ein heconomi a’n cymdeithas weithio’n wahanol i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb, gyda mwy o fusnesau’n defnyddio eu helw er gwell a phob cymuned yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i lunio eu dyfodol eu hunain.
Rydym yn hybu mentrau cymdeithasol ac atebion cydweithredol ac yn cefnogi cymunedau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i wella ac arloesi trwy gynnig cyngor busnes arbenigol cefnogaeth i fusnesau cymdeithasol, cynhwysiant digidol, atebion tai a gofal wedi’u harwain gan y gymuned ac ystod o wasanaethau dysgu, datblygu ac ymgynghori.