Byw mewn tai cydweithredol

Asesu buddion posibl byw mewn tai cydweithredol a/neu dai dan arweiniad y gymuned (TCAG)

Byw mewn tai cydweithredol

Asesu buddion posibl byw mewn tai cydweithredol a/neu dai dan arweiniad y gymuned (TCAG)

Adroddiad i fuddion CCLH, yn canolbwyntio ar brofiadau unigolion sydd wedi byw mewn lleoliad cydweithredol neu gymunedol.

Dros y blynyddoedd rydym wedi gweld y manteision ysgafnach y gellir eu sicrhau o fyw mewn TCAG, ond yn credu bod yr amser yn iawn i brofi hyn drwy gomisiynu ymchwil a oedd yn canolbwyntio fwy ar lais unigolion a’u profiadau, a llai ar sefydliadau sy’n gefnogi. Mae ein galluogi i ddysgu o’r heriau yn ogystal â’r manteision sy’n gysylltiedig â datblygu a byw mewn TCAG yn hollbwysig i ddatblygu mudiad sy’n ffynnu yng Nghymru.

Buddion allweddol

Yn y gwaith ymchwil hwn, disgrifiodd pobl sy’n byw mewn tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned (TCAG) amrywiaeth eang o fuddion maen nhw wedi’u cael yn sgil byw yn eu cynlluniau. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Gwell sgiliau
  • Mwy o hyder
  • Gwell iechyd corfforol
  • Gwell lles meddyliol
  • Gwell sefyllfa ariannol
  • Llai o unigrwydd/arwahanrwydd
  • Mwy o ymdeimlad o gymuned
  • Mwy o allu i fyw mewn cytgord â’u gwerthoedd a’u hamgylchedd.

Roedd y darparwyr a gyfwelwyd ar gyfer y gwaith ymchwil hwn hefyd wedi amlygu amrywiaeth eang o fuddion sy’n deillio o’u cynlluniau TCAG. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Llai o drafferth gosod tai / llai o eiddo gwag
  • Llai o ôl-ddyledion rhent ymhlith tenantiaid
  • Llai o gwynion gan denantiaid
  • Llai o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Mwy o ymgysylltiad gan breswylwyr
  • Gwell cydlyniant cymunedol

Comisiynwyd yr ymchwil hon gan Communities Creating Homes, a ddarperir gan Cwmpas, gyda chefnogaeth gan DTA Cymru ac a ariennir gan Sefydliad Nationwide a Llywodraeth Cymru.