Ar Agor Nawr: Mentora Digidol Am Ddim i Sefydliadau’r Trydydd Sector yng Nghymru
Rydym yn cynnig cyfle i nifer gyfyngedig o sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru dderbyn cymorth mentora digidol wedi’i deilwra am ddim drwy raglen Newid.
Mae Newid yn rhaglen bartneriaeth sy’n cael ei chyflwyno gan WCVA, Cwmpas a ProMo-Cymru, ac yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Rydym yn cefnogi trydydd sector Cymru i wneud y gorau o dechnoleg ddigidol. Mae hyn yn cynnwys darparu hyfforddiant ymarferol, cyngor ac adnoddau i helpu sefydliadau adeiladu hyder a gwella sut maent yn gweithio drwy ddefnyddio offer digidol.
Trwy ddysgu ar y cyd a mewnwelediadau o’r byd go iawn, rydym yn helpu elusennau a grwpiau cymunedol i fabwysiadu arferion digidol effeithiol a ffyrdd modern o weithio.
Pa gymorth fyddwch yn ei gael?
Bydd sefydliadau llwyddiannus yn derbyn hyd at 35 awr o gymorth mentora wedi’i deilwra, yn dibynnu ar drosiant ac angen a nodwyd. Bydd y cymorth hwn yn cynnwys:
Bydd y cymorth hwn yn cynnwys:
- Asesiad o’ch arferion gweithredol presennol a’ch ffyrdd o weithio
- Mentora personol i archwilio gwelliannau digidol ymarferol a chyfleoedd moderneiddio
- Arweiniad ar nodi a gweithredu prosesau gwell (yn y tymor byr a’r tymor hir)
- Cymorth i adeiladu capasiti mewnol a hyder i gynnal newid
- Datblygu cynlluniau gweithredu clir a realistig i helpu eich sefydliad i symud ymlaen
Mae’r cymorth wedi’i deilwra i’ch anghenion a gall gynnwys meysydd fel deallusrwydd artiffisial (AI), rheoli data, llifoedd gwaith, ac offer digidol.
Pwy all wneud cais?
Rydym yn chwilio am sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru (gan gynnwys elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol) sydd:
- Yn barod i wella sut maent yn gweithio drwy ddulliau digidol
- Yn gallu ymrwymo amser a chapasiti i’r broses fentora
- Bod â throsiant blynyddol o dros £20,000 y flwyddyn
Sut mae’n gweithio
Bydd y cymorth yn cael ei ddarparu mewn dau garfan:
- Dechrau Mehefin 2026 (Carfan 1) – ar gyfer sefydliadau sy’n barod i ddechrau’n fuan
- Dechrau Medi 2026 (Carfan 2) – ar gyfer sefydliadau sydd angen mwy o amser i baratoi
Gofynnir i chi nodi pa garfan sydd orau i chi fel rhan o’r cais.
Dyddiadau allweddol
- Agor ceisiadau: 7 Mai 2026
- Dyddiad cau: 5 Mehefin 2026 (5:00pm)
- Dyddiadau dechrau: Mehefin 2026 neu Medi 2026
- Cyswllt ar gyfer ymholiadau: newid@cwmpas.coop
Gwnewch gais nawr
Disgwyliwn alw mawr am y cynnig hwn ac rydym yn annog ceisiadau cynnar.
[Gwnewch gais yma] Newid Open Call Application 2026 / Cais Agored Newid 2026 – Fill in form
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cysylltu ym mis Mehefin.
Gofynnir i sefydliadau lofnodi cytundeb cyfranogwr byr i gadarnhau eu hymrwymiad i’r rhaglen.
Yn anffodus, oherwydd capasiti cyfyngedig y cynnig hwn, ni fydd pob cais yn llwyddiannus. Lle bo modd, bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn derbyn adborth a gwybodaeth am opsiynau cymorth amgen. Byddwn hefyd yn cadw rhestr wrth gefn rhag ofn i unrhyw sefydliadau llwyddiannus dynnu’n ôl o’r broses.