Astudiaeth Achos: Wynne Construction

18 Mai 2023

Wynne Construction – cwmni adeiladu arobryn o Gymru sy’n darparu atebion arloesol o ansawdd uchel ac yn gweithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Dechreuodd ein cysylltiad â’r cwmni ym mis Mawrth 2022, pan ddaeth Rheolwr Gwerth Cymdeithasol Wynne Construction, Alison Hourihane, ar draws un o’n ‘podlediadau ‘social value in construction’ ar LinkedIn a holi am ein gwasanaethau.

Cefndir

Sefydlwyd Wynne Construction ym 1934, gan weithredu yn Rhuddlan i ddechrau. Yn ystod ei ddatblygiad cynnar, roedd ei dwf strwythuredig a’i effaith gadarnhaol ar y gymuned a’r economi leol yn hwb i’w lwyddiant gan greu cysylltiadau masnachol cryf ag awdurdodau lleol a chleientiaid fel ei gilydd.

Mae’n darparu gwasanaethau adeiladu a chysylltiedig i sefydliadau’r sector cyhoeddus a phreifat mewn amrywiaeth o sectorau marchnad, gyda chleientiaid yn cynnwys cyrff y sector cyhoeddus, awdurdodau lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG, prifysgolion, colegau a chleientiaid preifat.

Y broses a sut wnaethon ni helpu

Un o’r prif amcanion i Wynne Construction oedd dyfeisio ffordd i gynyddu’r ddealltwriaeth o’i hanes a’i ddiwylliant, a sut mae wedi tyfu fel busnes.

Rydym yn deall bod llywio dull sefydliad o ymdrin â gwerth cymdeithasol yn golygu ein bod ni’n helpu i newid a llunio ei ddiwylliant hefyd. Roedd hyn yn golygu ein bod wedi gorfod annog y tîm rheoli cyfan i fabwysiadu’r broses yn llawn.

Mae cam cyntaf unrhyw brosiect yn cynnwys tasg baratoi a chanfod ffeithiau lle rydym yn dadansoddi’r dull cyfredol, yn diffinio dyheadau ac yn nodi unrhyw heriau a allai godi.

Yna, aethom ati’n syth i gynnal gweithdy diwrnod llawn ar ymgysylltu â gwerth cymdeithasol. Bu ein Prif Ymgynghorydd Cyswllt Busnes Cymdeithasol, Adam Cox, a’n Swyddog Polisi Sector Menter Gymdeithasol, Dr Sarah Evans, yn gweithio i ddatblygu strategaeth ymgysylltu gynhwysfawr â rhanddeiliaid ar werth cymdeithasol.

Ein prif ffocws oedd mynd i’r afael â gwerth cymdeithasol a beth mae’n ei olygu i Wynne Construction, gan sefydlu ei sefyllfa gyfredol ac amlinellu ei weledigaeth ar gyfer y dyfodol. Yn y sesiwn hon, sefydlwyd sefyllfa, gweledigaeth a dyheadau’r cwmni o ran sut y byddant yn cyflawni gwerth cymdeithasol wrth symud ymlaen.

Cynhaliwyd archwiliad o werth cymdeithasol hefyd, gan gadarnhau perfformiad ac allbwn gwerth cymdeithasol Wynne Construction yn erbyn set benodol o fetrics deddfwriaeth. Un agwedd ar hyn oedd mesur yn erbyn saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Nododd yr archwiliad beth oedd yn gweithio ar hyn o bryd a beth y gellid ei wella a’i weithredu wrth symud ymlaen.

Canlyniad

Roedd canlyniadau ein gwaith yn cynnwys cydgynllunio grŵp rhanddeiliaid mewnol yn Wynne Construction. Buom yn helpu i lunio ei strategaeth a’i ddull o ymdrin â gwerth cymdeithasol ac i gydnabod ei bwysigrwydd yn y diwydiant adeiladu.

Mae llwyddiant y prosiect hwn wedi golygu ein bod ni wedi datblygu perthynas waith barhaus â Wynne Construction sydd wedi’i hadeiladu ar ymddiriedaeth a dealltwriaeth o’i werthoedd a’i ddiwylliant. Mae’r tîm yn Wynne Construction yn deall pwysigrwydd atebolrwydd yn ogystal ag allbynnau ansoddol a meintiol gwerth cymdeithasol.

Roedd sefydlu dull newydd o ymdrin â gwerth cymdeithasol yn bwysig i Wynne Construction gan ei fod wedi sicrhau bod y cwmni’n cael cymaint o effaith gymdeithasol â phosibl i gwsmeriaid a chymunedau, gan ymgorffori egwyddorion sy’n mynd y tu hwnt i rwymedigaethau cytundebol.

Meddai Alison Hourihane, Rheolwr Gwerth Cymdeithasol Wynne Construction:

“Mae’r dull a weithredwyd gan Cwmpas wedi’i groesawu ar draws y cwmni ac wedi’i ymgorffori yn ein diwylliant erbyn hyn. Fel cwmni sy’n tendro am brosiectau yn gyson, mae’r cyngor a’r arweiniad a roddodd Cwmpas i ni wedi’n helpu ni o ran sut i ymateb i’r ymatebion gwerth cymdeithasol a bodloni gofynion gwerth cymdeithasol a bennir gan Lywodraeth Cymru.

“Mae gwybodaeth Adam am y diwydiant adeiladu, ynghyd â’r dull trylwyr gan Cwmpas, wedi bod yn hanfodol i’n llwyddiant, gan ein bod ni wedi gallu defnyddio’r cyngor yn uniongyrchol a deall yn llwyr beth sydd angen i ni ei gyflawni.”

Meddai Andy Garner, Cyfarwyddwr Cyd-adeiladu, Wynne Construction:

“Roedden ni’n awyddus i adolygu ein dull gwerth cymdeithasol a sefydlu gweledigaeth gwerth cymdeithasol newydd i Wynne Construction, gyda chyfranogiad llawn y tîm rheolwyr arwain. Mae Cwmpas wedi’n cefnogi ni’n llwyr drwy’r broses hon, yn cynnwys gweithdy ymgysylltu a sicrhau bod gwerth cymdeithasol yn cael ei ymgorffori yn y sefydliad ac yn mynd y tu hwnt i’n rhwymedigaethau cytundebol. Mae’r adnoddau gennym yn awr i sicrhau’r effaith gymdeithasol orau bosibl i’n cwsmeriaid a’r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt.”

Meddai Adam Cox, ein Prif Ymgynghorydd Gwerth Cymdeithasol:

“Mae’n braf gweithio gyda sefydliad sy’n gweld gwerth cymdeithasol fel rhywbeth sydd ag effaith y tu hwnt i fetrics. Mae’r berthynas barhaus yn ein galluogi ni i ddatblygu syniadau gwerth cymdeithasol creadigol i’w yrru ymlaen er budd ein cymunedau.”

Dechreuwch ar eich newid cadarnhaol unigryw heddiw. Cysylltwch â ni heddiw i gael gwybod sut y gallwn eich helpu.

Adam Cox: adam.cox@cwmpas.coop