Prynu’n gymdeithasol y Nadolig hwn

7 Rhagfyr 2023

Er bod i llawer ohonom bydd tymor Nadolig yn ymwneud â ymlacio ac ailgysylltu â ffrindiau a theulu, ni ellir diystyru effaith economaidd yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae symiau enfawr o arian yn cael eu gwario wrth i bobl fynd allan i gymdeithasu a phrynu anrhegion i anwyliaid. 

Mae’n bwysig pan fyddwn yn dewis ble rydym yn gwario ein harian ein bod yn ystyried effaith ein penderfyniadau. Yn ffodus, mae gwaith caled entrepreneuriaid cymdeithasol ledled Cymru yn golygu bod gennym amrywiaeth o opsiynau ar gyfer anrhegion a gweithgareddau sy’n ein helpu i ddathlu, ond sydd hefyd yn gwneud gwahaniaeth dda yn ein cymunedau. 

 Gallwch brynu anrhegion sy’n cael eu gwneud yn gynaliadwy, bwyta mewn tafarn sy’n eiddo i’r gymuned ac sy’n cael ei rhedeg ar ran y gymuned, neu ddefnyddio busnesau sy’n ail-fuddsoddi eu helw mewn achosion da – pan fyddwch chi’n prynu nwyddau cymdeithasol, rydych chi’n helpu eich ardal leol. 

Mae ein hymchwil wedi dangos bod mentrau cymdeithasol yng Nghymru yn helpu eu cymuned mewn ystod eang o wahanol ffyrdd. Yr amcanion cymdeithasol mwyaf poblogaidd yw gwella iechyd a lles a gwella cymuned benodol, ac mae cefnogi pobl agored i niwed, mynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol ac annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden hefyd yn nodau poblogaidd. 

Ac nid dyna’r cyfan. Mae amcanion eraill yn cynnwys creu cyfleoedd cyflogaeth, gwarchod yr amgylchedd, hybu addysg a llythrennedd, hybu’r Gymraeg a chefnogi pobl ifanc fregus.  

Dros y 12 diwrnod diwethaf rydym wedi dathlu llawer o fentrau cymdeithasol ledled Cymru sy’n defnyddio’r tymor gwyliau i greu atgofion gwych, a hefyd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w cymunedau lleol, i bobl ac i’r blaned. Os oes gennych chi ychydig o siopa munud olaf i orffen, beth am edrych ar un o’r mentrau cymdeithasol gwych sy’n lleol i chi?

Prom Ally CIC (Llandudno) Wrexham’s Refill Station (Wrecsam)  
Centre for Alternative Technology (Machynlleth) Siop Havards (Newport, Pembs)  
East Gate Creative Hwb (Benfro) SimpLee Swim (Swansea) Get the Boys a Lift (Haverfordwest)
Outside Lives (Mold) Soaring SuperSaurus (Rhondda) Cae Tân (Gower)
Role Play Lane (Pontypridd) Câr y Môr (St Davids) Tregroes Waffles (Llandysul)
Awesome Wales (Barry/Cowbridge) Yellow and Blue (Wrecsam) Antur Waunfawr (Caernarfon)
Railway Gardens (Cardiff) Queer Little Shop (Aberystwyth) Roots Forest School (Ynys Mon)
Caban Cyf (Caernarfon) Growing for Change (Bangor) Growing Space (Pontypridd)
Nomad (Bangor) Blas Lon Las (Tregarth) Zombie Plastics (Gower)
The Bike Lock (Cardiff) Melin Tregwynt (Castlemorris) Y Tŷ Gwyrdd (Denbigh)
Xcel Bowl (Carmarthen) Bird Farm Alpacas (Lampeter) Ty’n Llan (Llandwrog)
Galeri (Caernarfon) Le Pub (Newport) HaverHub (Haverfordwest)

 

Ydych chi’n rheoli menter gymdeithasol ac eisiau i ni hyrwyddo eich gwaith ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol? Cysylltwch â’n Swyddog Polisi ac Ymgysylltu drwy dan.roberts@cwmpas.coop 

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am ein gwaith gyda mentrau cymdeithasol neu’n meddwl dechrau un eich hun, edrychwch ar:  

https://cy.cwmpas.coop/yr-hyn-a-wnawn/gwasanaethau/busnes-cymdethasol-cymru-cymorth-i-fusnesau-newydd/ 

https://cy.cwmpas.coop/yr-hyn-a-wnawn/gwasanaethau/busnes-cymdeithasol-cymru-cefnogaeth-i-dyfu/