Tai cydweithredol dan gloi
Byw mewn tai cydweithredol a dan arweiniad y gymuned yn ystod COVID-19
Flwyddyn ar ôl i’r wlad gael ei rhoi dan glo am y tro cyntaf i amddiffyn pobl a gwasanaethau cyhoeddus rhag effeithiau gwaethaf y pandemig coronafeirws, mae Cymunedau’n Creu Cartrefi – canolbwynt Cymru ar gyfer tai dan arweiniad y gymuned – wedi cyhoeddi ymchwil am sut mae trigolion wedi profi ac wedi goroesi’r pandemig.
Yn hydref 2019, fe wnaethom gyhoeddi darn cychwynnol o ymchwil ‘Asesu buddion posibl byw mewn tai cydweithredol a/neu dai dan arweiniad y gymuned (TCAG)’ a oedd yn rhoi mewn geiriau beth roeddem yn teimlo ein bod eisoes yn ei wybod. Mae trigolion sy’n byw yn y math hwn o dai yn profi ystod eang o fanteision o fyw yn eu cynlluniau gan gynnwys mwy o deimlad o gymuned a llai o deimladau o unigrwydd ac arwahanrwydd. Ers y cyfnod clo cyntaf, mae effeithiau negyddol y cyfyngiadau gan gynnwys dirywiad mewn llesiant meddwl a chynnydd yn nifer y bobl sy’n teimlo’n ynysig wedi cael eu hadrodd ac maent yn parhau i fod yn bryder.
Yn Cymunedau yn Creu Cartrefi, roedd gennym ddiddordeb mewn deall profiadau bywyd pobl mewn cynlluniau CLH yn ystod y cyfyngiadau symud a faint o’u profiad y gellid ei briodoli i’w gwreiddiau cydweithredol a chymunedol. Roeddem yn gwybod y byddai hyn yn ategu ac yn adeiladu ar y darn cyntaf o ymchwil, felly comisiynwyd y The Social Effectiveness Research Centre Ganolfan Ymchwil Effeithiolrwydd Cymdeithasol i ofyn y cwestiynau pwysig hyn. Roedd y darlun a gafwyd yn un cadarnhaol sy’n dweud wrthym fod llawer o bobl sy’n byw mewn CLH yn teimlo mwy o gefnogaeth ac yn llai ynysig nag y gallent fod wedi’i wneud mewn mathau eraill o dai.
Yn ystod y pandemig, rydym i gyd wedi gweld adroddiadau yn y cyfryngau am aelodau cymunedol sydd wedi ysgogi eu hunain ac efallai ein bod ni ein hunain wedi bod yn rhan o weithgareddau sy’n cefnogi’r rhai sy’n agored i niwed ac yn llai abl. Fel canolbwynt CLH, rydym wedi cael ein plesio gan sut mae ein cleientiaid wedi dangos gwerthoedd cydweithredol ac wedi helpu eu cymuned ehangach.
Roedd yr effeithiau cadarnhaol yr oedd preswylwyr a gymerodd ran yn yr ymchwil yn eu priodoli i fyw mewn CLH yn hytrach na phe baent yn byw mewn mathau eraill o dai yn adlewyrchu’r gwerthoedd cydweithredol a chymunedol hyn ac yn cynnwys:
- Llai o arwahanrwydd ac unigrwydd
- Mwy o sicrwydd ariannol
- Gwell amodau byw corfforol (e.e. mwy o le y tu allan)
- Llai o drallod seicolegol/meddyliol
- Cysylltiadau agosach â’r gymuned ehangach
- Mwy o gefnogaeth ymarferol (e.e. tasgau o ddydd i ddydd, siopa, ac ati…)
Rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod wedi bod yma ar gyfer y cloi gan fy mod wedi teimlo fy mod yn cael fy ngwarchod a’m cefnogi, fel arall byddwn wedi bod ar fy mhen fy hun yn llwyr. Mae'r gefnogaeth wedi bod yn gorfforol a seicolegol, ac mae gen i le i symud o gwmpas ynddo. Mae gennym ni brofiad o barchu dymuniadau ein gilydd, sydd wedi helpu gyda phellhau cymdeithasol. Mae’r pethau hyn, rwy’n credu, yn unigryw i gyd-gartrefi.