Cynyddu gwerth cymdeithasol gofal
Rydym am ddod â mwy o werth cymdeithasol i’r ddarpariaeth gofal, er mwyn creu buddion mawr i ddefnyddwyr, eu teuluoedd a gofalwyr proffesiynol.
Mae gwerth cymdeithasol yn cyfeirio at yr effaith gadarnhaol y mae sefydliad yn ei chael ar gymdeithas a’r bobl sy’n byw ynddi. Mae’n golygu gwneud pethau sy’n helpu i wneud y byd yn lle gwell i bawb, yn hytrach na chanolbwyntio ar wneud arian yn unig. Pe bai gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cael eu dylunio gyda gwerth cymdeithasol mewn golwg, gallem ddatrys problemau cymdeithasol neu amgylcheddol, creu swyddi neu gyfleoedd, a gwneud cymunedau yn fwy diogel ac iachach. Mae’n bwysig meddwl am werth cymdeithasol mewn gofal cymdeithasol oherwydd mae’n ein helpu i adeiladu byd gwell a gwneud yn siŵr bod pawb yn cael y cyfle i ffynnu.
Mae ein hadnoddau’n helpu pobl sy’n comisiynu gwasanaethau gofal cymdeithasol i wneud y mwyaf o’r gwerth cymdeithasol y mae’r gwasanaethau hynny’n ei greu.