Ymgynghoriaeth Gwerth Cymdeithasol
Mae gwerth cymdeithasol yn ymwneud â chreu gwerth y tu hwnt i elw.
Mae Cwmpas wedi bod ar flaen y gad gyda gwerth cymdeithasol yng Nghymru ers blynyddoedd. Gallwn eich helpu i osod gwerthoedd da fel rhan o weithrediadau dyddiol busnesau er mwyn i ni allu gwneud bywyd yn well i’r cymunedau lle rydyn ni’n byw ac yn gweithio.
Nid ymarfer ticio blychau yw gwerth cymdeithasol bellach. Ein nod yw rhoi gwerth cymdeithasol wrth galon pob busnes neu sefydliad yng Nghymru gyda chymorth sy’n ymarferol ac yn ymatebol i anghenion eich busnes.
Rydyn ni’n darparu arweiniad a chefnogaeth arbenigol ymarferol i ddatrys eich anghenion gwerth cymdeithasol byr dymor a hir dymor ac i’ch helpu chi i’w darparu.
Bydd llawer o sefydliadau a busnesau ar wahanol gamau o’u taith gwerth cymdeithasol. Rydyn ni’n arbenigo ar ymuno â chi ar y daith honno – lle bynnag ydych chi – a rhoi’r gefnogaeth benodol sydd ei angen arnoch chi i dyfu eich gwerth cymdeithasol, pa fath bynnag o gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi a’ch sefydliad.
Ble bynnag ydych chi ar eich taith gwerth cymdeithasol, gallwn ni eich helpu. Dyma ein fideo yn egluro gwerth cymdeithasol:
Dyma’r amser i gloddio i ganfod y rhesymau pam. Gallwn ddod â’n harbenigedd a’n profiad
at y bwrdd, ond mae’n hanfodol ein bod yn gwrando arnoch chi, ar eich pryderon, eich
gobeithion a’ch dyheadau o ran gwerth cymdeithasol.
Mae pob busnes neu sefydliad yn unigryw, ac mae’n dull pwrpasol wedi’i deilwra i helpu eich tîm
rweinyddiaeth ddylunio a darparu gwerth cymdeithasol sy’n cyd-fynd â’ch amcanion strategol a masnachol.
Dyma ble rydyn ni’n eich helpu i ddod â phopeth at ei gilydd, drwy lywio eich busnes yn unol â’r amcanion sydd wedi eu nodi yn yr archwiliad. Rydyn ni’n hapus i dorchi ein llewys i’ch cefnogi gyda gweithgareddau.
Rhoi eich bwriadau a’ch dyheadau am werth cymdeithasol ar ddu a gwyn ac esbonio pam eich bod yn cofleidio gwerth cymdeithasol.
Gwerth Cymdeithasol trwy eich cadwyni cyflenwi
Mae prynu’n lleol a phrynu’n lleol yn bwysig i’n cleientiaid, a dyna pam rydym yn aml yn helpu timau caffael i wella eu cadwyni cyflenwi. Mae sawl mantais o ymgysylltu â busnesau cymdeithasol yn eich cynlluniau caffael ac amlygir y cyfleoedd a gollwyd yn ein hadroddiad diweddar ar gyfer Archwilio Cymru. Gall y tîm yn Cwmpas eich helpu i edrych ar eich cadwyn gyflenwi leol.
Mae'n ymwneud â chreu gwerth y tu hwnt i elw - gwerth sy'n helpu Cymru i ffynnu.