Byw mewn tai cydweithredol
Asesu buddion posibl byw mewn tai cydweithredol a/neu dai dan arweiniad y gymuned (TCAG)
Asesu buddion posibl byw mewn tai cydweithredol a/neu dai dan arweiniad y gymuned (TCAG)
Adroddiad i fuddion CCLH, yn canolbwyntio ar brofiadau unigolion sydd wedi byw mewn lleoliad cydweithredol neu gymunedol.
Dros y blynyddoedd rydym wedi gweld y manteision ysgafnach y gellir eu sicrhau o fyw mewn TCAG, ond yn credu bod yr amser yn iawn i brofi hyn drwy gomisiynu ymchwil a oedd yn canolbwyntio fwy ar lais unigolion a’u profiadau, a llai ar sefydliadau sy’n gefnogi. Mae ein galluogi i ddysgu o’r heriau yn ogystal â’r manteision sy’n gysylltiedig â datblygu a byw mewn TCAG yn hollbwysig i ddatblygu mudiad sy’n ffynnu yng Nghymru.
Buddion allweddol
Yn y gwaith ymchwil hwn, disgrifiodd pobl sy’n byw mewn tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned (TCAG) amrywiaeth eang o fuddion maen nhw wedi’u cael yn sgil byw yn eu cynlluniau. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Gwell sgiliau
- Mwy o hyder
- Gwell iechyd corfforol
- Gwell lles meddyliol
- Gwell sefyllfa ariannol
- Llai o unigrwydd/arwahanrwydd
- Mwy o ymdeimlad o gymuned
- Mwy o allu i fyw mewn cytgord â’u gwerthoedd a’u hamgylchedd.
Roedd y darparwyr a gyfwelwyd ar gyfer y gwaith ymchwil hwn hefyd wedi amlygu amrywiaeth eang o fuddion sy’n deillio o’u cynlluniau TCAG. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Llai o drafferth gosod tai / llai o eiddo gwag
- Llai o ôl-ddyledion rhent ymhlith tenantiaid
- Llai o gwynion gan denantiaid
- Llai o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Mwy o ymgysylltiad gan breswylwyr
- Gwell cydlyniant cymunedol
Comisiynwyd yr ymchwil hon gan Communities Creating Homes, a ddarperir gan Cwmpas, gyda chefnogaeth gan DTA Cymru ac a ariennir gan Sefydliad Nationwide a Llywodraeth Cymru.