Ein Proses Recriwtio

Ein Proses Recriwtio

Os ydych chi wedi penderfynu yr hoffech chi ymuno â’n tîm yn Cwmpas ac wedi dod o hyd i rôl ar ein porth recriwtio sy’n cyd-fynd â’ch sgiliau a’ch profiadau, mae’n bryd gwneud cais! Rydyn ni wedi egluro ein proses recriwtio isod fel eich bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl, a’r hyn rydyn ni’n chwilio amdano.

Cam 1: Cyflwyno eich ffurflen gais

Yn gyntaf, bydd angen i chi roi o’ch amser i gwblhau ein ffurflen gais ar-lein sy’n gofyn am eich gwybodaeth bersonol, a gwybodaeth am eich cyflogaeth a’ch canolwyr.

Fel rhan o’r cais, rydyn ni’n gofyn cwestiynau penodol hefyd ynghylch cymhwysedd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gofynion y rôl. Y rhan hon o’r broses ymgeisio sy’n debygol o gymryd yr amser hiraf i’w chwblhau. Dyma’r rhan bwysicaf hefyd, gan mai dyma lle rydyn ni’n dysgu fwyaf am eich sgiliau a’ch profiad mewn perthynas â’r rôl. Peidiwch â bod yn wylaidd fan hyn, a rhowch enghreifftiau i ni lle bynnag y gallwch chi!

Yr hyn rydyn ni’n chwilio amdano…

Yn y cam hwn, rydyn ni am i ymgeiswyr ddangos pa mor agos mae eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad yn cyfateb i’r meini prawf yn yr adran ‘Amdanoch Chi’ yn y swydd-ddisgrifiad, ond hefyd y byddant yn ychwanegiad gwych i’n tîm anhygoel.

Mae’n bwysig iawn i ni fod ein pobl yn rhannu ein gwerthoedd, felly ceisiwch ddangos yr ochr hon ohonoch chi eich hun hefyd. Wrth gwrs, rydyn ni’n chwilio am gais sydd wedi’i ysgrifennu’n dda hefyd gyda sillafu a gramadeg da – felly gair i gall, defnyddiwch wiriwr sillafu bob amser!

Beth yw’r cam nesaf?

Yna adolygir ffurflenni cais gan banel rhestr fer sy’n cynnwys y rheolwr recriwtio ac aelod o’r tîm Pobl a Diwylliant fel arfer. Gan amlaf, rydyn ni’n ceisio llunio rhestr fer o fewn 7 diwrnod i’r dyddiad cau. Caiff eich atebion i’r cwestiynau swydd sy’n ymwneud â chymhwysedd eu sgorio yn ôl pa mor dda rydych chi wedi dangos eich bod chi’n bodloni’r gofynion ar gyfer y rôl.

Rydyn ni’n defnyddio proses “ddall” i lunio rhestr fer. Mae hyn yn golygu bod ceisiadau’n cael eu sgorio’n ddienw – dyw’r panel sy’n llunio rhestr fer ddim yn gweld unrhyw fanylion personol am yr ymgeisydd, gan gynnwys enwau. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod ein proses recriwtio’n rhydd o ragfarn anymwybodol neu ymwybodol, a bod ceisiadau’n cael eu sgorio ar sail teilyngdod yn unig.

Rydyn ni’n cyfathrebu â phob ymgeisydd drwy e-byst sy’n cael eu hanfon drwy ein porth recriwtio. Os ydych chi’n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y rôl, anfonir gwahoddiad i gyfweliad atoch drwy’r porth recriwtio a bydd yn cyrraedd fel neges e-bost. Os nad ydych chi ar y rhestr fer y tro hwn, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi (hefyd drwy’r porth recriwtio), felly cadwch lygad ar eich mewnflwch, gan gynnwys eich ffolderi post sothach!

Rydyn ni’n cydnabod gwerth pobl anabl i’n busnes, ac rydyn ni’n dangos hyn drwy ein hachrediad fel cyflogwr sy’n hyderus o ran anabledd a thrwy sicrhau bod ein proses recriwtio’n gynhwysol ac yn hygyrch. Rydyn ni’n gofyn i bobl am anableddau ac unrhyw addasiadau rhesymol y gallwn ni eu gwneud i helpu pobl anabl gymryd rhan yn llawn. Rydyn ni’n ymrwymo hefyd i gynnig cyfweliad i unrhyw bobl anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl.

Cam 2: Y cyfweliad

Cynhelir eich cyfweliad naill ai o bell (e.e. gan ddefnyddio MS Teams) neu’n bersonol, yn dibynnu ar y rôl a lleoliadau daearyddol ymgeiswyr ac aelodau’r panel.

