Perthyn

Cymraeg: Mae’n Perthyn i’n Cymunedau

Perthyn

Ysbrydoli ein Cymunedau i Greu

Wedi’i sefydlu yn 2022, mae Perthyn yn darparu cymorth cyfnod cynnar lleol i’n cymunedau Cymreig yn y gogledd a’r gorllewin sydd â diddordeb mewn datblygu syniadau menter gymdeithasol.

Mae Cwmpas yn gweithio’n agos gyda Phartneriaeth Dolan a PLANED sy’n gweithio gyda’n cymunedau. Mae’r prosiect yn anelu at dyfu nifer o fentrau, yn bennaf rydym am weld ein hiaith yn cael ei defnyddio a’i mwynhau bob dydd.

Mae prosiect Perthyn eisiau creu sylfaen economaidd gref ar gyfer ein cymunedau Cymreig drwy ddod at ei gilydd i greu a sefydlu:
  • Creu mentrau cymdeithasol a chydweithredol newydd
  • Helpu mentrau cymdeithasol a chydweithredol sydd eisoes yn bodoli i wireddu cynlluniau newydd
  • Creu datblygiadau tai cydweithredol wedi’u harwain gan y gymuned
  • Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol.
Rydyn ni eisiau gweld ein hiaith yn cael ei defnyddio bob dydd yn ein cymunedau, a gweithio gyda Cymraeg 2050 i sicrhau hyn.

Ein Partneriaid 

Partneriaeth Dolan sy’n gweithio gyda ni ar draws y gogledd orllewin i gefnogi ein cymunedau Cymraeg i sefydlu mentrau cydweithredol llwyddiannus. Gyda thros 30 mlynedd o brofiad o helpu ein cymunedau i gyrraedd y nod ar draws y de orllewin, Planed sy’n gweithio gyda ni i’ch helpu chi’n lleol.



Os hoffech ddarganfod mwy neu drafod sut y gall Perthyn eich cefnogi, anfonwch e-bost at Samantha Edwards, Rheolwr Prosiect: samantha.edwards@cwmpas.coop

Fel arall, cwblhewch y ffurflen ymholiad ar-lein Ffurflen Ymholiad Perthyn

Mae Perthyn yn cefnogi’r nodau canlynol yn y
Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg a Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr.

EIN NODAU STRATEGOL:

  • Helpu i gynnal cymunedau Cymraeg drwy sefydlu mentrau cymdeithasol a busnesau cydweithredol newydd
  • Helpu cynnal Cymunedau Cymraeg eu hiaith trwy ddatblygu atebion i gefnogi tai fforddiadwy lleol.
  •  Helpu i gynnal cymunedau drwy gyfrwng ymgysylltu â chefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru yn ehangach a chymorth ariannol arall er mwyn sicrhau bod cymunedau Cymraeg eu hiaith yn parhau i ffynnu.
  • Creu gofodau Cymraeg eu hiaith – lle mae’r Gymraeg yn ganolog i’r strwythur gweinyddol ac yn rhan annatod o’r fenter.
  • Drwy Perthyn, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer treialu cronfa grantiau bach.