Gweithio gyda ni

Chwilio am yrfa werth chweil? Rydych chi yn y lle iawn.

Gweithio gyda ni

Mae Cwmpas yn sefydliad di-elw sy’n cefnogi twf economaidd Cymru, yn helpu cymunedau i fod yn gryfach ac yn fwy cynhwysol ac yn ei dro yn cefnogi pobl yng Nghymru i wella eu bywydau a’u bywoliaeth.

Rydym yn darparu amrywiaeth o brosiectau sy’n helpu busnesau cymdeithasol i dyfu; helpu pobl i ddysgu sgiliau digidol, helpu pobl i sefydlu eu cydweithfeydd eu hunain mewn gofal a thai a helpu pobl i fuddsoddi yn eu cymuned.

O’r herwydd, mae gennym set gref o werthoedd sy’n gyrru’r ffordd yr ydym yn ymddwyn. Pan fydd gennym swyddi gwag, rydym yn chwilio am bobl sydd â sgiliau a phrofiad iawn nid yn unig, ond gyda’r ethos iawn.

Os ydych chi’n poeni am helpu i greu gwell dyfodol i bawb yng Nghymru trwy gydweithio, cefnogi eraill, gweithredu’n deg a chydag gonestrwydd, a’ch bod yn meddwl bod gennych y gallu i helpu i barhau i yrru ymlaen trwy arloesedd a newid, rydym am glywed oddi wrth chi chi!

Yn gyfnewid, rydym yn cynnig cyflogau cystadleuol, manteision hael, arferion gweithio hyblyg, tîm gwych a digon o gacen!

Swyddi gwag cyfredol
Fel canolfan ragoriaeth, rydym yn ymfalchïo ar fod yn gyflogwr o ddewis, gan werthfawrogi ein holl weithwyr a gweithio'n gydweithredol i wneud Cymru'n lle gwell.