Ein Diwylliant a’n Gwerthoedd

Mae gweithio yn Cwmpas yn fwy na dim ond swydd. Byddwch chi’n ymuno â grŵp o unigolion sy’n poeni o ddifrif am yr hyn maen nhw’n ei wneud. 

Ein Diwylliant a’n Gwerthoedd

Fel sefydliad nid-er-elw, dydyn ni ddim yn gweithio i lenwi pocedi cyfranddalwyr. Mae unrhyw warged a wnawn yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes ac yn mynd tuag at gyflawni ein hamcanion cymdeithasol.

Rydyn ni’n sefydliad sy’n seiliedig ar werthoedd, sy’n golygu ein bod ni’n credu bod y ffordd rydyn ni’n gwneud pethau yr un mor bwysig â’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Mae ein gwerthoedd wrth wraidd yr hyn a wnawn. Gallwch chi ddarllen mwy am ein gwerthoedd a’r ymddygiad rydyn ni’n chwilio amdano yma.

Pan fyddwn ni’n chwilio am aelodau newydd o’r tîm, yn ogystal â chwilio am bobl sydd â’r sgiliau a’r profiad cywir rydyn ni’n chwilio hefyd am unigolion o’r un anian a fydd yn ymrwymo i’n gwerthoedd. Os yw hyn yn swnio fel chi, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi!

Barn ein pobl ni…

Rydyn ni’n defnyddio arolwg staff dienw’n gyson i fesur lefel ymgysylltu a boddhad staff, ac mae’n rhoi darlun gwych i ni o’r hyn mae ein gweithwyr yn ei deimlo am weithio i Cwmpas, a’r hyn y gallwn ni ei wneud i wella.

Mae canlyniadau ein harolwg diwethaf yn siarad drostyn nhw eu hunain, gyda 93% o’n staff yn falch o weithio i ni!

 

Ond peidiwch â chymryd ein gair ni – dewch i gwrdd â rhai o gydweithwyr gwych ein cwmni cydweithredol, a fydd yn dweud mwy wrthych chi am sut beth yw gweithio i ni:

Mohammed Basit: Cydgysylltydd Cynhwysiant Digidol, Cymunedau Digidol Cymru
“Mae gweithio i Cwmpas wedi rhoi cyfle i mi fod yn rhan o dîm sy'n ceisio gwneud cyfraniad cadarnhaol wrth gefnogi pobl Cymru. Mae’n flwyddyn ers i mi ddechrau gweithio i Cwmpas ar raglen Cymunedau Digidol Cymru. Mae Cwmpas wedi fy ngalluogi i rannu fy syniadau, fy ngwybodaeth a'm profiad gyda chydweithwyr ond hefyd gyda'r cymunedau rwy'n gweithio gyda nhw. Rwy'n gwerthfawrogi hyn yn fawr iawn, a'r un pryd y mae wedi caniatáu i mi ddysgu, datblygu fy sgiliau ac ehangu fy ngwybodaeth. Mae'r gefnogaeth dwi’n ei chael gan fy nhîm uniongyrchol a chydweithwyr ehangach wedi bod yn eithriadol. Mae gwerthoedd Cwmpas yn cyd-fynd â'r gwerthoedd sydd gen i ac felly mae'n bleser gweithio yma.”
Claire White: Swyddog Galluogi Dan Arweiniad y Gymuned, Tai dan Arweiniad y Gymuned
"Mae gweithio yn Cwmpas wedi fy ngalluogi i fod yn rhan o brosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau ac rwy'n teimlo'n falch o fod yn gwneud fy nghyfraniad fy hun tuag at hynny. Rwyf wedi gweithio ar wahanol brosiectau dros sawl blwyddyn ac mae gwaith tîm wedi bod wrth wraidd y ffordd rydyn ni'n gwneud pethau bob amser. Rwyf wedi cael cefnogaeth dda i dyfu a datblygu sgiliau, hyder a gwneud cynnydd yn y sefydliad. Mae fy syniadau wedi cael eu parchu bob amser ac rwyf wedi gallu cael effaith oherwydd y gefnogaeth a'r parch hwnnw. Mae'n bleser pur gweithio yn rhywle sy’n coleddu’r gwerthoedd maen nhw'n eu hyrwyddo. Mae'n lle arloesol, blaengar a chyffrous i weithio."
Russell Workman: Cynghorydd Cynhwysiant Digidol, Cymunedau Digidol Cymru
"Mae llawer o sefydliadau'n dyheu am fod yn seiliedig ar werthoedd, ond mae Cwmpas yn ymgorffori'r gwerthoedd hynny ac yn eu harddangos yn ei weithgarwch o ddydd i ddydd. Yn yr amser rwyf wedi bod gyda Cwmpas, rwyf wedi gweld ymroddiad, proffesiynoldeb ac arbenigedd staff sy'n gweithio mor frwdfrydig i hyrwyddo cynhwysiant digidol, darparu cefnogaeth i gwmnïau cydweithredol, annog busnesau newydd, a darparu amrywiaeth o wasanaethau eraill fwyfwy pwysig. Mae'r sefydliad cyfan yn cydweithio'n gefnogol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a sylweddol i fywydau pobl a busnesau ledled Cymru. Rwy'n falch o fod yn rhan o dîm Cymunedau Digidol Cymru a Cwmpas."