Interniaeth Polisi a Chyfathrebu 2023

Mae Cwmpas yn cynnig interniaeth 12 wythnos gyda’n tîm Polisi a Chyfathrebu yn benodol gyda’r nod o annog ceisiadau gan bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, sy’n draddodiadol heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur yng Nghymru.

Interniaeth Polisi a Chyfathrebu 2023

Ein busnes

Cefndir

Mae Cwmpas yn asiantaeth ddatblygu sy’n gweithio dros newid cadarnhaol, yng Nghymru a ledled y DU. Rydym yn fenter gydweithredol, ac rydym yn canolbwyntio ar adeiladu economi decach, wyrddach a chymdeithas fwy cyfartal, lle mae pobl a’r blaned yn dod yn gyntaf.

Ein nod yw creu economi wyrddach a thecach drwy weithio i gynyddu’r gyfran o’r economi sy’n cynnwys mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr; cymdeithas fwy cyfartal drwy weithio i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol – gan gynyddu mynediad, tegwch, amrywiaeth a chyfranogiad; a gwneud i newid cadarnhaol ddigwydd trwy weithio gyda phobl a sefydliadau i weithredu er lles cymdeithasol.

Yn sail i’n gwaith mae ymrwymiad i ddarparu cefnogaeth i bobl, cymunedau a busnesau mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd cydweithredol ein hunain. Rydyn ni’n credu bod y ffordd yr ydym ni’n gwneud pethau yr un mor bwysig â’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Mae ein gwerthoedd wedi’u hysbrydoli gan yr egwyddorion cydweithredol rhyngwladol ond wedi’u hysgrifennu yng ngeiriau ein staff. Dyma nhw:

  • bod yn gydweithredol
  • bod yn gefnogol
  • bod yn deg
  • bod yn onest
  • bod yn gadarnhaol
  • bod yn ysbrydoledig

Fel sefydliad nid-er-elw, ariennir ein gwaith yn bennaf gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru, gydag arian ychwanegol gan y Nationwide Foundation a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.  Gallwch ddarllen popeth am ein meysydd gwaith yma, a gallwch ddarllen am yr effaith a gawn yma.

Ein pobl

Ledled Cymru rydym bellach yn cyflogi bron i 100 o bobl o wahanol oedran, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.  Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad ydym yn cynrychioli’n llawn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu o ran hil ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn gwerthfawrogi sgiliau, galluoedd a phrofiadau diwylliannol pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol yn llawn oherwydd ein bod yn credu bod tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol i’n twf.

Ein lleoliad gwaith

Beth yw’r nod?

Ers sawl blwyddyn rydym wedi cynnig lleoliadau profiad gwaith amrywiol i bobl sydd angen cymorth i gael mynediad i’r byd gwaith.  Yn 2021 a 2022 fe wnaethom gynnig interniaeth yn benodol gyda’r nod o annog ceisiadau gan bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, sy’n draddodiadol heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur yng Nghymru. Buom yn gweithio mewn partneriaeth â Race Council Cymru i gyflawni hyn. Mae ein Intern 2021 bellach yn gweithio mewn swydd lawn amser, barhaol ym maes Polisi a Materion Cyhoeddus tra bod ein intern ar gyfer 2022 yn gweithio i asiantaeth gyfathrebu yn Llundain.  Rydym nawr am recriwtio intern arall ar yr un sail ar gyfer ein lleoliad gwaith 2023.

Beth sydd ar gael?

Byddwn yn cynnig interniaeth 12 wythnos gyda’n tîm Polisi a Chyfathrebu. Bydd yr interniaeth yn rhedeg o 23 Ionawr 2023 i 21 Ebrill 2023.  Byddwn yn talu’r cyflog byw gwirioneddol am y rôl hon, hy £10.90 yr awr.

Yn ddelfrydol, byddai’r interniaeth yn rôl llawn amser (35 awr yr wythnos), ond byddem hefyd yn ystyried bod yr intern yn gweithio’n rhan amser (21-35 awr yr wythnos) os yw hyn yn helpu i gefnogi ymrwymiadau eraill.

Bydd yr Intern yn gweithio gartref gan ddefnyddio datrysiadau digidol fel Microsoft Teams i gyfathrebu ag aelodau’r tîm a rheoli dogfennau gwaith. Bydd offer digidol yn cael ei ddarparu i’w galluogi i wneud hyn.  Lle mae angen teithio o fewn Cymru, bydd Cwmpas yn talu costau milltiredd neu’n prynu tocynnau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Wedi’ch lleoli yn ein tîm Polisi a Chyfathrebu, byddwch yn ymwneud ag estyn allan i gymunedau ledled Cymru i hyrwyddo ac annog ymgysylltiad â’n rhaglen Cymunedau Digidol Cymru.

