Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Bydd angen rhyw fath o gymorth ar bob prosiect ar gyfer eu cynllun, ni waeth a ydynt yn grŵp cymunedol neu’n ddatblygwr, ond ni fydd pob grŵp eisiau cymorth ar gyfer yr un mathau o bethau. Gallai partneriaid gynnwys grwpiau cymunedol lleol, cynghorau cymuned a thref, awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, datblygwyr preifat, a mwy.

Pam gweithio mewn partneriaeth?

Grwpiau TDAG:
  • Mae gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig arbenigedd sylweddol mewn datblygu, rheoli prosiect a rheoli tai
  • Gall landlordiaid cymdeithasol cofrestredig helpu i gefnogi prosiectau drwy gael gafael ar arian grant cyfalaf neu ysgwyddo risg ariannol datblygu tai
  • Gall partneriaid helpu i hyfforddi a meithrin gallu o fewn sefydliadau TDAG
  • Gallai partner helpu i gael mynediad at dir sydd wedi’i glustnodi ar gyfer datblygu
Cyrff statudol:
  • Efallai y bydd grwpiau TDAG yn gallu mesur a deall yr angen lleol am dai yn well na sefydliad sydd wedi’i leoli mewn man arall
  • Gall grwpiau TDAG helpu datblygiadau i ennill cefnogaeth gymunedol, gan gynnwys goresgyn ‘NIMBYISM’
  • Gall y prosiect TDAG gynnig cyfle i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gefnogi eu cymunedau lleol, datblygu cysylltiadau a chyflawni ymrwymiadau cymdeithasol a moesegol

Mae’n bosibl y bydd cyrff statudol fel awdurdodau lleol, cynghorau tref/cymuned, a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig darparu cymorth fel:

  • Adeiladwr gallu/sgil – darparu cyngor a chefnogaeth ar angen/datblygiad tai. Efallai hefyd darparu grantiau bach
  • Darparwr tir/eiddo – mae grŵp TDAG yn prynu neu’n prydlesu tir/eiddo gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig/awdurdod lleol
  • Datblygwr – mae grŵp TDAG yn defnyddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig/awdurdod lleol fel datblygwr
  • Partner – mae grŵp TDAG a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig/awdurdod lleol yn gweithio mewn partneriaeth drwy gydol y prosiect
  • Rheolwr tai/landlord – mae grŵp TDAG yn defnyddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig/awdurdod lleol i reoli cartrefi yn y tymor hir

Opsiynau partneriaeth gyda landlord cymdeithasol cofrestredig