Ymgysylltu â rhanddeiliaid
Bydd angen rhyw fath o gymorth ar bob prosiect ar gyfer eu cynllun, ni waeth a ydynt yn grŵp cymunedol neu’n ddatblygwr, ond ni fydd pob grŵp eisiau cymorth ar gyfer yr un mathau o bethau. Gallai partneriaid gynnwys grwpiau cymunedol lleol, cynghorau cymuned a thref, awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, datblygwyr preifat, a mwy.
Pam gweithio mewn partneriaeth?
Grwpiau TDAG:
- Mae gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig arbenigedd sylweddol mewn datblygu, rheoli prosiect a rheoli tai
- Gall landlordiaid cymdeithasol cofrestredig helpu i gefnogi prosiectau drwy gael gafael ar arian grant cyfalaf neu ysgwyddo risg ariannol datblygu tai
- Gall partneriaid helpu i hyfforddi a meithrin gallu o fewn sefydliadau TDAG
- Gallai partner helpu i gael mynediad at dir sydd wedi’i glustnodi ar gyfer datblygu
Cyrff statudol:
- Efallai y bydd grwpiau TDAG yn gallu mesur a deall yr angen lleol am dai yn well na sefydliad sydd wedi’i leoli mewn man arall
- Gall grwpiau TDAG helpu datblygiadau i ennill cefnogaeth gymunedol, gan gynnwys goresgyn ‘NIMBYISM’
- Gall y prosiect TDAG gynnig cyfle i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gefnogi eu cymunedau lleol, datblygu cysylltiadau a chyflawni ymrwymiadau cymdeithasol a moesegol
Mae’n bosibl y bydd cyrff statudol fel awdurdodau lleol, cynghorau tref/cymuned, a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig darparu cymorth fel:
- Adeiladwr gallu/sgil – darparu cyngor a chefnogaeth ar angen/datblygiad tai. Efallai hefyd darparu grantiau bach
- Darparwr tir/eiddo – mae grŵp TDAG yn prynu neu’n prydlesu tir/eiddo gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig/awdurdod lleol
- Datblygwr – mae grŵp TDAG yn defnyddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig/awdurdod lleol fel datblygwr
- Partner – mae grŵp TDAG a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig/awdurdod lleol yn gweithio mewn partneriaeth drwy gydol y prosiect
- Rheolwr tai/landlord – mae grŵp TDAG yn defnyddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig/awdurdod lleol i reoli cartrefi yn y tymor hir
Opsiynau partneriaeth gyda landlord cymdeithasol cofrestredig
Rôl y LCC
Adeiladwr gallu
Darparwr tir
Darparwr tir (prydles)
Darparwr prydles
Prydlesai
Asiant datblygu
Cyd-gynhyrchydd
Asiant rheoli
Landlord
Disgrifiad
Mae LCC yn cynnig cyngor a chymorth pro-bono i sefydliadau TDAG (gallai hefyd gynnwys grantiau bach)
Mae grŵp TDAG yn prynu safle gan LCC i ddatblygu eu cynllun
Mae grŵp TDAG yn prydlesu safle oddi wrth LCC i ddatblygu eu cynllun (dylai prydlesi fod yn rhai hirdymor)
LCC sy'n berchen ar rydd-ddaliad y cartrefi ac yn eu prydlesu i'r sefydliad TDAG ar brydles hirdymor. Gallai gynnwys opsiwn i'r sefydliad TDAG brynu'r cartrefi ar ôl 40 mlynedd
Mae sefydliad TDAG yn berchen ar dir ac yn ei brydlesu i LCC i ddatblygu tai fforddiadwy. Mae LCC yn talu rhent tir blynyddol i sefydliad TDAG
Sefydliad TDAG yn caffael LCC i ddatblygu'r cartrefi. Efallai y bydd LCC hefyd yn ymwneud â rheolaeth hirdymor os bydd ewyllys gan y ddau barti
Mae'r ddau sefydliad yn cyd-gynhyrchu cynllun a all gynnwys nifer o fodelau perchnogaeth
Mae sefydliad TDAG yn caffael LCC i reoli'r gwasanaethau rheoli tai yn y tymor hir
Mae preswylwyr yn ffurfio Sefydliad a Reolir Gan Denantiaid ac yn datblygu Cytundeb Rheoli gyda LLC i reoli rhai gwasanaethau (e.e. dyraniadau, cynnal a chadw ac ati)
Rhydd-ddeiliad
-
Sefydliad TDAG
Landlord cymdeithasol cofrestredig/Awdurdod lleol
Landlord cymdeithasol cofrestredig/Awdurdod lleol
Sefydliad TDAG
Sefydliad TDAG
Naill ai
Sefydliad TDAG
Landlord cymdeithasol cofrestredig/Awdurdod lleol
Opsiynau ariannu
Grantiau cymunedol gan landlord cymdeithasol cofrestredig/awdurdod lleol
Sefydliad TDAG
Sefydliad TDAG
Landlord cymdeithasol cofrestredig/Awdurdod lleol
Landlord cymdeithasol cofrestredig/Awdurdod lleol
Sefydliad TDAG (argostau)
Yn dibynnu ar y model
Sefydliad TDAG
Landlord cymdeithasol cofrestredig/Awdurdod lleol
Ystyriaethau cyfreithiol
Cefnogaeth anffurfiol
Cytundeb opsiynau/Cytundeb ysgrifenedig
Prydles tymor hir
Cytundeb prydles/Cymal prynu yn ôl
Cytundeb prydles/Cyfamodau neu gymalau i sicrhau fforddiadwyedd am byth
Cytundeb datblygu
Cytundeb partneriaeth
Cytundeb rheoli
Cytundeb rheoli