
Ar Agor Nawr: Mentora Digidol Am Ddim i Sefydliadau’r Trydydd Sector yng Nghymru
Ydy’ch sefydliad chi’n barod i fabwysiadu dulliau digidol mwy effeithlon o weithio? Mae Rhaglen Newid yn cynnig mentora wedi’i deilwra ac wedi’i ariannu’n llawn i helpu elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol ledled Cymru i foderneiddio’u dulliau gwaith. Ceisiadau ar agor tan 5pm ar 30 Mehefin 2025.
Ynglŷn â’r Rhaglen
Rhaglen bartneriaeth yw Newid, sydd yn cael ei rhedeg gan, WCVA, Cwmpas a ProMo-Cymru a’u hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Rydyn ni’n helpu trydydd sector Cymru i ddefnyddio arferion digidol yn dda. Mae hyn yn cynnwys cynnig hyfforddiant ymarferol, cyngor, ac adnoddau. Mae’r cymorth yn helpu mudiadau i deimlo’n fwy hyderus ac i weithio’n fwy effeithiol gan ddefnyddio offer digidol.
Rydyn ni’n barod i ddysgu a rhannu profiadau eraill i helpu elusennau a grwpiau cymunedol i ddefnyddio ffyrdd digidol da a ffyrdd modern o weithio. Rydyn ni hefyd yn dweud wrth bobl am safonau’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CGGD). Rydyn ni’n hyrwyddo dylunio gwasanaethau sy’n rhoi pobl yn gyntaf i helpu i greu gwasanaethau gwell i bawb.
Ynglŷn â’r ‘Galwad Agored’ hwn
Mae Rhaglen Newid yn chwilio am nifer cyfyngedig o fudiadau Trydydd Sector Cymru, (Fentrau Cymdeithasol, elusennau, a Mudiadau Cymunedol) i gymryd rhan yn ein cymorth mentora. Mae’r cynnig yma i archwilio sut all eich mudiad chi, ddefnyddio technoleg, gweithio’n fwy effeithiol, arbed amser, a gwneud newidiadau i alli wella prosesau gweithredol.
Beth yw Cymorth Mentora?
- Edrych ar sut mae eich mudiad yn gweithio ar hyn o bryd a beth yw’r weledigaeth/ uchelgais.
- Help mentora perthnasol i chi. Byddwn yn trafod defnydd ymarferol technoleg i foderneiddio fel mae’r mudiad yn gweithredu.
- Cymorth i ystyried a thrafod ffyrdd gwell o weithio yn y tymor bur ac yn y dyfodol.
- Cefnogaeth i ddatblygu gallu mewnol eich tîm i barhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio.
- Creu cynlluniau clir a syml. Bydd yn helpu eich timau i wneud i newid effeithiol.
Pwy all wneud cais?
- I gymryd rhan, rhaid i’ch mudiad:
- Fod yn fudiad trydydd sector cofrestredig sy’n gweithio yng Nghymru, gyda throsiant ariannol yn fwy na £20,000 y flwyddyn.
- Dangos eich bod yn barod i gymryd rhan yn llawn yn y rhaglen.
- Gallu i weithredu newidiadau gydag adnoddau mewnol
- Fod yn barod i fod yn rhan o’r broses mentora am yr holl amser (gweler hefyd Cwestiynau Cyffredin).
Sut byddwn ni’n dewis?
Mae cyfleoedd mentora yn gyfyngedig. Byddwn yn dewis pwy sy’n cymryd rhan drwy broses sgorio deg ac agored. Byddwn yn edrych ar eich atebion i gwestiynau allweddol ac yn hefyd rhoi’r cyfleoedd i fudiadau o bob rhan o Gymru.
Gwybodaeth Bwysig
- Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 5:00yp o’r gloch Mehefin 30, 2025
- Hyd y Rhaglen: Mehefin 2025 – Mawrth 2026
- Cysylltwch â ni am Holi: marc.davies@cwmpas.coop
Gwnewch gais nawr!
Y Camau Nesaf
Byddwn yn cysylltu efo ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 15ed Gorfennaf 2025. Yn anffodus, oherwydd y capasiti cyfyngedig staff o fewn y cynnig hwn, ni fydd pob ymgeisydd yn llwyddiannus. Lle bo modd, bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael adborth a gwybodaeth am opsiynau arall. Byddwn hefyd yn cadw rhestr wrth gefn rhag ofn y bydd rhai ymgeiswyr llwyddiannus yn tynnu’n ôl o’r broses.