Sut y Gall Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Roi Sylfaen Gadarn i Chi ar Gyfer Gwerth Cymdeithasol

18 Mai 2023

Mae gan bawb fuddiant breintiedig mewn gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, ac mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn offeryn y gellir ei ddefnyddio i helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu cyfrifoldebau yn hyn o beth.

Fodd bynnag, rydyn ni yn Cwmpas yn credu’n gryf bod y saith nod llesiant a amlinellir yn y Ddeddf hefyd yn cyflwyno glasbrint cadarn ar gyfer busnesau a sefydliadau eraill – ar gyfer pob busnes a sefydliad – sydd am wella cadernid economaidd a chymdeithasol eu cymunedau. Mewn geiriau eraill, i sefydliadau sydd eisiau cyflwyno gwerth cymdeithasol.

Mae mwy a mwy o fusnesau ledled y byd yn darganfod bod ‘ennill wrth ddychwelyd’ yn gwneud synnwyr busnes cadarn, yn anad dim oherwydd po fwyaf bywiog a gwydn yw ein cymunedau, y mwyaf economaidd weithgar ydyn nhw. Yn yr un modd mae cael gweithlu sy’n teimlo wedi’i ymroi i greu gwerth cymdeithasol yn eu cymunedau yn rhoi ymdeimlad gwirioneddol o hunan benderfyniad, hunan-barch a chymhelliant.

Y saith nod llesiant sydd yn y Ddeddf yw:

  • Cymru Lewyrchus
  • Cymru Gydnerth
  • Cymru sy’n Fwy Cyfartal
  • Cymru Iachach
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Iaith Gymraeg yn Ffynnu
  • Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Byd-eang

Mae’r nodau hyn yn disgrifio’r math o Gymru rydyn ni am ei gweld, on’d ydyn nhw?

Yma yn Cwmpas rydyn ni’n canolbwyntio’n llwyr ar helpu sefydliadau i ddod o hyd i ffyrdd o ddod â gwerth cymdeithasol i’w gweithrediadau sydd wedi’u teilwra i anghenion penodol eu cymunedau. Rhaid i ni beidio â defnyddio’r Ddeddf fel ymarfer ticio blychau sy’n ein helpu i gwrdd â gofynion cyfreithiol ond heb ddod â manteision gwirioneddol yn lleol. Mae o fudd i bawb yma yng Nghymru i helpu i adeiladu cymdeithas ffyniannus, arloesol, carbon isel sy’n defnyddio ei hadnoddau yn glyfar, yn datblygu poblogaeth fedrus sydd wedi’i haddysgu’n dda ac economi sy’n cynhyrchu cyfoeth.

Sut ydyn ni’n cymhwyso hyn i’n sefydliadau?

Gallwn ni eich helpu gyda hyn. Mae ein tîm Ymgynghori Busnes yn cynnig arweiniad a chymorth hyblyg ar werth cymdeithasol, sy’n cyd-fynd yn agos â’r egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, i’ch helpu i ddiffinio a chyrraedd eich nodau gwerth cymdeithasol, ble bynnag ydych chi ar eich taith gwerth cymdeithasol. Gallwch ddod i mewn ac allan ar unrhyw bwynt sy’n addas i chi ac i’ch sefydliad. Felly, efallai y byddwch yn dod atom i gael cefnogaeth ar:

  • Ddigwyddiadau Rhanddeiliaid Gwerth Cymdeithasol
  • Strategaeth Gwerth Cymdeithasol
  • Caffael Gwerth Cymdeithasol
  • Atebion Ymarferol i Werth Cymdeithasol

Ac fel rhan o’ch taith, byddem yn eich annog i ddefnyddio’r Pum Dull o Weithio sydd i’w gweld yn y Ddeddf fel canllaw parod. Bydd y rhain yn eich annog i feddwl am:

  • Wneud yn siŵr nad yw sicrhau bod y gweithgareddau rydych wedi’u cynllunio er mwyn cwrdd ag anghenion tymor byr yn tanseilio cynlluniau tymor hirach.
  • Ystyried sut mae nodau ac amcanion eich sefydliad yn integreiddio ac yn effeithio ar ei gilydd, a sut maen nhw’n effeithio ar eich rhanddeiliaid.
  • Sut y gallwch gynnwys y bobl iawn i wneud eich sefydliad yn fwy ymwybodol o werth cymdeithasol, a sut y gallwch chi sicrhau eu bod nhw’n grŵp amrywiol, gydag amrediad o ddoniau.
  • Sut y gallwch gydweithio’n dda gyda phobl o fewn eich sefydliad, pobl yn y gymuned neu gyda chleientiaid, cwsmeriaid a rhanddeiliaid, i ddod â mwy o werth cymdeithasol i’ch gweithrediadau.
  • Sut y gallai gweithio i atal problemau rhag digwydd neu rhag gwaethygu eich helpu i gwrdd â’ch nodau gwerth cymdeithasol.

Swnio’n ddiddorol?

Gall ein gwasanaethau pwrpasol eich helpu i gyflawni newid cymdeithasol sy’n alinio gyda’ch nodau strategol a masnachol, gan sicrhau bod unrhyw newid y byddwch yn ei gyflawni mor unigryw â’ch sefydliad.

Dechreuwch ar eich newid cadarnhaol unigryw heddiw. Cysylltwch â ni heddiw i gael gwybod sut y gallwn eich helpu.

E-bost: commercialteam@cwmpas.coop