Busnes Cymdeithasol Cymru – busnesau newydd

Wedi’ch ysbrydoli i wneud gwahaniaeth i’n pobl neu ein planed? Siaradwch â’n tîm o arbenigwyr dechrau newydd yn Busnes Cymdeithasol Cymru.

Busnes Cymdeithasol Cymru – busnesau newydd

Dechrau busnes cymdeithasol

Os ydych yn ystyried sefydlu busnes sy’n rhoi ei elw at achos da, gall ein cynghorwyr arbenigol eich helpu i ddechrau arni. Er mwyn i’ch busnes newydd ffynnu, mae angen i chi adeiladu sylfeini cryf. Gall ein tîm gynnig cymorth busnes un i un i’ch helpu i gael popeth yn ei le. Cysylltu.

Rydym yn dîm o gynghorwyr busnes arbenigol sy’n canolbwyntio ar sefydlu mentrau cymdeithasol newydd. Rydym yn rhan o raglen Busnes Cymdeithasol Cymru sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, a’i darparu gan Cwmpas. Rydym wedi bod yn cynghori mentrau cymdeithasol er 1982, ac yn yr amser hwnnw wedi helpu i sefydlu cannoedd o fusnesau newydd.

Gall dechrau busnes fod yn heriol, ond gallwn eich tywys o ran sut i sicrhau’r dechrau gorau i’ch busnes cymdeithasol. Mae ein cymorth wedi’i ariannu’n llawn, sy’n golygu eich bod yn cael arweiniad am ddim bob cam o’r ffordd.

Sut y gallwn eich helpu?

Gallwn weithio gyda’ch grŵp i sicrhau bod yna weledigaeth a rennir ar gyfer y busnes, a’ch helpu i ddewis y strwythur cyfreithiol iawn ar gyfer eich busnes newydd

Gallwn eich helpu i ddatblygu strategaeth fuddsoddi, eich cynghori ar grantiau, benthyciadau, cyllid torfol a chyfranddaliadau cymunedol, a darparu hyfforddiant i’ch cyfarwyddwyr fel bod ganddynt hyder yn eu rolau a’u cyfrifoldebau

Gallwn helpu i ysgrifennu eich dogfen lywodraethu ac i gorffori eich busnes. Gallwn hefyd eich helpu i greu polisïau i sicrhau bod eich sefydliad yn cael ei redeg yn dda

Gallwn eich helpu i sefydlu system lywodraethu ac i ymgysylltu â darpar aelodau o’r bwrdd

Gallwn eich cefnogi i nodi unrhyw faterion o ran cydymffurfedd neu risgiau a allai fod gan y busnes a sut y gellid eu rheoli

Gallwn eich helpu i agor cyfrif banc ar gyfer eich menter newydd

Mother Matters

“Dwi’n gallu dweud o waelod fy nghalon bod Joanne wedi bod yn wych gyda mi. Roeddwn i’n gwbl ddi-glem o ran dechrau busnes. Bob tro roeddwn yn dechrau meddwl fy mod yn gwneud y peth anghywir, roedd Jo yno yn gwneud i mi sylweddoli pam fy mod wedi rhoi fy mryd ar wneud hyn a’r gwahaniaeth rydw i’n ei wneud.”

Cysylltwch â ni
Amathaon CIC

“Diolch o galon am y cymorth amhrisiadwy a ddarparwyd gan Busnes Cymdeithasol Cymru wrth sefydlu ein Cwmni Buddiannau Cymunedol, AMATHAON – fel y gwyddoch, roeddwn i’n hitio fy mhen yn erbyn wal! Roeddech chi a’ch cydweithwyr yn ffynhonnell werthfawr i mi yn y dryswch sy’n gallu wynebu rhywun wrth ddechrau a gweinyddu busnes."

Cysylltwch â ni
Dol Fach CIC

“Mae ffordd bersonol a phroffesiynol Serena yn hollol berffaith yn fy marn i. Mae’n dalcen caled dechrau menter newydd, ond mae cael Serena o gwmpas i fy nhywys yn gwneud popeth i weld yn bosib ac o fewn cyrraedd. Diolch am eich cefnogaeth.”

Cysylltwch â ni
Cysylltu â ni

Wedi'ch ysbrydoli i wneud gwahaniaeth i'n pobl neu ein planed? Siaradwch â'n tîm o arbenigwyr dechrau newydd yn Busnes Cymdeithasol Cymru. I gael gwybod mwy am ein gwasanaethau, ffoniwch 0300 111 5050 neu e-bostiwch sbwenquiries@cwmpas.coop, neu lenwi ffurflen ymholiad.

Cysylltwch â ni
Pecyn cymorth ar-lein Busnes Cymdeithasol Cymru

Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth dechnegol ar gyfer y rhai ohonoch sy'n ystyried dechrau neu weithredu busnes cymdeithasol. Mae busnesau cymdeithasol yn cynnwys mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, cwmnïau cydfuddiannol a busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr. Trwy ddefnyddio'r wybodaeth hon ochr yn ochr â chymorth gan ein cynghorwyr busnes arbenigol, byddwch ar y llwybr i lwyddiant mewn busnes cymdeithasol.

Dysgu mwy
Busnes Cymdeithasol Cymru - cymorth i dyfu

Os ydych chi'n rhedeg busnes cymdeithasol, gall ein tîm o arbenigwyr eich helpu i fynd o nerth i nerth tuag at ddyfodol cryfach a mwy cynaliadwy.

Darganfod mwy

Cofrestrwch i dderbyn Cylchlythyr Sector Busnes Cymdeithasol Cymru

Enw(Required)
E-bost(Required)