Busnes Cymdeithasol Cymru – twf

Os ydych chi’n rhedeg busnes cymdeithasol, gall ein tîm o arbenigwyr eich helpu i fynd o nerth i nerth tuag at ddyfodol cryfach a mwy cynaliadwy.

Busnes Cymdeithasol Cymru – twf

Amdanom ni

Tîm o gynghorwyr busnes arbenigol sy’n arbenigo mewn rheoli mentrau cymdeithasol ydyn ni. Rydyn ni’n rhan o raglen Busnes Cymdeithasol Cymru a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ac a ddarperir gan Cwmpas. Rydym wedi cynghori mentrau cymdeithasol ers 1982 ac wedi cefnogi cannoedd o fusnesau newydd ers hynny.

P’un ai’ch bod am osod seiliau cadarn ac ail-werthuso meysydd o’ch busnes craidd, neu os oes gennych syniadau cyffrous i gynyddu elw, arallgyfeirio, ehangu neu gydweithio, rydyn ni yma i chi. Mae ein cefnogaeth yn cael ei hariannu’n llawn sy’n golygu y cewch chi arweiniad rhad ac am ddim bob cam o’r ffordd.

Rhedeg busnes cymdeithasol
Bydd llwyddiant neu fethiant eich busnes cymdeithasol yn dibynnu ar ba mor effeithiol ydyw’r ffordd rydych chi'n ei redeg. Mae'n bwysig bod gennych chi strwythurau rheoli cryf ar waith ar gyfer pob un o wahanol feysydd y busnes. Mae'r strwythurau rheoli cryf hynny hefyd yn sylfaen hanfodol ar gyfer twf, gan eich helpu i wneud y mwyaf o'ch elw a chynyddu eich effaith gymdeithasol ac amgylcheddol.

Sut allwn ni helpu?

Gallwn hwyluso ‘sesiwn weledigaethol’ gyda’ch tîm i sicrhau mai’r un nodau sydd gennych mewn golwg a sut i’w cyrraedd nhw.

Gallwn eich helpu i ddatblygu ac adolygu eich cynlluniau busnes

Gallwn adolygu a gwella eich polisïau llywodraethu, helpu i gryfhau eich bwrdd a rhoi cyngor strwythur cyfreithiol i chi, gan gynnwys sut i sefydlu cangen fasnachu

Gallwn eich helpu i ddadansoddi eich busnes yn ariannol, cynnig cyngor treth a TAW a gwneud prisiad cwmni

Gallwn eich helpu i ddatblygu cynllun marchnata, adeiladu eich brand, a darparu strategaeth a hyfforddiant gwerthiant

allwn eich helpu i ddadansoddi eich polisïau presennol a datblygu gweithdrefnau perthnasol newydd, yn ogystal â’ch cefnogi gyda chontractau cyflogaeth a chanllawiau TUPE

Gallwn eich helpu i ddadansoddi eich effaith gymdeithasol a’ch helpu i’w fesur yn y dyfodol

Gallwn eich cefnogi i ddatblygu neu wella strategaeth datblygu cynaliadwy

Gallwn eich cefnogi i ddatblygu a gweithredu safonau ansawdd cyson ar draws eich busnes

Cysylltu â ni

I gael gwybod mwy am ein gwasanaethau, ffoniwch 0300 111 5050 neu e-bostiwch sbwenquiries@cwmpas.coop, neu lenwi ffurflen ymholiad.

Cysylltwch â ni
Pecyn cymorth ar-lein Busnes Cymdeithasol Cymru

Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth dechnegol ar gyfer y rhai ohonoch sy'n ystyried dechrau neu weithredu busnes cymdeithasol. Mae busnesau cymdeithasol yn cynnwys mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, cwmnïau cydfuddiannol a busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr. Trwy ddefnyddio'r wybodaeth hon ochr yn ochr â chymorth gan ein cynghorwyr busnes arbenigol, byddwch ar y llwybr i lwyddiant mewn busnes cymdeithasol.

Cliciwch Yma
Mapio’r Sector Busnesau Cymdeithasol yng Nghymru

Mae’r adroddiad diweddaraf i’r Sector Busnes Cymdeithasol yng Nghymru yn darparu tystiolaeth o ymatebolrwydd y sector i’r pandemig a’i rôl wrth geisio lliniaru rhai o’r effeithiau cymdeithasol ac economaidd niweidiol.

Darllenwch yr adroddiad

Cofrestrwch i dderbyn Cylchlythyr Sector Busnes Cymdeithasol Cymru

Enw(Required)
E-bost(Required)