Wythnos Cydraddoldeb Hil 2025: Galw i weithredu gan Gymunedau’n Creu Cartrefi

5 Chwefror 2025

Mae’n Wythnos Cydraddoldeb Hil 2025: amser i adlewyrchu ar y cynnydd rydym wedi’i wneud tuag at gymdeithas fwy cynhwysol a theg, ac yn hollbwysig, i gymryd camau ystyrlon. 

Yn Gymunedau’n Creu Cartrefi, rydym yn benderfynol na ddylai hil byth fod yn rhwystr i dai diogel, fforddiadwy ac o ansawdd uchel.

Mae Wythnos Cydraddoldeb Hil yn ymgyrch ledled y DU sy’n dod â sefydliadau ac unigolion ynghyd i fynd i’r afael â chydraddoldeb hil. 

Thema eleni yw #EveryActionCounts. 

Mae’n ymwneud â’n hymdrechion ar y cyd ac yn unigol i wirioneddol greu newid. 

Wrth gwrs, nid yw geiriau’n ddigonol. 

Mae angen i ni gymryd camau pendant i ddatgymalu hiliaeth systemig ac adeiladu dyfodol mwy cyfartal. 

Yn ystod Wythnos Cydraddoldeb Hil, rydym yn eich gwahodd i feddwl am beth mae’n ei olygu i fod yn wirioneddol gynhwysol, sut y gall tai dan arweiniad y gymuned chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau newid teg. 

Dylai pawb allu cael mynediad at gartref diogel a fforddiadwy, beth bynnag eu hil neu gefndir, ond mae cymunedau Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yng Nghymru yn parhau i wynebu rhwystrau systemig i gael mynediad at dai o ansawdd. 

Mae ymchwil gan Tai Pawb ac EYST yn amlygu’r realiti: 

  • Roedd 45% o’r ymatebwyr ethnig lleiafrifol wedi profi gwahaniaethu yn y sector tai. 
  • Roedd 30% yn byw mewn amodau orlenwi. 
  • Roedd 25% wedi wynebu problemau gyda materion cynnal a chadw ac aneffeithiolrwydd. 

Nid yw hwn yn fater newydd. 

Ym mis Mehefin 2020, yn ystod pandemig Covid-19, canfu ymchwil ac adroddiad ar hiliaeth systemig gan yr Athro Emmanuel Ogbonna o Brifysgol Caerdydd fod gorlenwi mewn cartrefi a phryderon tai yn ffactorau a arweiniodd at risg anghyfartal i gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol o ran heintio a marw o Covid-19. 

Mae’r ystadegau diweddaraf yn ein hatgoffa nad yw’r gwaith gwrth-hiliaeth drosodd o bell ffordd. 

Rhaid i dai dan arweiniad y gymuned fod yn rhan allweddol o’r ateb gan sicrhau tai teg, cynhwysol a hygyrch i bawb, gan roi grym i gymunedau lunio eu hamgylcheddau byw eu hunain. 

Mae tai dan arweiniad y gymuned yn creu atebion sy’n diwallu anghenion penodol, gan adlewyrchu profiadau byw, hunaniaethau a diwylliannau mewn cymunedau. 

Mae grwpiau’n dewis eu strwythur tai eu hunain. Maent yn datblygu eu cartrefi eu hunain, boed yn adeiladau newydd neu’n adnewyddiadau. Maent yn sefydlu system llywodraethu eu hunain, yn seiliedig ar weledigaeth y gymuned a pherchnogaeth gynaliadwy ar y cyd.  

Mae’r dull hwn yn meithrin diwylliant cynhwysol, lle mae pobl yn teimlo ymdeimlad o berthyn a diogelwch, sy’n gallu diwallu ac ymateb i anghenion unigol. 

Yn Gymunedau’n Creu Cartrefi, mae’r cymunedau rydym yn eu cefnogi wrth galon ein gwaith, ac rydym yma i helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau maent yn eu hwynebu. 

Mae Tai Pawb wedi bod yn gweithio’n galed i lunio polisi a gweithredu i greu sector tai mwy cyfiawn. Mae eu cyfraniadau at Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol – a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2022 – yn helpu i baratoi’r ffordd tuag at Gymru sy’n rhydd rhag gwahaniaethu hil ym mhob rhan o gymdeithas, gan gynnwys tai, erbyn 2030. Mae’r cynllun hwn yn mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau systemig  a brofir gan gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol mewn tai, gyda chamau allweddol er mwyn: 

  • Gwella amrywiaeth yn nhimoedd arwain. 
  • Darparu hyfforddiant gwrth-hiliaeth i staff. 
  • Sicrhau bod polisïau’n adlewyrchu anghenion pob cymuned. 

Byddwn yn cefnogi’r weledigaeth hon o Gymru wrth-hiliol. 

Wrth i ni nodi Wythnos Cydraddoldeb Hil 2025, gadewch inni adnewyddu ein hymrwymiad i adeiladu Cymru lle gall pawb ffynnu, beth bynnag fo’u hil neu eu hethnigrwydd. 

Bydd Cartrefi’n Creu Cymunedau yn parhau i hyrwyddo atebion cynhwysol, amrywiol, ar gyfer tai a arweinir gan y gymuned sy’n mynd i’r afael a rhwystrau gan rymuso pobl i greu mannau gwell i fyw. 

Rydym yn sefyll mewn undod â Tai Pawb, EYST, a phawb sy’n gweithio tuag at sector tai tecach, a Chymru decach. 

Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod cydraddoldeb ar sail hil yn realiti ar gyfer y dyfodol.  

O.N. Cadwch lygad allan – mae gennym ni ddiweddariadau cyffrous gan y tîm Creu Cartrefi Cymunedau yn fuan 

Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau i’n tîm tai dan arweiniad y gymuned, ffoniwch ni ar 0300 111 5050 neu anfonwch e-bost at co-op.housing@cwmpas.coop.

Ysgrifennwyd gan Sahar Alhakkak-Martinez, Intern Cymunedau’n Creu Cartrefi