Prosiect Anhawster Digidol y Gaeaf: Sut y gwnaeth cynhwysiant digidol cydweithredol helpu i gysylltu derbynwyr gofal

24 Mehefin 2022

Mae menter partneriaeth leol ledled Cymru wedi galluogi’r rhai sydd wedi gadael yr ysbyty yn ddiweddar i wella eu sgiliau technoleg a’u cysylltedd er mwyn mynd i’r afael ag unigedd.

 

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, roedd y prosiect yn cefnogi unigolion nad oedd â mynediad i’r rhyngrwyd neu i ddyfeisiau digidol drwy gynllun talebau a llinell gymorth bwrpasol i feithrin sgiliau neu hyder gyda thechnoleg ddigidol.

Gweithiodd Jenny Phillips, cydlynydd Prosiect Anhawster Digidol y Gaeaf, yn agos gyda sefydliadau rhanbarthol ar lawr gwlad i gael cymorth i’r bobl fwyaf anghenus:

“Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi gallu cefnogi rhai o’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o gael eu hallgáu’n ddigidol ar adeg pan rydyn ni i gyd yn dibynnu ar dechnoleg i gadw mewn cysylltiad. Mae hyn yn arbennig o wir am bobl sydd wedi gadael yr ysbyty’n ddiweddar sydd o bosibl yn rhai y mae diffyg cyswllt â ffrindiau a theulu yn effeithio fwyaf arnyn nhw.

“Gallai sefydliadau hefyd ddefnyddio’r llinell gymorth i gael mynediad i’r cynllun talebau ar ran unigolion yn eu gofal tra’n galluogi staff a gwirfoddolwyr i ddatblygu sgiliau digidol neu gael gwybod mwy am y prosiect, a oedd yn rhedeg hyd at ddiwedd mis Mawrth 2022.

“Bydd y llinell gymorth a’r cymorth dilynol yn gweithio i leddfu hyn drwy ganolbwyntio ar yr unigolyn o’r cychwyn cyntaf sy’n golygu y byddwn yn gallu deall anghenion pob person yn llawn yn unigol.”

Y llinell gymorth oedd y cam cyntaf i asesu anghenion cymorth pobl a oedd wedi’u rhyddhau o’r ysbyty yn ddiweddar a’r rhai a oedd yn gofalu amdanyn nhw, gan sefydlu’r cymorth penodol oedd ei angen a’u cysylltu â darparwyr cymorth yn eu hardal leol.

Darparwyd cyllid drwy’r cynllun talebau i sefydliadau’r trydydd sector, er mwyn i unigolion penodol oedd mewn perygl o gael eu hallgáu’n ddigidol fynd ar-lein. Rhoddwyd talebau i sefydliadau corfforedig, fel Cynghorau Gwirfoddol Sirol, gan roi cymorth i’r rhai oedd yn derbyn gofal.

Cysylltodd Cwmni Cydweithredol Eryri â’r gronfa ar ran Malcolm, gofalwr di-dâl yng Ngwynedd, sy’n cefnogi ei wraig sy’n byw gyda dementia. Gan deimlo ei fod wedi’i allgáu o’r gymuned leol, roedd Malcolm eisiau gwneud mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol.

Malcolm Jones Eryri Coop case study

Roedd yn defnyddio gwasanaeth seibiant Eryri, “Cefnogi”, sy’n darparu gwasanaeth gwarchod anwyliaid, ddwywaith yr wythnos. Sylweddolodd y gwasanaeth fod darparu sesiwn ganu yn Gymraeg, drwy Spotify, yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r teulu.

Gwnaeth Coop Eryri gais am iPad a chasyn i Malcolm, a helpu ef a’i wraig i osod eu gwasanaeth eChat a’u ap Facebook ar dabled gyda chysylltiad â’r we er mwyn cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.
Meddai Gwenda Hughes o Gwmni Cydweithredol Eryri:

“Mae canu wedi trawsnewid eu bywydau… Diolch i chi unwaith eto, mae’r iPad a’r casyn wedi gwneud gwahaniaeth yn barod ac mae’n amhrisiadwy iddyn nhw fel teulu.”
Gyda chefnogaeth barhaus gan Coop Eryri, bydd Malcolm yn gallu datblygu ei sgiliau a’i hyder digidol ymhellach ac mae cynlluniau i siopa ar-lein, gan ganiatáu iddo archebu bwydydd wythnosol – yn rhoi mwy o amser iddo ofalu am ei les ei hun.

Dywedodd Malcolm:

“Mae cael fy iPad fy hun wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i fy mywyd yn barod. Rwy’n gallu treulio amser gyda’r nos yn chwilio’r rhyngrwyd am bethau sy’n bwysig i mi ac yn cysylltu â theulu a ffrindiau drwy Messenger gan ddefnyddio sgrin fwy.

