Ein Bwrdd
Mae Cwmpas wedi gweithredu er y 1980au cynnar. Mae ein cynaliadwyedd wedi dod yn sgil trefniadau llywodraethu cryf ac enw da am yr hyn a wnawn.
Mae ein Bwrdd yn cynnwys 11 o bobl – y rhan fwyaf ohonynt wedi’u hethol gan ein haelodau. Mae hefyd yn cynnwys ambell unigolyn sydd wedi’i gyfethol o ganlyniad i’w sgiliau arbenigol a’i arbenigedd. Mae gan y Bwrdd un Pwyllgor – y Pwyllgor Risg ac Archwilio – sy’n cynnwys pum aelod.
Aelodau'r Bwrdd
Yn gyfrifydd wrth ei grefft, ac ar ôl gyrfa hir yn gweithio ym maes llywodraeth leol, y Comisiwn Ewropeaidd a’r sector preifat, daeth Jeff yn Gynghorydd Arbennig i weinidogion Llywodraeth Cymru am bron 12 mlynedd, naw ohonynt gyda Gweinidogion Cyllid. Ymddiswyddodd ym mis Mai 2016. Mae wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Gweithredol a Bwrdd Cwmpas ers tro. Mae wedi dal swydd y Trysorydd am nifer o flynyddoedd.
Mae John yn gyfrifydd siartredig cymwysedig, ac mae wedi bod yn un o gyfarwyddwyr Williams Ross cyfyngedig yng Nghaerdydd ers deuddeng mlynedd. Mae wedi ymwneud yn broffesiynol â’r gwaith o gynnig gwasanaethau sicrwydd, cyngor, cymorth a hyfforddiant yn y sector dielw, gan weithio gydag elusennau, undebau credyd a sefydliadau gwirfoddol eraill dros nifer o flynyddoedd.
Mae ei brofiad gwirfoddol yn cynnwys:
Bod yn aelod o fwrdd rheoli Cwmpas ers dros ddeng mlynedd.
Bod yn aelod o fwrdd Cartrefi Cymoedd Merthyr er mis Ionawr 2012.
Bod yn aelod o fwrdd dwy gymdeithas tai am gyfanswm cyfunol o 18 mlynedd, hyd at 2001.
Bod yn aelod presennol o grŵp llywio sefydliad sy’n edrych i gynnig cymorth cynhwysfawr, strwythuredig a hirdymor i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Mae fy nghefndir mewn gwaith polisi, digidol a datblygu cymunedol, ac rwy’n cael fy ysgogi gan waith sy’n gwneud bywyd yn well i bobl sy’n byw yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio i Nesta yn Y Lab, yn rheoli Arloesi i Arbed, sef rhaglen sy’n cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf Cymru.
Mae fy mhrofiadau eraill yn y gorffennol yn cynnwys;
Cyflwyno prosiect dylanwadol y Sefydliad Materion Cymreig ‘Let’s talk Cancer’, a geisiodd argymhellion torfol i wella gofal canser yng Nghymru,
gwaith allgymorth cynhwysiant digidol arbenigol ar gyfer Cymunedau 2.0 yn canolbwyntio ar greadigrwydd ac adrodd straeon,
gwaith datblygu cymunedol ar gyfer Cymru Gynaliadwy i helpu i greu cymunedau cydnerth, a
gwaith materion cyhoeddus a monitro polisi
Mae fy mywyd y tu allan i’r swyddfa yr un mor brysur a diddorol â’m gwaith dydd i ddydd; roeddwn yn un o aelodau sefydlu Ysgol Fasnach Caerdydd a helpodd bobl i ‘gyfnewid’ eitemau am wybodaeth a sgiliau, ac rwy’n un o Gyfarwyddwyr Awr Cymru, sy’n hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ar-lein. Rwy’n treulio’r rhan fwyaf o’m hamser sbâr yn yr ardd ac yn gofalu am fy nghŵn achub corgi.
Mae Richard yn dod o Gefneithin yn Sir Gaerfyrddin, a dechreuodd ei yrfa ym maes y teledu a’r theatr cyn symud ymlaen i weithio yn y sectorau hamdden, celfyddydau, diwylliant a thwristiaeth mewn llywodraeth leol am 16 mlynedd. Ymgymerodd Richard â rôl Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ym mis Hydref 2015 ac mae wedi llywio’r sefydliad i gyfnod newydd o dwf a datblygiad ers iddo gael ei sefydlu. Mae’n goruchwylio rheolaeth strategol Awen a’i is-gwmni masnachol, sef Awen Trading Ltd., gydag oddeutu 190 o staff ar draws 18 safle gwahanol.
Mae Richard yn Aelod o Sefydliad y Cyfarwyddwyr ac yn aelod llawn o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n siaradwr Cymraeg rhugl sy’n briod gyda dau o blant, ac mae’n gefnogwr brwd y Scarlets sydd â thocyn tymor.
Mae Nigel Keane yn Gyfrifydd Siartredig sy’n gweithio fel Cynghorydd Polisi gydag Uned Partneriaid Cymdeithasol Cymru. Mae Nigel wedi gweithio yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Mae ganddo brofiad helaeth o sector cydweithredol y defnyddwyr, wedi iddo wasanaethu ar Bwyllgor Ardal De Cymru a Bwrdd Rhanbarthol Cymru y Co-operative Group, a’u corff rhagflaenol yng Nghymru. Roedd Nigel hefyd yn Gyfarwyddwr y Co-operative Group am ddwy flynedd.
