Ar Agor Nawr: Mentora Digidol Am Ddim i Sefydliadau’r Trydydd Sector yng Nghymru

Mentora Digidol Am Ddim i Sefydliadau’r Trydydd Sector yng Nghymru  Rydym yn cynnig cyfle i nifer gyfyngedig o sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru dderbyn cymorth mentora digidol wedi’i deilwra am ddim drwy raglen Newid.  Mae Newid yn rhaglen bartneriaeth sy’n cael ei chyflwyno gan WCVA, Cwmpas a ProMo-Cymru, ac yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.  Rydym yn cefnogi trydydd sector Cymru i wneud y gorau o dechnoleg ddigidol. Mae hyn yn cynnwys darparu hyfforddiant ymarferol, cyngor ac adnoddau i helpu sefydliadau adeiladu hyder a gwella sut maent yn gweithio drwy ddefnyddio offer digidol.  Trwy ddysgu ar y cyd a mewnwelediadau o’r byd go iawn, rydym yn helpu elusennau a grwpiau cymunedol i fabwysiadu arferion digidol effeithiol a ffyrdd modern o weithio.  Pa gymorth fyddwch yn ei gael?  Bydd sefydliadau llwyddiannus yn derbyn hyd at 35 awr o…

Mae ein maniffesto yn galw am gynhwysiant digidol – ar draws y cenhedloedd 

Galwad ar y cyd i weithredu cyn etholiadau Senedd Cymru, Senedd yr Alban ac etholiadau llywodraeth leol Lloegr  Mae Cwmpas, Cyngor Mudiadau Gwirfoddol yr Alban, a Good Things Foundation yn gweithio ar draws y cenhedloedd i weithredu ar gynhwysiant digidol. Mae’r cydweithrediad trawsffiniol newydd hwn yn uno ein polisi a’n harfer yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.  Mae angen arweinyddiaeth a darpariaeth ar bob lefel. Mae’r maniffesto hwn yn nodi’r ymrwymiadau yr ydym am eu gweld gan ymgeiswyr a phenderfynwyr ledled Prydain Fawr.  Beth mae rhaid i lywodraethau ei wneud nawr  Wrth i ni nesáu at etholiadau mawr ledled y DU, rydym yn galw ar ymgeiswyr a llywodraethau i gymryd cynhwysiant digidol o ddifrif….