Interniaeth Polisi a Chyfathrebu 2024
Mae Cwmpas yn cynnig interniaeth 12 wythnos gyda’n tîm Polisi a Chyfathrebu yn benodol gyda’r nod o annog ceisiadau gan bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol yn draddodiadol ym marchnad lafur Cymru.
![Interniaeth Polisi a Chyfathrebu 2024](https://cy.cwmpas.coop/wp-content/uploads/2022/05/Company-secretary-720x405.jpg)
Ein busnes
Mae Cwmpas yn asiantaeth ddatblygu sy’n gweithio dros newid cadarnhaol, yng Nghymru ac ar draws y DU. Rydyn ni’n fenter gydweithredol, sy’n canolbwyntio ar greu economi decach, wyrddach a chymdeithas fwy cyfartal, lle mae pobl a’r blaned yn dod gyntaf.
Ein nod yw creu economi wyrddach a thecach drwy weithio i gynyddu cyfran yr economi sy’n cynnwys mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a busnesau sy’n eiddo i weithwyr; cymdeithas fwy cyfartal drwy weithio i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol – cynyddu mynediad, tegwch, amrywiaeth a chyfranogiad; a sicrhau bod newid cadarnhaol yn digwydd drwy weithio gyda phobl a sefydliadau i weithredu er budd y gymdeithas.
Ymrwymiad i ddarparu cefnogaeth i bobl, cymunedau a busnesau mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd cydweithredol ein hunain yw sail ein gwaith. Credwn fod y ffordd rydyn ni’n gwneud pethau’r un mor bwysig â’r hyn a wnawn. Mae ein gwerthoedd wedi’u hysbrydoli gan yr egwyddorion cydweithredol rhyngwladol ond maen nhw wedi’u hysgrifennu yng ngeiriau ein staff, sef:
- bod yn gydweithredol
- bod yn gefnogol
- bod yn deg
- bod yn onest
- bod yn gadarnhaol
- bod yn ysbrydoliaeth.
Fel sefydliad nid-er-elw, mae’n gwaith yn cael ei ariannu drwy gontractau a masnachu yn ogystal â chael ei gefnogi gan amrywiaeth o gyllidwyr gan gynnwys Llywodraeth Cymru.
Gallwch ddarllen am ein meysydd gwaeith yma, a darllen am yr effaith a gawn yma.
Ein pobl
Ledled Cymru rydyn ni bellach yn cyflogi bron i 100 o bobl o wahanol oedrannau, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol. Fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod nad ydyn ni’n cynrychioli’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu’n llawn o ran hil ac rydyn ni’n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn croesawu sgiliau, galluoedd a phrofiadau diwylliannol pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol yn llawn oherwydd credwn fod tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol i’n twf.
Ein lleoliad gwaith
Beth yw’r nod?
Ers blynyddoedd, rydyn ni wedi cynnig lleoliadau profiad gwaith amrywiol i bobl sydd angen cymorth i gamu i fyd gwaith. Yn 2021, 2022 a 2023 cynigiwyd interniaeth yn benodol gyda’r nod o annog ceisiadau gan bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol yn draddodiadol ym marchnad lafur Cymru. Buom yn gweithio mewn partneriaeth â Race Council Cymru i gyflawni hyn. Mae Intern 2021 bellach yn gweithio mewn swydd lawn amser, barhaol ym maes Polisi a Materion Cyhoeddus, ac mae’n hintern 2022 yn gweithio i asiantaeth gyfathrebu yn Llundain. Rydyn ni nawr yn awyddus i recriwtio intern arall ar yr un sail ar gyfer ein lleoliad yn 2024.
Beth sydd ar gael?
Byddwn yn cynnig interniaeth 12 wythnos gyda’n tîm Polisi a Chyfathrebu. Bydd yr interniaeth yn para o ddydd Llun 15 Ionawr 2024 i ddydd Gwener 5 Ebrill 2024. Byddwn yn talu’r cyflog byw gwirioneddol ar gyfer y swydd hon, h.y. £12 yr awr (sy’n cyfateb i £21,840 y flwyddyn).
Yn ddelfrydol, byddai’r interniaeth yn swydd llawn amser (35 awr yr wythnos), ond byddem hefyd yn ystyried intern rhan-amser (21-35 awr yr wythnos) os yw hyn yn helpu i gefnogi ymrwymiadau eraill.