Bydd cyfweliadau’n cynnwys cwestiynau sy’n seiliedig ar ofynion y rôl gan mwyaf. Eu nod yw darganfod mwy amdanoch chi, eich sgiliau a’ch profiad. Bydd ein panel yn paratoi’r cwestiynau ymlaen llaw, a byddwn ni’n gofyn yr un cwestiynau i bob ymgeisydd er mwyn rhoi’r un cyfle i bawb ddisgleirio.

Yn ogystal, efallai y byddwn ni’n gofyn i chi gwblhau tasg – gall hyn fod yn rhywbeth i’w wneud ar y diwrnod, neu’n rhywbeth rydyn ni’n gofyn i chi ei baratoi ymlaen llaw (byddwn ni’n rhoi gwybod i chi bob amser ac yn rhoi o leiaf wythnos o rybudd i chi os yw hyn yn digwydd). Weithiau byddwn ni’n gofyn i chi gwblhau mwy nag un dasg.

Rydyn ni’n gwneud ein gorau bob amser i wneud i ymgeiswyr deimlo’n gyfforddus, ond serch hynny mae’r panel yn deall y gall cyfweliadau wneud i bobl deimlo’n nerfus iawn! Cofiwch fod yn naturiol, mae hwn yn gyfle i chi sicrhau mai ni yw’r sefydliad mwyaf addas i chi, ac mai chi yw’r ymgeisydd iawn i ni hefyd, felly cofiwch fod yn barod i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi, bydd cyfle i’w gofyn ar ddiwedd y cyfweliad.

Yr hyn rydyn ni’n chwilio amdano…

Mae angen i bob ymgeisydd sicrhau bod ganddyn nhw ddealltwriaeth dda o’r rôl drwy ddarllen y swydd-ddisgrifiad yn drylwyr. Gan fod llawer o’n cwestiynau’n seiliedig ar gymhwysedd, yn ystod y cam hwn rydyn ni’n am i ymgeiswyr ehangu ar eu hatebion gymaint â phosibl, gan gyfeirio at eu gwaith yn y gorffennol, profiad addysgol neu fath arall o brofiad, felly cofiwch gael enghreifftiau wrth law. Ond peidiwch â phoeni – os ydych chi’n cael trafferth gyda chwestiwn annisgwyl, mae croeso i chi gymryd ychydig o amser i feddwl. Dydyn ni ddim am i chi gael eich rhuthro a byddai’n llawer gwell gennym gael ateb pwyllog nag un cyflym!

Gair o gyngor – wrth ateb cwestiynau sy’n seiliedig ar gymhwysedd, mae’r dull STAR yn ffordd dda o strwythuro’ch atebion:

Sefyllfa (Situation) – beth oedd y cefndir, neu’r cyd-destun?

Tasg (Task) – beth oedd y brif her a oedd yn eich wynebu?

Camau gweithredu (Action) – sut wnaethoch chi fynd ati i’w datrys?

Canlyniad (Result) – beth ddigwyddodd, a beth wnaethoch chi ei ddysgu o’r sefyllfa?

Peidiwch â bod ofn gofyn i’r cwestiwn gael ei egluro os nad ydych chi’n ei ddeall y tro cyntaf. Rydyn ni eisiau dod i’ch adnabod chi, a dim ond os ydych chi’n deall yr hyn y gofynnir i chi ei wneud y bydd hynny’n digwydd.

Beth yw’r cam nesaf?

Caiff ymatebion i gwestiynau a thasgau cyfweliad eu sgorio gan ddefnyddio proses sgorio wrthrychol ac mae’r panel cyfweld am weld bod gennych chi’r sgiliau a’r profiad sy’n ofynnol yn y swydd-ddisgrifiad.

Ein nod yw rhoi gwybod i bob ymgeisydd am ganlyniad eu cyfweliad cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, os oes oedi cyn y gallwn ni roi canlyniad, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi fel eich bod yn gwybod pryd y gallwch chi ddisgwyl clywed. Rydyn ni’n gwerthfawrogi y gall aros am newyddion cyfweliad fod yn amser pryderus.

Yn gyffredinol, ein nod yw llenwi ein rolau mewn cyfweliad un cam, fodd bynnag, os yw’n briodol, byddwn ni’n gwahodd ymgeiswyr addas i ail gyfweliad, neu am sgwrs i egluro unrhyw gwestiynau sy’n parhau.

Cam 3: Y cynnig

Os byddwch chi’n llwyddiannus, bydd aelod o’r panel cyfweld yn eich ffonio ac yn cynnig y rôl i chi! Byddwn ni’n dweud wrthych am ein prif amodau a thelerau cyflogaeth ac yn dilyn hyn gyda chynnig ysgrifenedig ffurfiol.

