Hajer Newman Intern Polisi a Chyfathrebu Cwmpas

29 Mai 2023

Roeddwn i’n ddigon ffodus i dreulio amser fel intern ar y tîm Polisi a Chyfathrebu’r gwanwyn hwn yn Cwmpas. Rwyf mor ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i weithio gyda phobl mor ysbrydoledig ac mewn cwmni sy’n gwneud gwahaniaeth i gymunedau.

A finnau newydd orffen yn y brifysgol, roeddwn i’n chwilio am gyfle i gael profiad ym maes polisi a chyfathrebu. Doeddwn i erioed wedi gweithio yn y maes o’r blaen ac ym mhobman wnes i edrych roedd y cyflogwyr yn Llundain ac yn chwilio am brofiad. Felly, pan ymddangosodd interniaeth yn Cwmpas, gan roi cyfle i mi aros yng Nghymru, neidiais ar y cyfle!

Wrth dyfu i fyny yng Ngogledd Cymru am y rhan fwyaf o fy mhlentyndod, roeddwn i wedi gweld rhai o’m hoff siopau a busnesau yn cau a’r effaith a gafodd hyn ar y gymuned. Roedd dysgu am hanes Cwmpas yn helpu busnesau i oroesi a ffynnu, gan roi yn ôl i gymunedau drwy gydweithrediad a thegwch yn golygu fy mod yn teimlo cysylltiad â’u gweledigaeth ar unwaith.

Roeddwn i’n ymwybodol y byddwn i, fel lleiafrif gweladwy, yn ymuno â sefydliad gwyn yn bennaf. Wrth ddarllen drwy strategaeth y cwmni a’i werthoedd arweiniol o arddel cynaliadwyedd, bod yn agored a thegwch, roeddwn yn teimlo’n dawel fy meddwl gan ei bod hi’n amlwg bod Cwmpas wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol.

Wrth i mi ddechrau fy rôl newydd, roeddwn ychydig yn nerfus yn naturiol. Gan fy mod mewn amgylchedd gwaith newydd a oedd yn gwbl ar-lein, roeddwn i’n poeni am gysylltu â fy nghydweithwyr newydd. Roeddwn i’n teimlo’r baich ar fy ysgwyddau’n ysgafnhau gan fod y tîm yn gynnes, yn agored ac yn groesawgar. Treuliais fy wythnos gyntaf yn cael cyflwyniadau gyda thimau ar draws y sefydliad a dysgais am wahanol brosiectau sy’n cael eu cyflawni. Wrth i amser fynd yn ei flaen a threulio mwy o amser yn Cwmpas, sylweddolais fod y bobl a’r gwaith sy’n cael ei wneud yma wir yn ymgorffori’r gwerthoedd a nodir yn eu strategaeth, gan greu diwylliant gwaith cadarnhaol.

Mae cyfathrebu cynhwysol a hygyrch yn bwysig i’r tîm; roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus yn gofyn cwestiynau iddyn nhw ac yn manteisio ar eu harbenigedd. Roedd yn wych gweld bod y Gymraeg yn bwysig i’r tîm cyfathrebu, roedd popeth yn cael ei gynhyrchu i ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru. Fe wnaeth fy ysbrydoli i ailddarganfod y Gymraeg, rhywbeth nad oeddwn i wedi’i wneud ers fy nyddiau ysgol.

Yn ystod fy interniaeth cefais amrywiaeth o dasgau, o gyfrannu at ymgynghoriadau’r llywodraeth i ysgrifennu papurau briffio a blogiau. Un uchafbwynt oedd mynychu Grŵp Trawsbleidiol lle cefais gyfle i glywed gwleidyddion yn siarad a gweld y gwaith gwych y mae Cwmpas yn ei wneud i feithrin newid cymdeithasol yn weithredol. Cefais gyfle hefyd i fynychu gweithdy gwasanaeth digidol lle gwelais o lygad y ffynnon, gwaith anhygoel arloesi digidol mewn gwasanaethau gofal iechyd sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Mae’r profiadau rydw i wedi’u cael yn Cwmpas wedi rhagori ar fy holl ddisgwyliadau. Rwyf wedi dysgu sgiliau gwerthfawr y byddaf yn eu cadw drwy gydol fy ngyrfa.  Mae’n ddrwg gen i orfod ffarwelio; rwyf wedi cwrdd â phobl wych sy’n angerddol am eu gwaith. Mae gan Cwmpas ddiwylliant gwaith anhygoel ac roedd yn anrhydedd cael bod yn rhan o’r sefydliad anhygoel hwn.