Datganiad o fwriad: Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae’r datganiad hwn yn amlinellu ein huchelgais i ddod yn sefydliad mwy teg, amrywiol a chynhwysol, sydd wedi ymrwymo i werthfawrogi profiad bywyd a herio’r ffordd sefydledig o feddwl.

Datganiad o fwriad: Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Pam?

Rydym yn byw mewn cymdeithas sy’n llawn anghydraddoldebau, gormes a gwahaniaethu, ac mae rhai ohonynt wedi’u gwreiddio mor ddwfn fel prin y mae llawer ohonom yn sylwi arnynt. Mae Cwmpas bob amser wedi ystyried Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant o ddifrif, ond rydym bellach yn cymryd camau i ddyfnhau ein dealltwriaeth o sut mae cymdeithas yn creu a pharhau â braint a gormes.

Mae’r datganiad hwn yn amlinellu ein huchelgais i ddod yn sefydliad mwy teg, amrywiol a chynhwysol, sydd wedi ymrwymo i werthfawrogi profiad bywyd a herio’r ffordd sefydledig o feddwl. Rydym wedi ymrwymo i Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ei ystyr ehangaf, fel egwyddor allweddol cyfiawnder cymdeithasol, sy’n sail i bopeth rydym yn ei wneud a phwy ydym. Ymdrechwn i fod yn gynhwysol a herio anghydraddoldeb, gwahaniaethu a rhagfarn o bob math.

Mae’r datganiad hwn yn cyd-fynd â darpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010 sy’n amddiffyn grwpiau penodol rhag gwahaniaethu ar sail eu nodwedd warchodedig:

  1. Oedran
  2. Rhywedd
  3. Hil
  4. Anabledd
  5. Crefydd neu gred
  6. Cyfeiriadedd rhywiol
  7. Ailbennu Rhywedd
  8. Priodas neu bartneriaeth sifil
  9. Beichiogrwydd a mamolaeth

Beth ydym ni wedi’i wneud hyd yma?

Ein cam cyntaf oedd comisiynu sefydliad allanol i gynnal archwiliad tegwch i ni a chynnig argymhellion ynglŷn â sut gallem wella. Ymarfer hir oedd hwn a oedd yn cynnwys dadansoddiad manwl o’n polisïau a’n dogfennau canllaw, holiaduron a chyfweliadau â gweithwyr ac aelodau’r bwrdd.

Yn seiliedig ar ganfyddiadau’r archwiliad, ei argymhellion a’n trafodaethau mewnol ein hunain, rydym wedi gweithredu yn y ffyrdd canlynol:

  • Rydym wedi adolygu ein dogfennau polisi a chanllaw a’u diwygio yng ngoleuni’r cyngor rydym wedi’i gael.
  • Rydym wedi gwneud newidiadau i’r ffordd rydym yn ysgrifennu ein swydd-ddisgrifiadau a sut/ble rydym yn targedu recriwtio.
  • Rydym wedi sefydlu grŵp llywio Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewnol.
  • Rydym wedi rhoi Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd ein strategaeth, gan ei wneud yn un o’n nodau trawsbynciol a gosod targedau uchelgeisiol.
  • Rydym wedi dylunio ac yn darparu cyfres o sesiynau hyfforddi manwl i’r holl weithwyr ar themâu cydraddoldeb anabledd; cydraddoldeb LHDTCRh+; niwrowahaniaeth a gwrth-hiliaeth.
  • Rydym yn gweithio gyda’n bwrdd i ddyfnhau dealltwriaeth o Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac ymrwymiad iddo.
  • Rydym wedi datblygu cynllun gweithredu Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant y mae pob un ohonom yn Cwmpas yn gyfrifol amdano ac yn ei gyflawni.
  • Rydym yn anelu at ymsefydlu gweithredoedd gwrthwahaniaethol rhagweithiol yn y sefydliad a gweithio i ddatblygu gweithlu amrywiol.
  • Rydym wedi llofnodi addewid Dim Hiliaeth Cymru, gan addo i “sefyll yn erbyn hiliaeth a hyrwyddo gweithle a chymdeithas fwy cynhwysol a chyfartal sy’n rhoi’r hawl i bob unigolyn yng Nghymru deimlo’n ddiogel a’i fod yn cael ei werthfawrogi a’i gynnwys.”

