Ymgynghoriaeth Gwerth Cymdeithasol

Ymgynghoriaeth Gwerth Cymdeithasol

Mae gwerth cymdeithasol yn ymwneud â chreu gwerth y tu hwnt i elw.

Mae Cwmpas wedi bod ar flaen y gad gyda gwerth cymdeithasol yng Nghymru ers blynyddoedd. Gallwn eich helpu i osod gwerthoedd da fel rhan o weithrediadau dyddiol busnesau er mwyn i ni allu gwneud bywyd yn well i’r cymunedau lle rydyn ni’n byw ac yn gweithio. 

Nid ymarfer ticio blychau yw gwerth cymdeithasol bellach. Ein nod yw rhoi gwerth cymdeithasol wrth galon pob busnes neu sefydliad yng Nghymru gyda chymorth sy’n ymarferol ac yn ymatebol i anghenion eich busnes.  

Rydyn ni’n darparu arweiniad a chefnogaeth arbenigol ymarferol i ddatrys eich anghenion gwerth cymdeithasol byr dymor a hir dymor ac i’ch helpu chi i’w darparu.  

Bydd llawer o sefydliadau a busnesau ar wahanol gamau o’u taith gwerth cymdeithasol.  Rydyn ni’n arbenigo ar ymuno â chi ar y daith honno – lle bynnag ydych chi – a rhoi’r gefnogaeth benodol sydd ei angen arnoch chi i dyfu eich gwerth cymdeithasol, pa fath bynnag o gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi a’ch sefydliad.  


Ble bynnag ydych chi ar eich taith gwerth cymdeithasol, gallwn ni eich helpu Dyma ein fideo yn egluro gwerth cymdeithasol:

Cylch gwasanaethau gwerth cymdeithasol
Sut gallwn ni eich helpu gyda'ch llwybr gwerth cymdeithasol?
Mae pum cam i gylch llwyddiant gwerth cymdeithasol Cwmpas, ond nid taith linellol yw creu gwerth cymdeithasol, felly gall busnesau a sefydliadau ymuno â'r cylch ar ba bwynt bynnag sy'n addas iddyn nhw. Gadewch i ni eich helpu i osod gwerth cymdeithasol wrth galon strategaeth fusnes sy'n ystyried buddiannau cymdeithasol economaidd ac amgylcheddol.
Canfod Gwerth Cymdeithasol

Dyma’r amser i gloddio i ganfod y rhesymau pam. Gallwn ddod â’n harbenigedd a’n profiad
at y bwrdd, ond mae’n hanfodol ein bod yn gwrando arnoch chi, ar eich pryderon, eich
gobeithion a’ch dyheadau o ran gwerth cymdeithasol.

Read more
Dadansoddi Gwerth Cymdeithasol

Mae pob busnes neu sefydliad yn unigryw, ac mae’n dull pwrpasol wedi’i deilwra i helpu eich tîm
rweinyddiaeth ddylunio a darparu gwerth cymdeithasol sy’n cyd-fynd â’ch amcanion strategol a masnachol.

Read more
Datblygu Strategaeth

Dyma ble rydyn ni’n eich helpu i ddod â phopeth at ei gilydd, drwy lywio eich busnes yn unol â’r amcanion sydd wedi eu nodi yn yr archwiliad. Rydyn ni’n hapus i dorchi ein llewys i’ch cefnogi gyda gweithgareddau.

Read more
Adrodd ar werth cymdeithasol

Rhoi eich bwriadau a’ch dyheadau am werth cymdeithasol ar ddu a gwyn ac esbonio pam eich bod yn cofleidio gwerth cymdeithasol.

Read more
Hyfforddiant a Mentora

Dewch i ni sicrhau fod pawb yn eich sefydliad yn deall y rhan sydd ganddyn nhw i’w chwarae yn eich llwyddiant o ran gwerth cymdeithasol a bod ganddyn nhw’r offer iawn i’w arloesi a’i gofleidio.

Read more
Gweminarau Gwerth Cymdeithasol

O gyflwyniad i werth cymdeithasol, gweminarau uwch ar werth cymdeithasol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae gan Cwmpas nifer o sesiynau addysgol ar gael i'ch tîm.

Read more

Gwerth Cymdeithasol trwy eich cadwyni cyflenwi

Mae prynu’n lleol a phrynu’n lleol yn bwysig i’n cleientiaid, a dyna pam rydym yn aml yn helpu timau caffael i wella eu cadwyni cyflenwi. Mae sawl mantais o ymgysylltu â busnesau cymdeithasol yn eich cynlluniau caffael ac amlygir y cyfleoedd a gollwyd yn ein hadroddiad diweddar ar gyfer Archwilio Cymru.  Gall y tîm yn Cwmpas eich helpu i edrych ar eich cadwyn gyflenwi leol.

Mae'n ymwneud â chreu gwerth y tu hwnt i elw - gwerth sy'n helpu Cymru i ffynnu.   

Adam Cox, Prif Ymgynghorydd Gwerth Cymdeithasol

Ymgynghoriaeth Gwerth Cymdeithasol Cwmpas

DEWCH I SGWRSIO
Ydych chi'n barod? Gwerth cymdeithasol yw un o'r pethau mwyaf craff a gwerthfawr y gallwch ei gynnwys fel busnes. Gadewch i'n tîm arbenigol eich helpu chi. Cysylltwch heddiw i weld sut y gallwn ni eich helpu chi.
Cysylltwch gyda'r tim