Byddwn ni’n cynnal ein gwiriadau cyn-cyflogaeth arferol fel gofyn am eirdaon, gwirio bod gennych chi’n hawl i weithio yn y DU, gwirio cymwysterau ac unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb, ynghyd ag unrhyw wiriadau gofynnol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (gweler isod), ac unwaith y bydd holl faterion ffurfiol yn eu lle a’n bod wedi cytuno ar ddyddiad dechrau, byddwn ni’n rhoi contract cyflogaeth ffurfiol i chi.

Yna byddwn ni’n dechrau paratoi eich rhaglen sefydlu, sy’n cynnwys mynediad at borth sefydlu ar-lein y mae croeso i chi ei adolygu cyn i chi ddechrau gyda ni. Gobeithiwn y bydd hyn yn eich helpu i ymgyfarwyddo â Cwmpas ac yn rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i ddeall gofynion eich rôl newydd a setlo ynddi cyn gynted â phosibl.

Os byddwch chi’n aflwyddiannus yn dilyn cyfweliad gyda ni, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl. Peidiwch â gadael i gyfweliad aflwyddiannus eich digalonni, rydyn ni’n hapus i chi gysylltu â ni i ofyn am adborth a gallwch chi fynd ati wedyn i’w ystyried ar gyfer y rôl nesaf rydych chi’n gwneud cais amdani.

Dyma beth ddywedodd un o’n dechreuwyr newydd diweddar am broses recriwtio Cwmpas:

Samina Ali – Ymgynghorydd Rhaglenni Digidol:

Mae’r broses i ymuno â Cwmpas wedi bod fel chwa o awyr iach, mae’r profiad cynefino wedi bod yn wych, ac mae’r tîm cyfan wedi ymgysylltu’n barhaus. Dwi wedi ymuno â’r tîm Twf Busnes ac Ymgynghori, sydd wedi rhoi croeso cynnes i mi, mae mor braf gweithio gyda chydweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a brwdfrydig am wneud gwahaniaeth. Rydyn ni’n byw a bod ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn, a dyna pam y dewisais i weithio i Cwmpas.”

Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Cyfweliadau

Beth yw’r cod gwisg?

Does gennym ni ddim cod gwisg ffurfiol, rydyn ni’n ymddiried mewn pobl i wisgo’n briodol ar gyfer eu diwrnod. Pan fydd gennym ni gyfarfodydd gyda sefydliadau allanol, mae rhai pobl yn dewis gwisgo dillad busnes ffurfiol, ac mae eraill yn dewis dillad “trwsiadus anffurfiol”. Byddem ni’n argymell eich bod chi’n trin eich cyfweliad yn yr un ffordd, ond y peth pwysicaf i ni yw bod ein pobl yn teimlo’n gyfforddus ac yn ymddangos yn broffesiynol.

Beth sydd ei angen arnaf?

Os gofynnwyd i chi baratoi cyflwyniad a bod gennych chi gyfweliad wyneb yn wyneb, mae’n bwysig dod â chopi o’r cyflwyniad gyda chi ar gof bach. Gall fod yn ddefnyddiol darparu taflenni neu gopïau o’r cyflwyniad ar gyfer y panel hefyd. Gall papur a beiro fod yn ddefnyddiol hefyd, er ddim yn hanfodol, er mwyn ysgrifennu unrhyw nodiadau yr hoffech chi eu gwneud yn ystod y cyfweliad. Mae croeso i chi ddod ag unrhyw beth sy’n dangos rhai o’ch sgiliau hefyd.

Os yw eich cyfweliad yn un o bell, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i ddefnyddio MS Teams, ac os gofynnwyd i chi baratoi cyflwyniad dylech chi sicrhau eich bod yn gwybod sut i ddefnyddio’r swyddogaeth rhannu sgrin.

Rwy’n nerfus iawn, beth alla i ei wneud?

Gall cyfweliadau eich gwneud yn nerfus iawn, ond cofiwch mai pobl yw’r panel cyfweld yn y pen draw hefyd, ac maen nhw am gael y gorau gennych chi, ac felly mi fyddan nhw ac unrhyw staff eraill rydych chi’n cwrdd â nhw yn ystod y broses gyfweld, yn ceisio gwneud i chi deimlo’n gyfforddus cystal ag y gallan nhw.

Mae cyfweliadau’n gyfle gwych i siarad am eich sgiliau, felly byddwch yn barod, ceisiwch fod yn naturiol a pheidiwch â phoeni. Cofiwch, mae yr un mor bwysig mewn cyfweliad i chi sicrhau bod y rôl a Cwmpas yn iawn i chi, ag y mae i ni sicrhau eich bod chi yn iawn i ni!

