Perchnogaeth gymunedol o asedau lleol
Galluogi i dai a arweinir gan y gymuned gael eu darparu yng Nghymru
Cynhyrchwyd y papur trafod hwn gan raglen Cymunedau’n Creu Cartrefi yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru, sef unig ganolbwynt Cymru ar gyfer tai a arweinir gan y gymuned.
Pwrpas y papur yw ysgogi ystyriaeth a thrafodaeth am berchenogaeth gymunedol ar dir ac asedau yng Nghymru, a fydd yn arwain at ddarparu mwy o dai fforddiadwy, a arweinir gan y gymuned, i bobl mewn angen.
Beth yw Tai a Arweinir gan y Gymuned?
Gall tai a arweinir gan y gymuned fod ar sawl ffurf wahanol, ond yn ei hanfod, mae’n cyfeirio at gymunedau’n cymryd rôl flaenllaw mewn darparu eu hatebion tai eu hunain – p’un a yw hynny trwy adeiladu eiddo newydd neu gymryd eiddo sy’n bodoli eisoes a’u trawsnewid yn dai fforddiadwy sy’n diwallu anghenion cymunedau nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Nid oes un dull sy’n addas i bawb a gellir addasu tai a arweinir gan y gymuned i weddu orau i’r gymuned dan sylw. Y nod yw rhoi mwy o reolaeth i bobl ynglŷn â lle maen nhw’n byw er mwyn cyflawni nod a rennir.