Diffinio eich gweledigaeth

Diffinio eich gweledigaeth

Mae gweledigaeth yn hanfodol i sefydlu’r hyn rydych am ei gyflawni gyda’ch gilydd, pwy rydych am ei helpu, sut y byddwch yn ei wneud a pham mai dull gweithredu a arweinir gan y gymuned yw’r ffordd orau o gyflawni eich canlyniadau.

Gan ddefnyddio ‘Start With Why: The Golden Circle’ gan Simon Sinek (gweler y llun isod) bydd grŵp yn gallu canolbwyntio ar eu dyheadau hirdymor, sut a beth fydd y diwylliant a’r arferion a fydd yn caniatáu iddynt gyrraedd a chyflawni eu dyhead.

Getting started

Bydd gallu cyfathrebu’n glir beth yw’r sefydliad TDAG o gymorth i’r grŵp sy’n datblygu’r cynllun ac i’r rhai y gellir gofyn i gefnogi (gan gynnwys yr aelodaeth bosibl neu’r “etholaeth” a phartneriaid posibl fel y Cyngor neu ddatblygwr).

Bydd gosod yr uchod yn helpu’r grŵp i ddatblygu eglurder, nodi’r llinellau coch posibl sy’n hanfodol iddynt, gweithio allan sut y maent yn mynd i gyflawni eu huchelgeisiau, sicrhau bod aelodau’r grŵp yn cymryd cyfrifoldeb unigol a chyfunol, ac adolygu cynnydd y grŵp. Yn bwysicaf oll efallai, bydd cael yr hanfodion hyn wedi’u nodi’n ysgrifenedig yn sicrhau rheolaeth gyfunol a mwy democrataidd o’r prosiect. Mae’n bosibl y bydd yn galluogi pawb – gan gynnwys y rhai lleiaf hyderus – i gyfrannu at ddiben y cynllun.

Mae’r camau allweddol ar y cam hwn o’r broses yn cynnwys:

Cynnal arolwg o anghenion tai

Mae arolygon anghenion tai yn nodwedd allweddol o gynlluniau tai cymunedol daearyddol. Maen nhw’n asesu’r angen lleol am dai, y galw a’r diddordeb o ran tai, trwy ddulliau data cynradd ac eilaidd. Gellir defnyddio data a gasglwyd i lywio cynlluniau tai, gan gynnwys y math o ddeiliadaeth, dyraniad, dyluniad, lleoliad a mwy.

Gall y mathau o ddulliau arolwg a ddefnyddir i asesu’r angen lleol am dai gynnwys y canlynol:

Casglu data eilaidd
  • Data cenedlaethol fel cyfrifiad, aelwydydd cenedlaethol neu’r Mynegai Amddifadedd Lluosog
  • Data lleol o e.e. proffiliau ardal neu ward, rhestrau aros ac ati.
Casglu data cynradd
  • Arolygon ar-lein
  • Arolygon post
  • Arolygon o ddrws i ddrws neu dros y ffôn
  • Cymorthfeydd, sesiynau galw heibio neu grwpiau ffocws

Esiampl o arolwg anghenion TDAG

Mae cynnal asesiad o anghenion tai hefyd yn rhan o agweddau adeiladu partneriaeth ac ymgysylltu â’r gymuned.

 

Drafftio cyfansoddiad a chynllyn gweithredu

Dylai grwpiau fabwysiadu cyfansoddiad sy’n eu cefnogi ac yn eu galluogi i weithredu yn unol â’u hamcanion a blaenoriaethau aelodau, boed hynny’n gymuned o le neu o bobl.

Dylai cynllun gweithredu esbonio pwy ydych chi, beth rydych chi’n ceisio ei wneud, pam rydych chi’n ceisio ei wneud a sut rydych chi’n mynd i’w gyflawni. Mae cael cynllun gweithredu a chyfansoddiad yn allweddol os yw’r grŵp yn bartner â sefydliadau, gan y gallant ddangos bod gan y grŵp ffocws a bod y cynlluniau’n gadarn.