Gwasanaethau ymgynghori
Mae ein tîm ymgynghori yma yng Cwmpas wedi datblygu gwasanaeth unigryw i helpu sefydliadau, yn y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i gael yr effaith gymdeithasol fwyaf.

Arloesi, trawsnewid digidol ac effaith gymdeithasol
Gydag adferiad Covid-19 wrth wraidd ein strategaeth cleientiaid, rydym yn helpu busnesau i arloesi, trawsnewid y modd y darperir gwasanaethau ac addasu arfer digidol newydd. Mae ein hymgynghorwyr profiadol yn cymryd agwedd gyfannol tuag at ddarparu arweinyddiaeth a chymorth busnes, trawsnewid digidol, adeiladu cyfoeth cymunedol a mesur eich effaith gymdeithasol, i enwi ond ychydig. Mae trawsnewid perfformiad eich busnes, cydweithredu, cysylltu a darparu contract llyfn yn ganolog i’n hymgynghoriaeth.
Sut allwn ni eich helpu chi?
- Strategaeth gwerth cymdeithasol
Nodi a mapio gwerth cymdeithasol, nodi cyfleoedd yn strategol ac yn weithredol o fewn cadwyni cyflenwi. Cysylltu busnesau economi sylfaenol a mentrau cymdeithasol.
- Adferiad strategol COVID
Gan gynnwys trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus, adeiladu cyfoeth cymunedol, trosglwyddo asedau cymunedol, hwyluso strategaeth ymgysylltu, gweithredu a rheoli contractau.
- Cynhwysiant Digidol a Thrawsnewid
Datblygu, trawsnewid a gweithredu strategaeth ar gyfer y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.
- Rhaglen arweinyddiaeth menter gymdeithasol
Rhaglenni dysgu a datblygu ar gyfer pobl a sefydliadau sy’n galluogi newid cymdeithasol trwy’r Academi Menter Gymdeithasol ac Arweinyddiaeth Gymdeithasol Clore.
Mae ceisiadau am Social Leaders Cymru ar agor! Mae rhaglen arweinyddiaeth a rheolaeth wedi'i hariannu'n llawn wedi lansio i gynorthwyo adfer y Trydydd Sector a'r Sector Cymdeithasol yng Nghymru.