Perthyn
Cymraeg: Mae’n Perthyn i’n Cymunedau
Mae Perthyn yn darparu cefnogaeth cyfnod cynnar lleol i’n cymunedau Cymreig yn y gogledd a’r gorllewin sydd â diddordeb mewn datblygu syniadau menter gymdeithasol.

Ysbrydoli ein Cymunedau i Greu
Am Perthyn
Wedi’i sefydlu yn 2022, mae Perthyn yn darparu cymorth cyfnod cynnar lleol i gymunedau yn y gogledd a’r gorllewin sydd â lefelau uchel o berchnogaeth ail gartrefi sydd â diddordeb mewn datblygu syniadau menter gymdeithasol i gefnogi ac amddiffyn y Gymraeg.
- Ydych chi’n grŵp cymunedol Cymraeg neu’n edrych i ffurfio grŵp ac a fyddai’n elwa o arweiniad a chefnogaeth gyda datblygiadau cymunedol?
- Ydych chi’n brosiect cymunedol sefydledig gyda syniad newydd i’w ddatblygu?
- Oes gennych chi ddiddordeb mewn creu menter gymdeithasol/menter cydweithredol/tai dan arweiniad y gymuned neu Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol?
- Oes ased (tŷ tafarn, siop, capel/eglwys, llyfrgell) mewn perygl o gael ei golli yn eich cymuned yr hoffech ddod yn ôl i berchnogaeth a defnydd y gymuned trwy ddatblygu eich syniad?
Gall tîm Perthyn eich cefnogi gyda’ch syniad a’ch helpu i gychwyn.
Mae Cwmpas yn gweithio’n agos gyda PLANED i weithio gyda’n cymunedau ar draws y gorllewin ac mae Cydlynwyr Cwmpas yn gweithio gyda’n cymunedau ar draws y gogledd. Mae’r prosiect yn anelu at dyfu nifer o fentrau.
Rydyn ni eisiau gweld ein hiaith yn cael ei defnyddio a’i mwynhau bob dydd yn ein cymunedau, a gweithio gyda Cymraeg 2050 i sicrhau hyn.
Mae prosiect Perthyn eisiau creu sylfaen economaidd gref ar gyfer ein cymunedau Cymreig drwy ddod at ei gilydd i greu a sefydlu:
Mae menter gymdeithasol yn sefydliad sy’n defnyddio strategaethau busnes i gyflawni nodau cymdeithasol, amgylcheddol neu gymunedol. Mae’n gweithredu fel busnes, gan gynhyrchu refeniw, ond ei brif ddiben yw mynd i’r afael â materion cymdeithasol neu greu newid cadarnhaol yn hytrach na gwneud yr elw mwyaf posib i gyfranddalwyr. Mae elw yn aml yn cael ei ail-fuddsoddi yng nghenhadaeth y fenter.
Mae menter gydweithredol yn sefydliad sy’n eiddo i’r aelodau sy’n cael ei reoli’n ddemocrataidd, sy’n gweithredu er budd ei aelodau. Mewn cydweithfa, mae gan bob aelod lais cyfartal yn y broses o wneud penderfyniadau, beth bynnag yw lefel eu buddsoddiad neu gyfranogiad. Mae eu prif ffocws ar ddiwallu anghenion a buddiannau aelodau, yn hytrach na gwneud y mwyaf o elw. Mae elw yn aml yn cael ei rannu rhwng aelodau neu ei ail-fuddsoddi yn y gydweithfa i gefnogi ei chenhadaeth.
Mae datblygiadau tai cydweithredol dan arweiniad y gymuned yn brosiectau cymunedol lle mae’r gymuned ei hun yn arwain y gwaith o gynllunio, adeiladu a rheoli’r tai. Mae’r datblygiadau hyn fel arfer yn cael eu perchnogi a’u gweithredu gan gydweithfa, gyda phenderfyniadau’n cael eu gwneud ar y cyd gan aelodau’r prosiect. Y nôd yw darparu tai fforddiadwy, cynaliadwy a diogel ar gyfer y gymuned.
Yn gyffredinol, cyfeirir fel YT/CLT, mae Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol yn sefydliad di-elw, cymunedol sydd wedi ymrwymo i stiwardiaeth a fforddiadwyedd tir, tai ac adeiladau eraill a ddefnyddir er budd cymunedol am byth.
Ardaloedd sy'n gymwys am chefnogaeth Perthyn
- Ynys Môn
- Conwy
- Gwynedd
- Sir Gâr
- Ceredigion
- Sir Benfro
Mae Perthyn yn cefnogi’r nodau canlynol yn y
Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg a Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr.
EIN NODAU STRATEGOL:
- Helpu i gynnal cymunedau Cymraeg drwy sefydlu mentrau cymdeithasol a busnesau cydweithredol newydd
- Helpu cynnal Cymunedau Cymraeg eu hiaith trwy ddatblygu atebion i gefnogi tai fforddiadwy lleol.
- Helpu i gynnal cymunedau drwy gyfrwng ymgysylltu â chefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru yn ehangach a chymorth ariannol arall er mwyn sicrhau bod cymunedau Cymraeg eu hiaith yn parhau i ffynnu.
- Creu gofodau Cymraeg eu hiaith – lle mae’r Gymraeg yn ganolog i’r strwythur gweinyddol ac yn rhan annatod o’r fenter.
- Drwy Perthyn, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer treialu cronfa grantiau bach.