Modelau TDAG

Modelau TDAG

Mentrau tai cydweithredol

Mae mentrau cydweithredol yn sefydliadau dielw a democrataidd sy’n cael eu rhedeg gan eu haelodau ac er budd eu haelodau. Mae mentrau tai cydweithredol yn berchen neu’n rheoli cartrefi sy’n cael eu rheoli’n ddemocrataidd gan eu haelodau, sydd hefyd yn breswylwyr. Mae’r dull cydweithredol yn gweithio ar gyfer prynu a rhentu, adeiladu eiddo newydd a throsi eiddo gwag.


Mae sawl amrywiad o fewn y model tai cydweithredol, gan gynnwys:
Astudiaeth achos: Rainbow Housing Co-operative
  • 24 o dai teras ar un stryd yn Milton Keynes
  • Gardd gymunedol gyda phwll naturiol a man chwarae i blant
  • Wedi’i sefydlu ym 1977 pan oedd cartrefi dan fygythiad o gael eu dymchwel
  • Mae aelodaeth trwy gais. Disgwylir i aelodau gymryd rhan yng ngweithgareddau’r fenter gydweithredol
  • Mae pob aelod yn cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau
  • Mae'r fenter gydweithredol yn gwneud y rhan fwyaf o waith cynnal a chadw eiddo

Cyd-drigo

Mae cyd-drigo yn fethodoleg ddylunio a ddefnyddir gan gymunedau i greu mannau sy’n hyrwyddo cysylltedd ac undod. Mae gan bob cartref dŷ hunangynhwysol, personol a phreifat ond mae yna hefyd le a rennir lle gall pobl gyfarfod, cymdeithasu, bwyta gyda’i gilydd a rhannu adnodd.

Astudiaeth achos: Lancaster Co-housing
  • 41 o gartrefi les ddaliad/rhentu wedi’u hadeiladu i safonau Passivhaus
  • Cyfleusterau a rennir: tŷ cyffredin, storfa fwyd, golchdy, ystafell chwarae i blant, ystafelloedd gwesteion, sied offer, sied feiciau, tir a gerddi, clwb ceir, strydoedd i gerddwyr
  • Gwneud penderfyniadau consensws

Ymddiriedolaethau tir cymunedol (YTC)

Mae ymddiriedolaethau tir cymunedol (YTC) yn sefydliadau sy’n eiddo i’r gymuned sy’n cael eu rhedeg gan eu haelodau, a’u prif ddiben yw darparu a diogelu asedau o werth cymunedol, fel tai. Mae YTC yn darparu cartrefi fforddiadwy i bobl leol trwy brynu tir a’i gadw fel ased cymunedol am byth. Mae YTC yn gweithredu fel stiwardiaid tai hirdymor, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn wirioneddol fforddiadwy, weithiau’n seiliedig ar yr hyn y mae pobl yn ei ennill yn eu hardal – nid yn unig am nawr ond ar gyfer pob deiliad yn y dyfodol.

Astudiaeth achos: Marshfield Community Land Trust
  • 15 tŷ – 10 rhent cymdeithasol, 2 rhan berchnogaeth, 3 chartref marchnad agored
  • Safle eithrio gwledig – tir llain las mewn AONB
  • Bydd tai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu i safonau Passivhaus
  • Polisi gosod lleol
  • Partneriaeth gyda chymdeithas tai: Brighter Places

Sefydliadau a reolir gan denantiaid (SRGD)

Sefydliad a ffurfiwyd gan denantiaid tai cymdeithasol/fforddiadwy i ymgymryd â rheolaeth ddemocrataidd eu cartrefi. Gall tenantiaid ymwneud â dylunio ac adeiladu, dyraniadau, cynnal a chadw, gweithgareddau cymunedol a llawer mwy.

Astudiaeth achos: Bushbury Hill EMB
  • Rheoli dros 1000 o gartrefi i’r cyngor a chymdeithas tai
  • Stad fawr o’r 1920au
  • Bellach yn adeiladu cartrefi ychwanegol

Manteision modelau tai dan arweiniad y gymuned

Benefits of community-led housing models

Nodyn: Mae modelau a dulliau yn hyblyg, a gall grwpiau ddewis cyfuniadau hybrid o fodelau i gyd-fynd â’u hanghenion.