Jasmin Warnock: Intern Polisi a Chyfathrebu

27 Gorffennaf 2022

Rwyf mor ffodus i fod wedi cael y cyfle i wneud Interniaeth gyda’r tîm Polisi a Chyfathrebu am dair wythnos yr haf hwn yma yn Cwmpas.

Cymru

Fel plentyn i ddau riant o Loegr a’m symudodd i America yn ifanc, roedd Cymru bob amser yn ymddangos fel cymydog pell i Loegr. Doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl pan gyrhaeddais ac ni allwn erioed fod wedi dychmygu’r harddwch syfrdanol hwnnw a oedd gan Gymru. Roeddwn wedi fy syfrdanu gan y mynyddoedd a’r dyffrynnoedd gwyrdd a’r hanes pwysig y tu ôl iddynt.

Ni wyddwn i erioed am y rhan sylweddol a chwaraeodd Cymru yn y Chwyldro Diwydiannol, na’r caledi a wynebwyd unwaith i’r diwydiant mwyngloddio symud i rywle arall. Cafodd fy nysgu ei feithrin gan arddangosion gwych yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru a amlygodd yr hanes hwn mewn llu o ffurfiau celfyddydol.

Fe wnaeth dysgu am hanes Cymru sbarduno ymateb mor emosiynol ynof na allwn i erioed fod wedi’i ddychmygu. Ymysg yr hanes, deuthum yn gyfarwydd â digwyddiadau cyfoes ac arferion gwleidyddol eraill a ddefnyddir yng Nghymru. Canfûm fod llawer o fy ngwerthoedd yn cyd-fynd â nid yn unig Cwmpas ond â’r wlad gyfan.

Roedd arferion cynaliadwyedd, cymuned a chydweithio wedi fy nghyfareddu a’m hysbrydoli, gan fy ngwneud yn fwy diolchgar byth i gael y profiad hwn.

Cwmpas

Wrth fyfyrio ar fy amser yn Cwmpas rwy’n teimlo’n hynod ddiolchgar.

Fel wrth ddechrau unrhyw swydd newydd, roeddwn yn teimlo’n swil i fod mewn amgylchedd gwaith gwahanol, yn enwedig mewn gwlad dramor. Hyd yn oed yn fwy, fel menyw Ddu roeddwn yn ymwybodol y byddwn yn dod i gymuned wyn yn bennaf. Fy eiliad gyntaf o ryddhad oedd pan ges i lyfryn a strategaeth y cwmni wedi’i anfon ataf, a oedd yn dangos gwerthoedd Cwmpas o gynaliadwyedd, tegwch a newid cadarnhaol cyffredinol. Yn sydyn teimlais don o sicrwydd gan fod amrywiaeth yn un peth roedd Cwmpas yn ymdrechu amdano.

Pan gyrhaeddais swyddfa a oedd bron yn wag, ychydig iawn o ryngweithio yr oeddwn yn ei ddisgwyl, ond prin yr oeddwn wedi dychmygu pa mor gysylltiedig y byddwn yn teimlo â phobl Cwmpas dros sgrin cyfrifiadur. Roedd fy niwrnod cyntaf yn llawn sesiynau anwytho a briffiau cyflym am bob adran. Wrth i mi ddod yn fwy cyfarwydd â’r sefydliad, sylweddolais fod ei bobl a’i raglenni yn cwmpasu’r gwerthoedd a’r nodau hynny a nodir yn ei strategaeth.

Gan weithio o fewn y tîm Polisi a Chyfathrebu, pwysleisiwyd pwysigrwydd dull cyfathrebu cynhwysol. Prin yr oeddwn yn gwybod pa mor ddwyieithog oedd Cymru mewn gwirionedd, ond roedd yn ysbrydoledig gweld y defnydd o’r Gymraeg ym mhopeth a gynhyrchwyd i greu’r ymdeimlad cryf hwnnw o gymuned Gymraeg.

Pan oeddwn yma, mynychais sawl digwyddiad, gan gynnwys, sesiwn hyfforddi LHDTC+ a greodd fforwm agored mor rhyfeddol ar gyfer cynwysoldeb a thrafodaeth. Daeth pawb yna â meddwl agored a chadarnhaol ac ymdeimlad o dderbyn, rhywbeth nad oeddwn erioed wedi’i brofi mewn amgylchedd gwaith.

Cefais gyfle hefyd i fynd i weithdy Dechrau Rhywbeth Da yn Hwlffordd, lle cefais brofiad uniongyrchol o’r gwaith sylfaenol yr oedd Cwmpas yn ei wneud i feithrin newid cymdeithasol cadarnhaol a syniadau mentrau cymdeithasol. Roedd yn wych gweld aelodau’r gymuned yn rhyngweithio ac yn rhannu eu hoffterau a’u profiadau. I mi, roedd hyn yn dangos ymhellach sut yr oedd gwerthoedd a nodau Cwmpas yn cael eu hategu gan ei weithredoedd yn y gymuned Gymraeg ehangach.

Yn yr ychydig amser yr oeddwn yma dw i erioed wedi teimlo wedi fy nghroesawu gymaint gan griw mor anhygoel o bobl. Gyda phob un rhyngweithiad roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi a’m parchu. Gallaf ddweud yn onest mai pobl Cwmpas sy’n ei wneud yr hyn ydyw.

At ei gilydd, rwyf am ddiolch i dîm Cwmpas am fy nghroesawu gyda breichiau agored a chaniatáu i mi fod yn rhan fach o’r gwaith pwysig y maent yn ei wneud. Byddaf yn gweld eisiau Cymru, ond byddaf yn gweld eisiau Cwmpas hyd yn oed yn fwy!

Diolch yn fawr, tan y tro nesaf!

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud interniaeth yn Cwmpas, cysylltwch â ni ar: marketingteam@cwmpas.coop