Cymryd yr awenau

Cymryd yr awenau

Pwy sy’n arwain prosiectau TDAG?

Datblygiad dan arweiniad grŵp
  • Ffrindiau, cymdogion, aelodau o’r teulu
  • Lle mae grŵp cymunedol lleol yn cychwyn ac yn hyrwyddo’r datblygiad
Datblygiad dan arweiniad sefydliadau cymunedol presennol
  • Sefydliadau cymunedol sefydledig, elusennau, eglwysi, cymdeithasau gwirfoddol
  • Lle mae sefydliad cymunedol presennol yn penderfynu naill ai ei fod yn dymuno datblygu cartrefi am y tro cyntaf neu ychwanegu at gartrefi presennol y mae’n berchen neu’n eu rheoli
Dull a arweinir gan ddatblygwyr
  • Awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, datblygwyr preifat
  • Lle bo datblygwr yn penderfynu datblygu cynllun tai dan arweiniad y gymuned, yn cychwyn y cynllun ac yn gwneud yr hyn sydd ei angen i wneud iddo ddigwydd, ac yna’n recriwtio aelodau sefydlu i ffurfio grŵp cymunedol a fydd yn cymryd perchnogaeth, rheolaeth neu stiwardiaeth o’r cynllun

Nodyn: Ym mhob un o’r tri math o ddatblygiad, mae mewnbwn a pherchnogaeth o’r prosiect gan y cymuned yn allweddol!

Grŵp llywio

Grŵp a fydd yn llywio’r prosiect drwy gydol y datblygiad. Gallai fod yn breswylwyr y dyfodol, y gymuned ehangach, neu gymysgedd o’r ddau. Gan ddefnyddio’r dulliau ymgysylltu canlynol, bydd modd ffurfio grŵp o aelodau amrywiol i lywio’r prosiect:

  • Ar lafar gwlad
  • Cofrestrau awdurdodau lleol a chofrestrau eraill
  • Rhwydweithiau cyfryngau
  • Diwrnodau agored/digwyddiadau
  • Rhwydweithiau cymunedol