Hyder Digidol Sir Ddinbych | Cwrdd â’r hyfforddwyr
Mae Hyder Digidol Sir Ddinbych, sydd wedi’u hariennir gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y Deyrnas Unedig, yn anelu at gynyddu lefelau cynhwysiant digidol yn Sir Ddinbych trwy gynnig cyfres o ymyriadau cynhwysiant digidol uniongyrchol iddynt, a fydd yn chwalu’r rhwystrau mae preswylwyr yn wynebu i ymgysylltu â chyflogaeth ac addysg. Gallwch weld y digwyddiadau rhad ac am ddim sydd ar ddod ar dudalen we ddigwyddiadau Hyder Digidol Sir Ddinbych.
Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am yr hyfforddwyr sy’n darparu’r gwasanaethau trawsnewidiol hyn ar draws y sir.
Ema Williams
“Rwy’n gweithio gyda’r cyhoedd a sefydliadau o fewn Sir Ddinbych i hyfforddi ac ysbrydoli defnyddwyr gwasanaeth i ddefnyddio digidol, trwy gynnig sesiynau hyfforddi sgiliau digidol sylfaenol a sesiynau galw heibio digidol. Mae hynny’n cynnwys helpu pobl i greu a defnyddio e-byst, i ddiogelwch ar-lein a defnyddio digidol i wella iechyd a lles.
“Dwi wedi bod yn gweithio i Cwmpas ers 2020, yn flaenorol fel Hyfforddwr Cynhwysiant Digidol a Sgiliau gyda Cymunedau Digidol Cymru, lle bûm yn hyfforddi staff a gwirfoddolwyr i fod yn fwy hyderus i helpu eraill wrth ddefnyddio digidol. Mae digidol yn rhan mor fawr o’n bywydau nawr ac mae yma i aros.
“Rwyf wedi gweld sut gall pobl gael eu gadael ar ôl os nad oes ganddynt yr hyder a’r sgiliau i gael mynediad ato. Rwy’n mwynhau helpu pobl i weld y budd o ddefnyddio technoleg ddigidol, ac rwyf wrth fy modd yn gweld eu hyder yn blodeuo gyda fy nghefnogaeth.
“Rwyf eisiau ysbrydoli a grymuso pobl yn Sir Ddinbych i ddefnyddio technoleg yn hyderus, fel nad ydynt yn colli allan ar gyfleoedd a gwasanaethau a all gyfoethogi eu bywydau. Rwyf am wneud yn siŵr nad oes neb yn cael ei adael ar ôl yn y byd cynyddol ddigidol hwn.”
Ema Williams yw ein Swyddog Hyfforddi a Datblygu ac mae’n darparu prosiect Hyder Digidol Sir Ddinbych.
Nia Parry
“Rydw i yma i gefnogi pobl sy’n byw yn Sir Ddinbych i ennill hyder a sgiliau wrth ddefnyddio technoleg a chael mynediad i’r byd digidol. Gall hyn gynnwys cymorth i sefydlu dyfais, fel iPad, ffôn symudol, gliniadur neu gyfrifiadur, helpu i lywio’r ffordd o’i chwmpas, a dysgu gwahanol ffyrdd o ddefnyddio technoleg.
“Cyn i mi ymuno â Cwmpas, roeddwn yn athrawes ysgol gynradd ar draws Cymru a Lloegr. Ac roeddwn i’n gweithio i elusen sy’n cefnogi pobl ifanc.
“Rwy’n angerddol am ddysgu sgiliau newydd ac annog pobl i ddod yn fwy hyderus yn eu dysgu, felly mae’r prosiect hwn yn hollbwysig. Mae technoleg ddigidol yn rhan o fy mywyd bob dydd (dwi weithiau’n meddwl tybed beth fyddwn i’n ei wneud hebddo!). Bydd cynyddu cynhwysiant digidol yma yn Sir Ddinbych yn sicrhau bod y gymuned yn gallu cael mynediad at y manteision o fod ar-lein. Rwy’n gobeithio y gallwn rymuso pobl leol i fentro i’r byd digidol a theimlo’n hyderus wrth lywio’r byd ar-lein hwnnw’n ddiogel.”
Mae Nia Parry yn un o’n Hyfforddwyr Sgiliau a Chynhwysiant Digidol sy’n darparu prosiect Hyder Digidol Sir Ddinbych.
Shona Williams
“Rwy’n darparu cymorth digidol i bobl sydd â sgiliau digidol cyfyngedig neu heb sgiliau digidol o gwbl, felly gall fod yn unrhyw beth o redeg sesiynau galw heibio digidol, gweithdai, a chyngor. Edrychwn ar gyflwyniadau i ddefnyddio dyfais (ei droi ymlaen, cysylltu â Wi-Fi, defnyddio llygoden ac ati), sut i ddefnyddio’ch dyfais yn effeithiol i gefnogi iechyd a lles, chwilio am swyddi, rheoli arian, a llawer mwy!
“Rydw i wastad wedi bod yn angerddol am ddeall a helpu pobl. Astudiais Seicoleg yn y Brifysgol ac yna gwnes Radd Meistr mewn iechyd plant cyn dod yn athrawes ysgol gynradd a thiwtor preifat. Mae’r swydd hon yn fy nghyffroi gan ei bod yn caniatáu i mi weithio gyda phobl o bob cefndir a’u cefnogi gan ddefnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
“Rydw i wir yn mwynhau defnyddio fy set sgiliau addysgu mewn lleoliad gwahanol a gweld dysgwyr yn gwella o ran sgiliau a hyder. Yn ddiweddar bûm yn gweithio gyda gŵr gweddw oedd yn mor ddiolchgar pan welodd y lleoedd y cafodd ei magu ar Google Maps. Ac mae’n wych cael yr effaith honno. Wrth i gymdeithas ddod yn fwy digidol, mae’n bwysig bod pawb yn gallu cael mynediad i’r byd ar-lein, os ydyn nhw angen neu os ydyn nhw eisiau. Rwy’n gobeithio y gallwn gefnogi llawer mwy o drigolion Sir Ddinbych i fod yn hyderus a’u cynnwys yn y byd digidol.”
Mae Shona Williams yn un o’n Hyfforddwyr Sgiliau a Chynhwysiant Digidol sy’n darparu prosiect Hyder Digidol Sir Ddinbych.