Mae gan Nigel brofiad o gefnogi cwmnïau cydweithredol sy’n eiddo i’r gweithwyr, o’i gyfnod fel trysorydd Cymdeithas Datblygu Cwmnïau Cydweithredol Caerdydd a’r Fro, ac mae wedi gwasanaethu ar Fwrdd Rheoli Cwmpas dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Mae Nisreen Mansour yn Swyddog Polisi yn TUC Cymru, gan gyfrannu at waith polisi’r sefydliad ar yr economi ac agenda Gwaith Teg. Cyn ymuno â TUC Cymru, bu’n gweithio i Sefydliad Bevan, melin drafod annibynnol wedi’i leoli ym Merthyr Tudful, ac i AS De Cymru.
Mae Ben yn Gyfarwyddwr yn Arup, wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac mae ganddo 20 mlynedd o brofiad o weithio gyda sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat ar brosiectau seilwaith a chynghori ar drafnidiaeth. Mae’n arwain busnes Arup yng Nghymru ac ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda chleientiaid ledled Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Mae Ben yn frwd dros ddatgloi potensial unigolion waeth beth fo’u cefndir. Trwy ei yrfa waith mae wedi datblygu profiad o gychwyn/symudiad, rheoli cyfrifon elw a cholled, amrywiaeth, rheoli newid, arwain tîm, arweinyddiaeth strategol a datblygu busnes.
Yn gwmni gwasanaethau proffesiynol byd-eang, mae gan Arup dros 400 o staff wedi’u lleoli yng Nghymru a hanes o bron i 50 mlynedd yng Nghaerdydd. Fel cwmni sy’n eiddo i’r gweithwyr, mae Arup yn ymfalchïo yn eu cyfranogiad cymunedol a’u cysylltiad â’r cymdeithasau y maent yn eu gwasanaethu.
Y tu allan i’r gwaith mae Ben wedi gwirfoddoli fel aelod o bwyllgor Undeb Rygbi Byddar Cymru, gan helpu i godi arian i ddarparu cyfleoedd datblygu i blant ifanc ac oedolion fel ei gilydd. Fel tad i ddau fachgen ifanc, mae hefyd yn ymwneud â hyfforddi pêl-droed a rygbi. Mae’n mwynhau cadw’n heini drwy fynd i’r gampfa, rhedeg ac, er gwaethaf anrheithio amser, o bryd i’w gilydd mae’n rhoi ei esgidiau yn ôl ymlaen ar gyfer gêm rygbi.
Roedd Amanda yn cyfarwyddo, cynhyrchu ac uwch gynhyrchu ystod eang o raglenni ffeithiol i ddarlledwyr ar draws y byd cyn ffurfio ei chwmni ei hun yn 2012.
Cafodd ei rhaglen ‘Finding Mum and Dad’ (i Channel 4) ei henwebu am wobrau Grierson a Broadcast yn 2015.
Fe gafodd Amanda ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cynnwys S4C yn Hydref 2016.
Fel uwch weithiwr cyllid proffesiynol profiadol, mae Gareth wedi gweithio yn y sector tai, gofal a chymorth ers bron i 20 mlynedd.
Fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid ac Adnoddau Cartrefi Dinas Casnewydd (CDC), mae Gareth wedi darparu cyfeiriad strategol a sicrwydd ansawdd ar gyfer portffolio integredig sy’n darparu cefnogaeth i wasanaethau rheng flaen, gan hyrwyddo gwelliant parhaus arloesol sy’n gyrru gwell rheolaeth cost ac ansawdd. Mae Gareth yn cydweithredu â’r Bwrdd i ddatblygu fframweithiau ariannol, AD, rheoli risg, sicrwydd, gwerth am arian a llywodraethu CDC. Ar hyn o bryd mae Gareth yn arwain rhaglen newid strategol sydd wedi’i chynllunio i ddylanwadu ar fframwaith diwylliannol ar gyfer CDC a diffinio sut a ble maen nhw’n gweithio i’w galluogi i roi eu cwsmeriaid a’u cydweithwyr yng nghanol popeth maen nhw’n ei wneud. Mae hyn yn ymestyn i ddatblygu a gweithredu dau o ymrwymiadau strategol y gymdeithas: i) cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant; a ii) cynaliadwyedd amgylcheddol.
Yn siaradwr Cymraeg rhugl yn wreiddiol o orllewin Cymru, Mae Gareth bellach yn byw yn ne Sir Fynwy gyda’i wraig a’i ddwy ferch.
Roedd gyrfa gynnar Kit yn cynnwys rolau arwain yn 118 118 ac RBS cyn ymuno â Chyngor Bro Morgannwg fel eu rheolwr canolfan alwadau. Symudodd Kit i Gyngor Dinas Casnewydd, lle trawsnewidiodd eu strategaethau gwasanaeth cwsmeriaid a sianel. Yn dilyn Casnewydd, symudodd Kit i’r byd i gontract allanol, gan weithio gyda Liberata ac yn fwy diweddar Agilisys ar y contract gwasanaethau cwsmeriaid yng Nghyngor Gogledd Gwlad yr Haf. Cyn ymuno â Dŵr Cymru, daliodd Kit swydd Cyfarwyddwr Partneriaeth gydag Agilisys ac roedd yn gyfrifol am Ddigidol, Newid Gwasanaeth Cwsmer, TG, AD, Cyflogres, Cyfleusterau, Caffael a Refeniw a Budd-daliadau ar gyfer y De Orllewin. Yn Welsh Water mae’n gyfrifol am yr holl wasanaethau Newid, Gwelliant Parhaus a Digidol ar draws y sefydliad.
Y tu allan i’r gwaith, angerdd allweddol Kit yw chwaraeon. Mae’n hyfforddi tîm pêl-droed ei fab, yn chwarae criced i Glwb Criced Creigau ac yn mwynhau rhedeg.