Telerau gwasanaeth

  1. Mae’r wefan hon, sef cwmpas.coop (y “wefan”) dan berchnogaeth, ac yn cael ei gweithredu gan Cwmpas (neu “ni”) sydd wedi ei chofrestru yng Nghymru a Lloegr, rhif cwmni IP24287R.
  2. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir; ond nid ydym yn atebol am unrhyw gamgymeriad(au).
  3. Mae gwybodaeth, dyluniadau, cynnwys, gwaith celf a lluniau’r wefan hon wedi eu diogelu gan hawlfraint. Rydym yn hapus i chi wneud copïau o’r wybodaeth a’r delweddau ar y wefan hon os yw’n angenrheidiol ac yn anorfod i chi eu gweld; a gallwch argraffu cymaint o’r wefan ag sy’n rhesymol, ar gyfer eich defnydd personol, at ddibenion preifat ac anfasnachol. Mae croeso i chi gyhoeddi hyperddolenni i unrhyw ran o’n gwefan. Ac nid oes angen i chi ofyn caniatâd i osod dolen sy’n mynd yn uniongyrchol at unrhyw dudalennau, ond a fyddech cystal â pheidio â fframio’r wefan hon heb ganiatâd ysgrifenedig wrthym.
  4. Rydych yn cydnabod ac yn cytuno bod pob nod masnach, nod gwasanaeth, logo a hawl eiddo deallusol arall yn yr holl ddeunydd neu gynnwys ar y wefan yn parhau i fod yn ein meddiant ni neu ein cleientiaid/trwyddedwyr. Mae gennych hawl i ddefnyddio’r deunydd hwn ar ôl i ni awdurdodi hynny.
  5. Ni ddylech ddefnyddio’r wefan hon at unrhyw ddibenion anghyfreithlon, ac yn benodol, cytuno na fyddwch yn anfon, defnyddio, copïo neu bostio (neu ganiatáu i unrhyw beth gael ei anfon, ei ddefnyddio, ei gopïo neu ei bostio) deunydd sy’n ddifenwol neu anweddus, neu sy’n sarhaus, anaddas neu yn amharu ar breifatrwydd unrhyw unigolyn.
  6. Darperir y wefan hon i chi yn rhad ac am ddim, ac nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd i chi (ac eithrio achos o anaf personol neu farwolaeth o ganlyniad i’n hesgeulustod difrifol neu gamymddwyn bwriadol), p’un a yw hynny dan gytundeb, camwedd (gan gynnwys esgeulustra) neu fel arall, sy’n codi o ganlyniad i’r wefan hon, neu yn gysylltiedig â hi. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw niwed uniongyrchol, arbennig, anuniongyrchol na chanlyniadol, nac unrhyw niwed arall sy’n codi o ddefnyddio’r wefan hon, neu unrhyw wybodaeth sy’n cael ei hennill o’r wefan, yn uniongyrchol ai peidio. Eich unig ddatrysiad yw rhoi’r gorau i ddefnyddio’r wefan hon.
  7. Gallwn addasu’r telerau hyn o bryd i’w gilydd ar unrhyw adeg a heb rybudd, a bydd y newidiadau’n cael eu gweithredu yn syth ar ôl cyhoeddi’r telerau diwygiedig. Chi sy’n gyfrifol am wirio’r wefan o bryd i’w gilydd am newidiadau, a bydd parhau i ddefnyddio’r wefan hon yn dangos eich bod yn derbyn y telerau newydd.
  8. Bydd eich defnydd o’r wefan hon a’r hyn rydych yn ei lawrlwytho ohoni, a’r ffordd y mae’r telerau hyn yn cael eu gweithredu, yn cael eu llywodraethu yn unol â chyfreithiau Lloegr a Chymru.
  9. Rydym yn parchu eich data personol, a byddwn yn ei drin yn unol â’n polisi preifatrwydd. Gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd yma.
  10. Os penderfynir bod unrhyw un o’r telerau, neu ran ohonynt, yn annilys, anghyfreithlon neu anorfodadwy i unrhyw raddau gan unrhyw awdurdod cymwys, bydd y telerau hynny yn cael eu tynnu o’r telerau presennol, a fydd yn parhau i fod yn ddilys ac yn orfodadwy i’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith.

Mae’r telerau hyn yn gymwys o fis Mawrth 2017 ymlaen, pan gawsant eu diweddaru ddiwethaf.