Buddion

Yma yn Cwmpas mae ein staff yn gweithio’n galed iawn, ac rydyn ni am eu gwobrwyo am hynny…

Buddion

Mae gennym ni amrywiaeth eang o fuddion er mwyn sicrhau bod gan bawb rywbeth i wenu amdano!

  • Cyflogau cystadleuol: Sicrhau eich bod yn ennill cyflog teg am eich cyfraniad i’r sefydliad.
  • Hyd at 8% o bensiwn a delir gan y cyflogwr: Rydyn ni’n cynnig pensiwn i bawb a byddwn ni’n cyfrannu hyd at 8% o’ch cyflog blynyddol i’ch cronfa.
  • Gweithio o bell: Mae ein holl weithwyr yn weithwyr cartref dan gontract, ond mae gan staff fynediad at rwydwaith Cymru gyfan o gyfleusterau desg boeth hefyd. (Gweler ein blog yn esbonio pam y gwnaethom ni gymryd y cam i weithio o bell yn gyfan gwbl yma).
  • Gweithio hyblyg: Eich helpu i ddod o hyd i’r cydbwysedd cywir rhwng bywyd cartref a gwaith.
  • Gwyliau: Mae hawl gwyliau hael gan ddechrau ar 25 diwrnod ynghyd â gwyliau banc y flwyddyn, sy’n cynyddu gyda gwasanaeth, hyd at 30 diwrnod ynghyd â gwyliau banc y flwyddyn.
  • Tâl salwch cwmni: Taliadau salwch hael fel y gallwch chi ganolbwyntio ar wella.
  • Budd-dal marw yn y swydd 3 x cyflog blynyddol: I helpu eich buddiolwyr enwebedig ar adeg anodd.
  • Cynllun gofal plant di-dreth: I’ch helpu gyda chostau gofal plant cymeradwy.
  • Cyflog mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael: Fel y gallwch chi ganolbwyntio ar ofalu am eich plentyn.
  • Cynllun beicio i’r gwaith: Beiciau ac ategolion am brisiau gostyngol i’ch galluogi i deithio i’r gwaith yn rhatach, yn fwy cynaliadwy yn ogystal â gwella eich iechyd.
  • Ac yn bwysicaf oll, diwylliant gwych!