Pecyn cymorth 8 – Arweinyddiaeth a diwylliant

Yn yr adran hon o’r pecyn cymorth, byddwn yn rhoi trosolwg i chi o’r deg adnodd gorau ar gyfer datblygu arweinyddiaeth ddigidol yn eich sefydliad.

Pecyn cymorth 8 – Arweinyddiaeth a diwylliant
P’un a ydych yn creu strategaeth gyda chefnogaeth a mewnbwn eich uwch dimau rheoli (ac uwch arweinwyr eraill), neu’n creu diwylliant lle mae eich timau yn teimlo’n hyderus i roi cynnig ar offer newydd. Mae’r pandemig wedi creu sbardun newydd i gyflenwi gwasanaethau digidol i gwmnïau, elusennau a gwasanaethau cyhoeddus.
Mewn egwyddor, dylai hyn olygu bod mabwysiadu offer digidol yn newid syml. Fodd bynnag, drwy sicrhau bod uwch arweinwyr yn arwain y ffordd mae’r rhain yn cael eu mabwysiadu a’u diben, gallwch ddechrau adeiladu defnydd strategol o offer digidol.
Er mwyn i sefydliad lwyddo i ddatblygu’n ddigidol, mae angen i’ch tîm cyfan deimlo’n rhan o’r broses a chael ei gynnwys wrth wneud y newidiadau angenrheidiol. Mae’n bwysig felly bod timau yn teimlo’n hyderus i ddefnyddio’r offer digidol rydych wedi’u dewis ac un ffordd sy’n gallu helpu i wneud hynny yw bod uwch arweinwyr yn mentora staff ac yn hyfforddi eich timau.
Penodau pecyn cymorth digidol

Darganfyddwch fwy am sut i weithredu esblygiad digidol yn eich sefydliad yn
hawdd gan ddefnyddio ein pecyn cymorth digidol.

Dysgu mwy
2. Data ar gyfer Gwneud Penderfyniadau

Yn y bennod hon, rydym wedi llunio rhestr o adnoddau a fydd yn egluro’r derminoleg data, ac yn esbonio sut gallwch ddefnyddio’r wybodaeth sydd gennych yn eich sefydliad...

Dysgu mwy
3. Dylunio Gwasanaeth

Yn y bennod hon rydym wedi casglu’r adnoddau gorau ynghyd er mwyn eich helpu chi i ddeall y broses dylunio gwasanaeth. Os yw eich swydd yn cynnwys creu...

Dysgu mwy