Datgeliadau cofnodion troseddol

Nid ydym yn gofyn i ymgeiswyr am gofnodion troseddol oni bai ein bod yn ystyried cynnig cyflogaeth. Nid yw cofnod troseddol bob amser yn rhwystr i gyflogaeth. I gael gwybodaeth am sut rydym yn rheoli cofnodion troseddol a gwybodaeth datgelu, darllenwch ein polisi yma.

Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

O bryd i’w gilydd, gall rôl olygu bod yn rhaid i ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad DBS.

Os bydd gwiriad DBS yn angenrheidiol ar gyfer y rôl, bydd yn cael ei nodi’n glir ar y dogfennau swydd fel y byddwch yn gweld hyn cyn i chi ddechrau ar eich proses ymgeisio.

Ni all cyflogwyr wneud cais yn uniongyrchol i’r DBS am wiriad cofnodion troseddol, felly rydyn ni’n defnyddio sefydliad ambarél sy’n gweithredu ar ran y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i brosesu’r holl geisiadau cofnodion troseddol ar gyfer busnesau a sefydliadau preifat a chyhoeddus.

Bydd gwiriad DBS ond yn cael ei gynnal pan fydd y sail resymegol dros y gofyniad hwnnw ar gyfer y rôl wedi’i gyflwyno i sefydliad ambarél y DBS yn ogystal â chadarnhad bod modd ei gyfiawnhau ar gyfer y rôl.

Beth yw gwiriad DBS?

Mae gwiriad DBS yn gofnod swyddogol sy’n nodi euogfarnau troseddol unigolyn. Maen nhw’n helpu i sicrhau ein bod ni fel cyflogwr yn gwneud y penderfyniadau cywir yn ystod y broses recriwtio. Mae gwiriadau DBS yn arbennig o bwysig wrth ddod o hyd i ymgeiswyr addas i weithio gyda grwpiau agored i niwed, gan gynnwys plant. Ar ôl cwblhau’r gwiriad, byddwn ni’n adolygu eich tystysgrif DBS ac yn penderfynu ar y camau nesaf.

Rydyn ni’n cydymffurfio â gofynion Cod Ymarfer y DBS, sydd i’w weld yma: https://www.gov.uk/government/publications/dbs-code-of-practice.

Mathau o wiriadau DBS

Mae pedair lefel o wiriadau DBS: sylfaenol, safonol, manylach a manylach gyda gwiriad rhestr wahardd.

Gwiriad DBS Sylfaenol

Gellir defnyddio gwiriadau sylfaenol ar gyfer unrhyw swydd neu ddiben, gan gynnwys cyflogaeth. Bydd tystysgrif sylfaenol yn cynnwys manylion euogfarnau a rhybuddion o Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu yr ystyrir eu bod heb eu disbyddu o dan delerau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974.

Gwiriad DBS Safonol

Bydd gwiriad safonol yn cynnwys manylion euogfarnau, rhybuddion a cheryddon sydd wedi’u disbyddu a heb eu disbyddu sydd ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu, nad ydynt yn destun hidlo.

Gwiriad DBS Manylach

Mae’r gwiriad manylach ar gael ar gyfer dyletswyddau, swyddi a thrwyddedau penodol sydd wedi’u cynnwys yn rheoliadau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Gorchymyn Eithriadau 1975) a rheoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol), er enghraifft, gofalu am blant, eu hyfforddi, eu goruchwylio yn rheolaidd neu fod yn gyfrifol am blant ar eich pen eich hun yn rheolaidd, neu weithgareddau penodedig gydag oedolion sy’n derbyn gofal iechyd neu wasanaethau gofal cymdeithasol.

Mae tystysgrif lefel fanylach yn cynnwys yr un wybodaeth o Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu â’r dystysgrif lefel safonol ond mae’n cynnwys gwiriad o wybodaeth a gedwir yn lleol gan heddluoedd hefyd.

Gyda gwiriad manylach, gall cyflogwr ofyn hefyd i weld a yw darpar weithiwr neu weithiwr cyfredol wedi’i restru ar y Rhestr Wahardd ar gyfer Plant neu ar y rhestr Oedolion yn Gyntaf. Mae hyn yn sicrhau nad yw ymgeisydd yn cael ei wahardd rhag gweithio gyda grwpiau agored i niwed ond dim ond os bydd yr ymgeisydd neu’r gweithiwr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd sydd wedi’i reoleiddio y gellir gwneud cais amdano.