Busnes Cymdeithasol Cymru – twf
Os ydych chi’n rhedeg busnes cymdeithasol, gall ein tîm o arbenigwyr eich helpu i fynd o nerth i nerth tuag at ddyfodol cryfach a mwy cynaliadwy.
Amdanom ni
Tîm o gynghorwyr busnes arbenigol sy’n arbenigo mewn rheoli mentrau cymdeithasol ydyn ni. Rydyn ni’n rhan o raglen Busnes Cymdeithasol Cymru a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ac a ddarperir gan Cwmpas. Rydym wedi cynghori mentrau cymdeithasol ers 1982 ac wedi cefnogi cannoedd o fusnesau newydd ers hynny.
P’un ai’ch bod am osod seiliau cadarn ac ail-werthuso meysydd o’ch busnes craidd, neu os oes gennych syniadau cyffrous i gynyddu elw, arallgyfeirio, ehangu neu gydweithio, rydyn ni yma i chi. Mae ein cefnogaeth yn cael ei hariannu’n llawn sy’n golygu y cewch chi arweiniad rhad ac am ddim bob cam o’r ffordd.
Sut allwn ni helpu?
Gallwn hwyluso ‘sesiwn weledigaethol’ gyda’ch tîm i sicrhau mai’r un nodau sydd gennych mewn golwg a sut i’w cyrraedd nhw.
Gallwn eich helpu i ddatblygu ac adolygu eich cynlluniau busnes
Gallwn adolygu a gwella eich polisïau llywodraethu, helpu i gryfhau eich bwrdd a rhoi cyngor strwythur cyfreithiol i chi, gan gynnwys sut i sefydlu cangen fasnachu
Gallwn eich helpu i ddadansoddi eich busnes yn ariannol, cynnig cyngor treth a TAW a gwneud prisiad cwmni
Gallwn eich helpu i ddatblygu cynllun marchnata, adeiladu eich brand, a darparu strategaeth a hyfforddiant gwerthiant
allwn eich helpu i ddadansoddi eich polisïau presennol a datblygu gweithdrefnau perthnasol newydd, yn ogystal â’ch cefnogi gyda chontractau cyflogaeth a chanllawiau TUPE
Gallwn eich helpu i ddadansoddi eich effaith gymdeithasol a’ch helpu i’w fesur yn y dyfodol
Gallwn eich cefnogi i ddatblygu neu wella strategaeth datblygu cynaliadwy
Gallwn eich cefnogi i ddatblygu a gweithredu safonau ansawdd cyson ar draws eich busnes
I gael gwybod mwy am ein gwasanaethau, ffoniwch 0300 111 5050 neu e-bostiwch sbwenquiries@cwmpas.coop, neu lenwi ffurflen ymholiad.
Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth dechnegol ar gyfer y rhai ohonoch sy'n ystyried dechrau neu weithredu busnes cymdeithasol. Mae busnesau cymdeithasol yn cynnwys mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, cwmnïau cydfuddiannol a busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr. Trwy ddefnyddio'r wybodaeth hon ochr yn ochr â chymorth gan ein cynghorwyr busnes arbenigol, byddwch ar y llwybr i lwyddiant mewn busnes cymdeithasol.