Mae Malcolm yn bwriadu cael cyfrif Spotify rhad ac am ddim fel bod y gofalwr yn gallu cael cerddoriaeth Gymraeg i’w wraig, a’i restr chwarae ei hun o gerddoriaeth i’w mwynhau.

“Mae’r cyfnodau seibiant gyda chefnogaeth Cwmni Cydweithredol Eryri, sy’n cynnwys cefnogi fy ngwraig drwy gerddoriaeth, wedi bod yn achubiaeth i mi. Pan dwi’n dod nôl o fy seibiant mae’n emosiynol iawn clywed fy ngwraig yn canu caneuon Cymraeg nerth esgyrn ei phen. Roedd hi bob amser wrth ei bodd â cherddoriaeth ac mae cael cerddoriaeth yn y gwasanaeth gwarchod wedi rhoi cymaint o lawenydd i ni’r ddau”

Drwy’r prosiect, roedd yn amlwg bod yn aml nifer o ffactorau, gan gynnwys hygyrchedd, yn cyfrannu at allgáu digidol ac arwahanrwydd y rhai mwyaf anghenus – hyd yn oed mewn ardaloedd mwy trefol.

Cysylltodd Age Connects Caerdydd a’r Fro hefyd â’r gronfa ar ran eu cleient, oedd yn byw mewn caledi ariannol eithafol. Gan eu bod yn gaeth i’r tŷ oherwydd anabledd corfforol ac yn dioddef o salwch meddwl, roedden nhw’n teimlo eu bod wedi’u torri i ffwrdd o’r byd y tu allan.

Dywedodd y gweithiwr cymorth o Age Connects:
“Mae fy nghleient yn defnyddio’r ddyfais yn ddyddiol, ac mae hi’n dweud ei fod wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn ei bywyd. Erbyn hyn mae hi’n archebu ei bwyd ar-lein yn rhwydd ac mae hefyd yn cysylltu ag eraill o oedran tebyg iddi hi ei hun drwy Facebook ac Instagram.”

Gyda chymorth y prosiect, helpodd yr elusen, sy’n helpu i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu parchu a’u galluogi i gyflawni eu dyheadau, eu cleient gyda siopa ar-lein gan na all fynd allan erbyn hyn.

Gwnaeth y llechen hefyd ganiatáu i’r person ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ryngweithio â phobl ac e-bostio teulu a ffrindiau.
Roedd y derbynnydd yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gyfannol a gynigiwyd, o ganlyniad i’r cyfuniad o gefnogaeth chwalwyd y rhwystrau er mwyn gwella cynhwysiant cymdeithasol eu cleient yn sylweddol drwy ddarparu technoleg a hyfforddiant:

“Mae hi hefyd wedi ymuno â grwpiau cymorth, lle mae’n cael sgwrs ag eraill ledled y wlad sydd mewn sefyllfa debyg i hi ei hun. Dydy hi ddim yn teimlo ei bod ar ei phen ei hun erbyn hyn. Diolch am ariannu’r llechen, mae fy nghleient a’r (tîm) yn Age Connects yn ddiolchgar iawn.”

Gyda mwy i ddod o brosiect Cronfa Galedi lleol sy’n cael ei gynnal ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd, mae’r peilot yn darparu glasbrint ar gyfer llwyddiant cynhwysiant digidol cydweithredol a’r gwahaniaeth gwirioneddol y gall ei wneud i fywydau a bywoliaethau.

Meddai Marc Davies, Arweinydd y Rhaglen Ddigidol yn Cwmpas:

“Mae’r Prosiect Anhawster Digidol y Gaeaf hwn yn enghraifft wych o’r cymorth cynhwysiant digidol a gynigir drwy Cwmpas ac mae’n dangos ein cenhadaeth barhaus i ddefnyddio dulliau cydweithredol er mwyn lleihau allgáu digidol yng Nghymru.”

“Mae cydweithio â phartneriaid wedi ein galluogi i gysylltu’n llwyddiannus â’r rhai sydd â’r angen mwyaf am gyllid, hyfforddiant a chymorth ychwanegol er mwyn gwneud yn siŵr nad ydyn nhw’n cael eu gadael allan mewn byd sy’n gynyddol ddigidol ac rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar y gwaith hwn gyda phrosiectau’r dyfodol”

 

Mae gan Cwmpas arbenigedd helaeth o ran hwyluso cynhwysiant digidol i unigolion sydd wedi’i hynysu ac sy’n agored i niwed, drwy ymgynghoriaeth bwrpasol a phrosiect Cymunedau Digidol Cymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy, anfonwch e-bost atom yn: marc.davies@cwmpas.coop