Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru

Mae angen cyfalaf ar bob busnes i ddechrau, i dyfu ac i fod yn gynaliadwy. Mae Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru yn cefnogi cymunedau i greu a buddsoddi mewn busnesau sy’n cyflawni diben cymunedol.

Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru

Amdanom ni

Ariennir Prosiect Cadernid Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru ac mae’n cael ei ddarparu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Rydym yn helpu cymunedau i gael buddsoddiad i ddiogelu a chryfhau’r pethau sydd o bwys iddyn nhw.

Pam cyfranddaliadau cymundeol

Mae ar bob busnes angen cyfalaf i gychwyn, i dyfu ac i fod yn gynaliadwy. Mae cyfranddaliadau cymunedol yn ffordd ddelfrydol i gymunedau fuddsoddi mewn busnesau sy’n darparu ar gyfer diben cymunedol.

Mae ein tîm yn frwdfrydig am berchenogaeth gymunedol ac yn mwynhau gweithio gyda phobl ar draws Cymru i godi’r cyfalaf y mae arnynt ei angen i wireddu gweledigaeth gyffredin. Os bydd arnoch angen cefnogaeth, neu os hoffech gael gwybod rhagor, cysylltwch.

Cymorth ar gyfer cynlluniau cyfranddaliadau cymunedol

Rydym yn cynnig cymorth yn rhad ac am ddim i bobl sydd eisiau sefydlu cynllun cyfranddaliadau cymunedol, gan roi arweiniad ar gamau allweddol fel a ganlyn:

  • Ennyn diddordeb eich cymuned i ddarganfod beth y mae ar bobl ei angen a phwy sy’n barod i helpu
  • Gwneud yn siŵr bod eich strwythur cyfreithiol yn caniatáu i chi godi arian trwy gyfranddaliadau cymunedol
  • Ysgrifennu eich cynllun busnes i bennu faint o gyfalaf rydych chi’n gobeithio’i godi, beth fyddwch chi’n ei wneud gyda’r arian a pham mae ei angen
  • Ysgrifennu eich dogfen cynnig cyfranddaliadau fel bod pobl yn deall beth rydych chi’n ceisio’i wneud, pam dylen nhw fuddsoddi a pha adenillion maen nhw’n debygol o’u cael
  • Hybu eich cynnig cyfranddaliadau fel bod pawb a allai fuddsoddi yn gwybod am y cyfle
community shares
Hyb Adnoddau
Mae’r meicrowefan hon yn lyfrgell o wybodaeth cyfranddaliadau cymunedol – o astudiaethau achos a ffilmiau i gyngor arbenigol a map rhyngweithiol o’r sector. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect, ein digwyddiadau, ein cyhoeddiadau a mwy, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio.
community shares
Cysylltu â ni
I gael gwybod mwy am ein gwasanaethau, ffoniwch 0300 111 5050 neu e-bostiwch csw@cwmpas.coop

Mae ein tîm yn frwd dros berchnogaeth gymunedol ac yn mwynhau gweithio gyda phobl ledled Cymru i godi’r cyfalaf sydd ei angen arnynt i gyflawni gweledigaeth a rennir. Os oes angen cymorth arnoch, neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni.

Os ydych wedi’ch lleoli y tu allan i Gymru ac angen cymorth gyda’ch cynllun cyfranddaliadau cymunedol, ewch i dudalen we Cyfranddaliadau Cymunedol yn Co-operative’s UK: Community Shares | Co-operatives UK

Darganfod mwy gan Cwmpas: Ein gwasanaethau