Ein Hachrediadau

Ein gweledigaeth yw y dylai ein heconomi a’n cymdeithas weithio’n wahanol, gan roi pobl a’r blaned yn gyntaf.

Ein Hachrediadau

Rydyn ni’n falch bod ein hymrwymiadau i gyflawni’r weledigaeth hon wedi cael eu cydnabod a’u dilysu’n annibynnol gan gyrff dyfarnu allanol fel:

Hyderus o ran Anabledd

Ers 2016, rydyn ni wedi bod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd achrededig, sy’n golygu ein bod yn gweithredu i wella’r ffordd rydyn ni’n recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl.

Cyflog Byw

Ers 2016 rydyn ni wedi cael ein hachredu fel Cyflogwr Cyflog Byw – rydyn ni wedi ymrwymo i dalu cyflogau sy’n diwallu anghenion bob dydd, ac yn ei dro creu Cymru fwy cyfartal a mwy ffyniannus.

Buddsoddwyr mewn Pobl

Mae gennym achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl ers 2014, ac yn 2017 fe gawsom ni’r wobr Aur, gan gadarnhau ein bod yn arwain, yn cefnogi ac yn datblygu ein pobl i safon uchel. Rydyn ni’n parhau â’n hymrwymiad i’n pobl ac yn gweithio’n galed i gael statws Platinwm yn y dyfodol.

Rhuban Gwyn

Fe wnaethon ni gyflawni achrediad Rhuban Gwyn yn 2022, gan ddangos ein bod yn ymrwymo i roi diwedd ar drais dynion yn erbyn menywod a genethod.

Gwobrau Adnoddau Dynol

Ein tîm Pobl a Diwylliant oedd enillwyr Gwobrau AD Cymru 2020 yn y categori ‘Defnydd gorau o’r Gymraeg’, gan ddangos ein hymrwymiad i’r Gymraeg yn y gweithle.

Roedd ein Pennaeth Pobl a Diwylliant gwych yn enillydd Gwobrau AD Cymru 2021 yng nghategori ‘Gweithiwr Proffesiynol AD Eithriadol’, gan guro llawer o ymgeiswyr credadwy eraill a dangos y pwysigrwydd a roddwn ar bobl yn Cwmpas.

Cafodd ein tîm Pobl a Diwylliant gymeradwyaeth uchel hefyd yng Ngwobrau CIPD Cymru 2021 yng nghategori ‘Menter Iechyd a Lles Orau’, gan ddangos ein hymrwymiad i iechyd a lles drwy gydol y pandemig a thu hwnt.

Cyber Essentials

Mae Cyber Essentials yn gynllun a grëwyd gan y Llywodraeth a’r Diwydiant i amddiffyn sefydliadau rhag y bygythiadau seiber mwyaf cyffredin, a hefyd i ddiogelu cyfrinachedd, uniondeb ac argaeledd data sy’n cael ei storio ar ddyfeisiau sy’n cysylltu â’r rhyngrwyd fel gliniaduron, llechi, ffonau clyfar, gweinyddwyr ac ati. Mae gennym y marc Cyber Essentials (Plus) ac rydyn ni’n falch o ddangos ein hymrwymiad i seiberddiogelwch.

IASME

Mae IASME yn safon Lywodraethu sy’n seiliedig ar arferion gorau rhyngwladol sy’n cynnwys agweddau fel diogelwch corfforol, ymwybyddiaeth staff a data wrth gefn. Caiff ei gydnabod gan Lywodraeth y DU fel y safon seiberddiogelwch orau i gwmnïau bach. Mae gennym ni achrediad IASME sy’n cynnwys yr asesiad Cyber Essentials, ac mae hefyd yn cynnwys asesiad yn erbyn gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018.

Y Ddraig Werdd

Mae gennym ni rôl yn cynnal y blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Llwyddom i gyrraedd Lefel 2 Safon Rheoli Amgylcheddol y Ddraig Werdd am y tro cyntaf yn 2014, ac ers hynny rydyn ni wedi cynyddu ein hymdrechion, gan arwain at gyflawni Lefel 3 yn 2021. Mae’r safon hon, a weinyddir gan Groundwork Cymru, yn dangos ein bod wedi ymrwymo i ddeall ein cyfrifoldebau amgylcheddol a chymryd camau i reoli ein heffeithiau amgylcheddol.