Beth nesaf?

Wrth i ni edrych tuag at ddyfodol Cwmpas, bydd ein haddewid i hyrwyddo tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn fwy na geiriau llithrig a ysgrifennwyd mewn cynlluniau strategol a dogfennau polisi; yn hytrach, bydd yn ymrwymiad y mae pawb yn y sefydliad yn deall ei fod yn rhan annatod o’u rôl.

Rydym yn gwerthfawrogi ein staff yn fawr ac yn cydnabod bod gan bawb rywbeth i’w gyfrannu at y sgwrs hon. Felly, byddwn yn sicrhau bod cefnogwyr a chynghreiriaid ym mhob rhan o’r sefydliad.

Rydym wedi ymrwymo i bob agwedd ar arferion gwrthormesol a gwrthwahaniaethol. Rydym eisiau bod yn sefydliad nad yw’n esgus cefnogi ond sy’n cymryd camau gweithredol i wneud gwahaniaeth ac ysgogi newid. Mae hyn yn golygu gofyn cwestiynau anghyfforddus ynglŷn â’n prosesau, ein diwylliant a’n hymddygiadau oherwydd, er bod tegwch wastad wedi bod yn hollbwysig i ni, rydym yn gwybod bod gennym fwy i’w wneud. Byddwn yn rhoi sylw gofalus i ofynion Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru ac yn cyfrannu at wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol.

Byddwn yn dryloyw ynglŷn â’n dysgu a’n datblygiad trwy rannu astudiaethau achos a siarad yn agored am ein cynnydd a’n rhwystrau.

Rydym wedi ymrwymo i gyflawni pum nod a fydd yn sail i’n cynllun gweithredu:

  1. Diwylliant: Bydd pawb yn Cwmpas yn deall bod ymrwymiad i Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn sail i’n holl berthnasoedd â chydweithwyr, cleientiaid a rhanddeiliaid. Dangosir hyn yn ein hymddygiadau pob dydd. Byddwn yn monitro cysondeb ein hymagwedd, gan wirio canlyniadau’n rheolaidd yn erbyn ein cynllun gweithredu a chryfhau polisïau a gweithdrefnau fel y bo’r angen.
  2. Cydgynhyrchu: Byddwn yn darparu ein gwasanaethau mewn ffordd sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu, gan weithio ar y cyd â phobl sydd â phrofiad bywyd wrth ddylunio ein gwasanaeth. Byddwn yn monitro pwy sy’n defnyddio ein gwasanaethau ac yn gwneud newidiadau os nad yw pobl sy’n cael eu tangynrychioli yn cael atynt.
  3. Gyrfa: Byddwn yn recriwtio, hurio a datblygu gweithlu amrywiol, uchel ei berfformiad sy’n adlewyrchu’r cleientiaid, y busnesau cymdeithasol a’r sefydliadau trydydd sector rydym yn eu gwasanaethu.
  4. Cydweithio: Byddwn yn hyrwyddo ac yn annog Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth ymgysylltu ac yn ein partneriaethau – gyda’n cleientiaid, partneriaid, rhanddeiliaid a chynghreiriaid.
  5. Cyfathrebu: Byddwn yn dangos ein hymrwymiad i Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ein negeseuon mewnol ac allanol. Bydd gweithwyr, cleientiaid a rhanddeiliaid yn deall bod yr ymrwymiad hwn yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.

Yn olaf…

Dyma ein maniffesto ar gyfer newid wrth i ni barhau â’n taith tuag at ddod yn sefydliad mwy teg, amrywiol a chynhwysol.

Rydym yn ystyried hyn o ddifrif a byddwn yn dal ein hunain i gyfrif.