Pecyn cymorth 02: Cyd-destun a chysyniadau
Yn yr adran hon byddwn yn mynd yn ôl at y pethau sylfaenol, gan edrych ar ddiffiniad o dai dan arweiniad y gymuned ac archwilio’r gwahanol fodelau i ddewis ohonynt yn dibynnu ar anghenion a gweledigaeth eich grŵp.
Beth yw tai dan arweiniad y gymuned?
Mae tai dan arweiniad y gymuned yn ymwneud â phobl leol yn chwarae rhan flaenllaw a sylfaenol wrth ddatrys eu problemau tai penodol, gan greu cartrefi fforddiadwy hirdymor a chymunedau cryf, cydnerth mewn ffyrdd sy’n anodd eu cyflawni drwy dai prif ffrwd yn unig. Pedair prif egwyddor TDAG yw ei fod:
- Arweinir gan y gymuned
- Cael eu perchnogi, eu rheoli neu eu stiwardio gan y gymuned
- Er budd cyfunol
- Fforddiadwy
Pecyn cymorth 01: Cwrdd â'r tîm
Yn yr adran hon byddwch yn cwrdd â thîm Cymunedau'n Creu Cartrefi ac yn darganfod sut y gallwn helpu i wireddu eich breuddwyd.
Darganfyddwch fwy