Busnes Cymdeithasol Cymru – busnesau newydd
Wedi’ch ysbrydoli i wneud gwahaniaeth i’n pobl neu ein planed? Siaradwch â’n tîm o arbenigwyr dechrau newydd yn Busnes Cymdeithasol Cymru.
Dechrau busnes cymdeithasol
Os ydych yn ystyried sefydlu busnes sy’n rhoi ei elw at achos da, gall ein cynghorwyr arbenigol eich helpu i ddechrau arni. Er mwyn i’ch busnes newydd ffynnu, mae angen i chi adeiladu sylfeini cryf. Gall ein tîm gynnig cymorth busnes un i un i’ch helpu i gael popeth yn ei le. Cysylltu.
Rydym yn dîm o gynghorwyr busnes arbenigol sy’n canolbwyntio ar sefydlu mentrau cymdeithasol newydd. Rydym yn rhan o raglen Busnes Cymdeithasol Cymru sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, a’i darparu gan Cwmpas. Rydym wedi bod yn cynghori mentrau cymdeithasol er 1982, ac yn yr amser hwnnw wedi helpu i sefydlu cannoedd o fusnesau newydd.
Gall dechrau busnes fod yn heriol, ond gallwn eich tywys o ran sut i sicrhau’r dechrau gorau i’ch busnes cymdeithasol. Mae ein cymorth wedi’i ariannu’n llawn, sy’n golygu eich bod yn cael arweiniad am ddim bob cam o’r ffordd.
Sut y gallwn eich helpu?
Gallwn weithio gyda’ch grŵp i sicrhau bod yna weledigaeth a rennir ar gyfer y busnes, a’ch helpu i ddewis y strwythur cyfreithiol iawn ar gyfer eich busnes newydd
Gallwn eich helpu i ddatblygu strategaeth fuddsoddi, eich cynghori ar grantiau, benthyciadau, cyllid torfol a chyfranddaliadau cymunedol, a darparu hyfforddiant i’ch cyfarwyddwyr fel bod ganddynt hyder yn eu rolau a’u cyfrifoldebau
Gallwn helpu i ysgrifennu eich dogfen lywodraethu ac i gorffori eich busnes. Gallwn hefyd eich helpu i greu polisïau i sicrhau bod eich sefydliad yn cael ei redeg yn dda
Gallwn eich helpu i sefydlu system lywodraethu ac i ymgysylltu â darpar aelodau o’r bwrdd
Gallwn eich cefnogi i nodi unrhyw faterion o ran cydymffurfedd neu risgiau a allai fod gan y busnes a sut y gellid eu rheoli
Gallwn eich helpu i agor cyfrif banc ar gyfer eich menter newydd
“Dwi’n gallu dweud o waelod fy nghalon bod Joanne wedi bod yn wych gyda mi. Roeddwn i’n gwbl ddi-glem o ran dechrau busnes. Bob tro roeddwn yn dechrau meddwl fy mod yn gwneud y peth anghywir, roedd Jo yno yn gwneud i mi sylweddoli pam fy mod wedi rhoi fy mryd ar wneud hyn a’r gwahaniaeth rydw i’n ei wneud.”
“Diolch o galon am y cymorth amhrisiadwy a ddarparwyd gan Busnes Cymdeithasol Cymru wrth sefydlu ein Cwmni Buddiannau Cymunedol, AMATHAON – fel y gwyddoch, roeddwn i’n hitio fy mhen yn erbyn wal! Roeddech chi a’ch cydweithwyr yn ffynhonnell werthfawr i mi yn y dryswch sy’n gallu wynebu rhywun wrth ddechrau a gweinyddu busnes."
Wedi'ch ysbrydoli i wneud gwahaniaeth i'n pobl neu ein planed? Siaradwch â'n tîm o arbenigwyr dechrau newydd yn Busnes Cymdeithasol Cymru. I gael gwybod mwy am ein gwasanaethau, ffoniwch 0300 111 5050 neu e-bostiwch sbwenquiries@cwmpas.coop, neu lenwi ffurflen ymholiad.
Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth dechnegol ar gyfer y rhai ohonoch sy'n ystyried dechrau neu weithredu busnes cymdeithasol. Mae busnesau cymdeithasol yn cynnwys mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, cwmnïau cydfuddiannol a busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr. Trwy ddefnyddio'r wybodaeth hon ochr yn ochr â chymorth gan ein cynghorwyr busnes arbenigol, byddwch ar y llwybr i lwyddiant mewn busnes cymdeithasol.