Ein hymrwymiadau i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant wrth recriwtio a chyflogi

Ein hymrwymiadau i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant wrth recriwtio a chyflogi

Yn Cwmpas ein nod yw bod yn sefydliad mwy teg, amrywiol a chynhwysol. I’n helpu i gyflawni’r uchelgais hon, rydyn ni wedi creu Datganiad o Fwriad, y gallwch chi ei ddarllen yma.

Rydyn ni’n cefnogi ein datganiad o fwriad gyda chamau gweithredu clir, ymarferol drwy gydol ein proses recriwtio a’n harferion cyflogaeth ehangach. Isod rydyn ni wedi rhestru enghreifftiau o sut rydyn ni’n ceisio sicrhau bod eich profiad fel gweithiwr mor gynhwysol â phosibl:

  • Cyhoeddir ein holl hysbysebion recriwtio ar ein platfform recriwtio ar-lein, y gellir ei gyrchu drwy ein gwefan Cwmpas ac sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Yn ogystal, er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gweld ein hysbysebion, rydyn ni hefyd yn defnyddio:
    • Byrddau swyddi ar-lein, fel Indeed a Diverse Cymru.
    • Cyhoeddiadau arbenigol.
    • Asiantaethau cyffredinol a, lle bo angen, asiantaethau recriwtio arbenigol.
    • Ein cyfryngau cymdeithasol ein hunain.
    • Rhwydweithiau a rennir.
  • Mae pob ffurflen gais yn cae’ ei throi’n ddienw cyn ei hanfon at y panel llunio rhestr fer sy’n golygu bod y broses o lunio rhestr fer yn un ddall o ran biodata. Felly dyw paneli llunio rhestr fer ddim yn gweld eich enw, eich cyfeiriad nac unrhyw wybodaeth bersonol neu wybodaeth fonitro cydraddoldeb arall.
  • Mae’r data monitro cydraddoldeb rydych chi’n ei ddarparu i ni yn cael ei droi’n ddienw ac rydyn ni’n ei ddefnyddio i nodi tueddiadau neu fylchau, fel y gallwn ni gymryd camau cywiro lle bo angen.
  • Mae ein staff, gan gynnwys aelodau’r panel, wedi derbyn hyfforddiant cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n cwmpasu gwrth-hiliaeth, cydraddoldeb anabledd, cydraddoldeb LGBTQIA+ a niwroamrywiaeth.
  • Mae cwestiynau cyfweliad, tasgau ac ati yn cael eu paratoi ymlaen llaw ac yn cael eu rhoi i’r holl ymgeiswyr yn yr un ffordd.
  • Mae Cwmpas wedi’i achredu i ddefnyddio’r symbol Hyderus o ran Anabledd fel tystiolaeth o’n hymrwymiad i gyfle cyfartal i bobl ag anableddau. Bydd pob ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol yn cael cynnig cyfweliad yn awtomatig.
  • Rydyn ni’n gofyn i’r holl ymgeiswyr ar y rhestr fer a ydyn nhw am i ni wneud unrhyw addasiadau rhesymol a fydd yn eu helpu i gymryd rhan lawn yn y broses recriwtio. Gall enghreifftiau gynnwys amser ychwanegol, gofynion mynediad penodol, neu ddarparu cwestiynau cyfweliad ymlaen llaw i ddarparu ar gyfer niwroamrywiaeth.
  • Rydyn ni’n trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.
  • Gall ymgeiswyr wneud cais am swyddi naill ai yn y Gymraeg neu yn Saesneg a gallan nhw ddewis cael cyfweliad neu asesiad yn y Gymraeg neu yn Saesneg.
  • Ein nod yw sicrhau cymysgedd o’r rhywiau ar ein paneli recriwtio.
  • Rydyn ni’n osgoi cynnal cyfweliadau yn ystod gwyliau crefyddol allweddol.
  • Rydyn ni’n ymrwymo i dalu’r Cyflog Byw real o leiaf bob amser.
  • Rydyn ni’n defnyddio’r dull gwerthuso swyddi a graddfeydd cyflog tryloyw i sicrhau cyflog teg a chyfartal.
  • Rydyn ni’n monitro’r gymhareb rhwng y rolau â’r cyflogau uchaf ac isaf ac yn adrodd hyn yn ein Hadroddiad Blynyddol a’n Datganiadau Ariannol.
  • Rydyn ni’n sicrhau, lle gall buddion fod yn wahanol i grwpiau amrywiol o staff, nad yw’r rheswm dros yr amrywiad yn cael ei briodoli i nodwedd warchodedig.
  • Rydyn ni’n gwneud addasiadau rhesymol i swyddi, patrymau gweithio neu offer i ganiatáu i bobl ag afiechyd barhau i weithio.
  • Rydyn ni’n rhoi cefnogaeth ymarferol ac emosiynol drwy ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr a’n gwasanaethau iechyd galwedigaethol.
  • Rydyn ni’n cynnig gweithio hyblyg i’n holl bobl, waeth beth yw hyd eu gwasanaeth.
  • Mae gennym Bolisi Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant clir a chyfres gynhwysfawr o bolisïau ehangach sy’n cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth fel absenoldeb salwch, menopos, arferion gwaith modern, trais yn erbyn menywod ac ati.
  • Mae gennym ni brosesau clir ar gyfer adrodd a mynd i’r afael â gwahaniaethu, bwlio ac aflonyddu.
  • Rydyn ni’n darparu hyfforddiant ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth yn ystod y cyfnod sefydlu a thrwy gydol y gyflogaeth.
  • Rydyn ni’n rhannu gwybodaeth yn rheolaidd am ddigwyddiadau crefyddol neu ymgyrchoedd iechyd cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth.
  • Rydyn ni’n darparu interniaethau i gynorthwyo pobl ifanc i gael gwaith.
  • Rydyn ni’n darparu ar gyfer gwahanol anghenion deietegol mewn digwyddiadau ac ati, i ddarparu ar gyfer rhesymau iechyd neu grefyddol.
  • Rydyn ni’n eich annog i gynnwys eich rhagenwau personol ar eich llofnod e-bost (os ydych chi’n dymuno).
  • Mae ein gwefan yn dangos ein hachrediadau gyda sefydliadau amrywiol, gan gynnwys ein hachrediadau fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, cyflogwr Rhuban Gwyn a Chyflogwr Cyflog Byw.