Bydd hyn yn cynnwys ymchwilio ac ysgrifennu astudiaethau achos deniadol a rhannu’r rhain ar ein gwefan ac amrywiol sianeli cyfryngau cymdeithasol.  Byddwch hefyd yn cynorthwyo gyda chynllunio a chyflwyno gweminarau Cymunedau Digidol Cymru, a byddwch yn helpu gyda chynnal cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cymunedau Digidol Cymru.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?

Byddwch yn dysgu am bwysigrwydd cynyddol yr agenda cynhwysiant digidol, a sut y gall y swyddogaeth polisi a chyfathrebu gefnogi busnes i gyflawni ei nodau.

Byddwch yn cael profiad gwerthfawr o weithio fel rhan o dîm bach ond prysur, sy’n darparu gwasanaeth gwych i’n cleientiaid mewnol ac allanol.

Byddwn yn rhoi cylch gwaith i chi ar gyfer eich gwaith, a fydd yn eich galluogi i weithio’n annibynnol a defnyddio’ch creadigrwydd eich hun ond a fydd hefyd yn rhoi cymorth i chi pan fydd ei angen arnoch.

Byddwch yn cael mynediad i’n Hwb E-ddysgu, sydd ag ystod eang o fodiwlau ar gael ar bynciau fel Iechyd a Diogelwch, GDPR, Arweinyddiaeth, TG a Llesiant.  Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm ac yn gallu cymryd rhan mewn unrhyw gyfleoedd hyfforddi mewnol a allai godi o bryd i’w gilydd.

Unwaith y byddwch wedi gorffen eich interniaeth, byddwch yn gallu cyfeirio at y sgiliau yr ydych wedi’u dysgu ar geisiadau am swyddi yn y dyfodol – boed hyn ar ein cyfer ni fel rhan o’n proses recriwtio gystadleuol arferol, neu ar gyfer sefydliadau eraill.

Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch chi?

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd:

  • wedi ymrwymo i werthoedd ein cwmni
  • yn gallu hyrwyddo ein hymrwymiad i gydraddoldeb, tegwch a chynhwysiant
  • yn gallu cyfathrebu (ar lafar ac yn ysgrifenedig) i safon uchel yn Saesneg
  • yn gallu trefnu eu hunain yn dda a thrin gwaith gwahanol ar gyfer gwahanol derfynau amser
  • yn gallu gweithio’n dda o fewn tîm
  • yn gallu meddwl yn greadigol, ac awgrymu syniadau newydd
  • yn gallu defnyddio cyfrifiadur a llwyfannau fel Facebook, Twitter, LinkedIn neu YouTube.

Pwy all wneud cais?

Os ydych chi’n meddwl y byddech chi’n addas ar gyfer ein lleoliad gwaith, rydyn ni’n chwilio am bobl:

  • a all ddangos tystiolaeth o’r hawl i weithio yn y DU
  • a all ymrwymo i’r cyfnod lleoliad gwaith 12-wythnos llawn
  • sydd â mynediad i’r rhyngrwyd gartref
  • a all deithio i gyfarfodydd neu ddigwyddiadau yn ôl yr angen.

Rydym yn annog yn arbennig ceisiadau gan bobl sy’n draddodiadol wedi’u tangynrychioli yn y farchnad lafur yng Nghymru, ond mae’r lleoliad gwaith hwn yn agored i bob ymgeisydd cymwys waeth beth fo’u rhyw, oedran, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd, hil, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, cred neu ddiffyg cred, beichiogrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil. Mae hefyd yn agored i bobl ag unrhyw lefel o brofiad gwaith mewn unrhyw faes, gan gynnwys y rhai heb unrhyw brofiad o gwbl.

Young woman looking at laptop screen
Sut ydych chi'n gwneud cais?
I wneud cais am yr interniaeth, cwblhewch ein ffurflen gais fer a'i e-bostio at recruitment@cwmpas.coop. Rhaid i chi gyflwyno eich ceisiadau erbyn hanner nos, dydd Sul 22 Ionawr 2023. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag Angela Overment, Rheolwr Adnoddau Dynol a Chymorth Corfforaethol ar 029 2080 7136.
Jasmin (Policy and Comms Intern)
Intern y llynedd
Darllenwch beth oedd barn ein Intern 2022, Jasmin Warnock, am ei phrofiad yng Cwmpas