Bydd yr Intern yn gweithio gartref gan ddefnyddio datrysiadau digidol fel Microsoft Teams i gyfathrebu ag aelodau’r tîm a rheoli dogfennau gwaith. Bydd cyfarpar digidol yn cael ei gyflenwi i’w galluogi i wneud hyn. Pan fydd angen teithio o fewn Cymru, bydd Cwmpas yn talu costau milltiroedd neu’n prynu tocynnau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Wedi’ch lleoli yn ein tîm Polisi a Chyfathrebu, byddwch yn estyn allan i gymunedau ledled Cymru i hyrwyddo ac annog ymgysylltiad â’n rhaglen Cymunedau Digidol Cymru.
Bydd hyn yn cynnwys ymchwilio ac ysgrifennu astudiaethau achos diddorol a rhannu’r rhain ar ein gwefan ac ar amryw o sianeli cyfryngau cymdeithasol. Byddwch hefyd yn cynorthwyo gyda chynllunio a chyflwyno gweminarau Cymunedau Digidol Cymru, a byddwch yn helpu i gynnal cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cymunedau Digidol Cymru.
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?
Byddwch yn dysgu am bwysigrwydd cynyddol yr agenda cynhwysiant digidol, a sut y gall y swyddogaeth polisi a chyfathrebu gefnogi busnes i gyflawni ei nodau.
Byddwch yn ennill profiad gwerthfawr o weithio fel rhan o dîm bach ond prysur, sy’n darparu gwasanaeth gwych i’n cleientiaid mewnol ac allanol.
Byddwn yn rhoi cylch gwaith i chi ar gyfer eich gwaith, a fydd yn eich galluogi i weithio’n annibynnol a defnyddio’ch creadigrwydd eich hun ond hefyd yn rhoi cymorth i chi pan fydd ei angen arnoch.
Byddwch yn gallu cael mynediad i’n Hyb E-ddysgu, sydd ag ystod eang o fodiwlau ar gael ar bynciau fel Iechyd a Diogelwch, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, Arweinyddiaeth, TG a Lles. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm a byddwch yn gallu cymryd rhan mewn unrhyw gyfleoedd hyfforddi mewnol a allai godi o bryd i’w gilydd.
Ar ôl i chi orffen eich interniaeth, byddwch yn gallu cyfeirio at y sgiliau rydych chi wedi’u dysgu wrth ymgeisio am swyddi yn y dyfodol – boed hynny fel rhan o’n proses recriwtio gystadleuol arferol, neu ar gyfer sefydliadau eraill.
Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch chi?
Rydyn ni’n chwilio am ymgeiswyr sy’n:
- ymrwymedig i werthoedd ein cwmni
- gallu hyrwyddo ein hymrwymiad i gydraddoldeb, tegwch a chynhwysiant
- gallu cyfathrebu (ar lafar ac yn ysgrifenedig) i safon uchel yn Saesneg
- gallu trefnu eu hunain yn dda a thrin gwaith gwahanol ar gyfer terfynau amser gwahanol
- gallu gweithio’n dda mewn tîm
- gallu meddwl yn greadigol, ac awgrymu syniadau newydd
- gallu defnyddio cyfrifiadur a phlatfformau fel Facebook, Twitter, LinkedIn neu YouTube.
Pwy sy’n gallu ymgeisio?
Os ydych chi’n meddwl y byddech chi’n addas ar gyfer ein lleoliad gwaith, rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n gallu:
- dangos tystiolaeth o’r hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig
- ymrwymo i’r cyfnod lleoliad llawn o 12 wythnos
- defnyddio’r rhyngrwyd gartref
- teithio i gyfarfodydd neu ddigwyddiadau yn ôl yr angen.
Rydyn ni’n annog ceisiadau gan bobl nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol yn draddodiadol ym marchnad lafur Cymru, ond mae’r lleoliad hwn ar agor i bob ymgeisydd cymwys, waeth beth fo’u rhyw, oedran, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd, hil, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, cred neu ddiffyg cred, beichiogrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil. Mae hefyd yn agored i bobl ag unrhyw lefel o brofiad gwaith mewn unrhyw faes, gan gynnwys y rhai heb unrhyw brofiad o gwbl.
Sut mae gwneud cais?
I wneud cais am yr interniaeth, cwblhewch ein ffurflen gais (Saesneg yn unig) fer a’i hanfon at recruitment@cwmpas.coop.
Rhaid i chi gyflwyno’ch ceisiadau erbyn dydd Sul 17 Rhagfyr 2023 am hanner nos.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Nicola Leybourne, Partner Pobl a Diwylliant ar 029 2080 7113.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!
![Jasmin (Policy and Comms Intern)](https://cy.cwmpas.coop/wp-content/uploads/2022/07/Headshot-e1658921637645-1024x701.jpg)
![Hajer Newman](https://cy.cwmpas.coop/wp-content/uploads/2023/05/IMG_0290-815x1024.jpg)