Rhaid i Gymru gael agwedd newydd at ddatblygiad economaidd lleol – mae Cyfranddaliadau Cymunedol yn ateb profedig i’r heriau sy’n ein hwynebu
Rydym yn falch iawn yma yn Cwmpas i gyhoeddi Adroddiad Effaith ein prosiect Gyfranddaliadau Cymunedol, sydd amlinellu llwyddiannau’r prosiect. Mae’r straeon yn yr adroddiad hwn yn enghreifftiau cadarnhaol o beth sy’n gallu digwydd pan fydd cymunedau’n cael eu grymuso ac yn cael cymorth arbenigol i ddatblygu syniadau ac atebion lleol.
Mae cymunedau yng Nghymru yn wynebu heriau sylweddol. Mae’r argyfwng economaidd diweddaraf yn golygu bod asedau cymunedol hanfodol fel tafarndai, siopau a lleoliadau cerddoriaeth yn cael eu colli. Daw hyn ar adeg pan allent fod yn hanfodol i bobl sydd eisoes yn wynebu effaith ddynol cost byw ac argyfwng iechyd y cyhoedd.
Y mater sylfaenol yw bod y ffordd y mae ein heconomi wedi’i strwythuro ar hyn o bryd yn aml yn golygu nad oes gan gymunedau’r cyfoeth, y pŵer na’r adnoddau i gael rheolaeth wirioneddol dros ddyfodol eu hardal leol. Mae hynny’n golygu bod asedau hanfodol allweddol sy’n cael eu gwerthfawrogi’n aruthrol gan eu cymunedau yn gallu gael eu colli – oherwydd penderfyniadau gan pencadlysoedd tu allan o’r gymunedau y maent yn eu gwasanaethu, neu’r argyfwng ariannol sy’n wynebu llywodraeth leol yng Nghymru.
Sut mae cyfranddaliadau cymunedol yn helpu
Er gwaethaf y cyd-destun llwm hwn, drwy ein gwaith rydym wedi gweld cymunedau ysbrydoledig yn dod at ei gilydd i ddiogelu asedau allweddol a datblygu busnesau dan arweiniad y gymuned. Mae Cwmpas wedi cefnogi’r grwpiau hyn drwy ein prosiect Cydnerthedd Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru, a ariennir i redeg dros dair blynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru. Lansiwyd y prosiect ym mis Hydref 2020 i gefnogi ein cymunedau i greu a buddsoddi mewn busnesau sy’n gwasanaethu pwrpas cymunedol.
Mae Co-operatives UK yn diffinio cyfranddaliadau cymunedol fel enw hawdd ei ddefnyddio ar gyfer cyfalaf cyfranddaliadau anhrosglwyddadwy: math o ecwiti sydd ar gael yn unigryw i gymdeithasau cydweithredol a budd cymunedol.
Mae angen cyfalaf ar bob busnes i ddechrau, tyfu a bod yn gynaliadwy ac mae cyfranddaliadau cymunedol yn ffordd ddelfrydol i gymunedau fuddsoddi ynddynt. Mae ein tîm o gynghorwyr profiadol ac angerddol wedi helpu dros 500 o bobl a 18 cymuned drwy gydol y broses o sefydlu cynigion cyfranddaliadau cymunedol, gan godi cyfanswm o £4,959,840. Mae hyn wedi helpu i adeiladu cyfoeth cymunedol, arbed asedau hanfodol a datblygu’r adnoddau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu.
Hyrwyddo cydraddoldeb yn y gymuned
Gall Cymdeithasau Budd Cymunedol redeg Cyfranddaliadau Cymunedol. Mae’r model cyfreithiol democrataidd hwn yn rhoi rheolaeth gyfartal, gan fod gan bob aelod un bleidlais waeth faint o gyfranddaliadau sydd ganddynt – gan roi llais teg i bawb yn y ffordd y mae’r busnes yn rhedeg. Mae’r model yn ddeniadol i gyllidwyr ac mae llawer o fusnesau wedi ei ddefnyddio’n llwyddiannus gan gynnwys Tafarn y Vale, tafarn gymunedol yng Ngheredigion a achubwyd rhag cau gan bobl leol.
Yn ein hadroddiad, fe welwch ragor o ddata a straeon am y gwahaniaeth y mae prosiectau cyfranddaliadau cymunedol wedi’i wneud yng Nghymru, a’r rôl hanfodol y mae cymorth arbenigol yn ei chwarae wrth wneud hyn yn bosibl. Mae’r Ty Gwyrdd yn enghraifft arall o’r effaith gadarnhaol y mae’r model a’r prosiect wedi’i chael.
Y Ty Gwyrdd
Derbyniodd Y Ty Gwyrdd, siop ddiwastraff a hwb cymunedol yn Ninbych, gefnogaeth gan Cwmpas – gan gynnwys help i ddewis y model busnes cywir ar eu cyfer, a oedd yn golygu cynhyrchu buddsoddiad drwy wahodd y gymuned i ddod yn gyfranddalwyr. “Oherwydd y gefnogaeth honno rydw i wedi dal i fynd,” meddai’r Rheolwr Gweithrediadau Marguerite Pearce. “Rydyn ni’n lwcus iawn… dwi wrth fy modd.”
Yn ogystal â chefnogi a hyrwyddo busnesau lleol, maent yn meddiannu eiddo a arferai fod yn wag, gan helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref. Mae mwy o bobl leol wedi gofyn am gael dod yn gyfranddalwyr ac maent yn cynllunio eu hail gynnig cyfranddaliadau cymunedol – i gefnogi cynaliadwyedd y busnes drwy brynu adeilad sy’n eiddo i’r gymuned.
Rydym yn hyderus bod yr hyn a ddysgwyd ac effaith y prosiect llwyddiannus hwn yn golygu bod Cymru mewn sefyllfa dda i barhau i elwa ar y model cyfranddaliadau cymunedol a byddwn yn defnyddio hwn fel model o ddewis wrth ariannu eu mentrau cymdeithasol yn y dyfodol.
Cefnogi cymunedau i greu ffyniant cynaliadwy
Mae angen cefnogi cymunedau drwy’r cyfnod heriol sydd i ddod. Gall hwyluso cyfranddaliadau cymunedol fod wrth wraidd dull newydd o ddatblygu economaidd yng Nghymru sy’n blaenoriaethu llesiant ac yn gwneud ffyniant cynaliadwy yn bosibl. Mae’n un ffordd rydym yn cefnogi ail-gydbwyso economïau lleol fel ei fod yn rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf.
Mae’r adroddiad hwn yn gyfle i ddathlu’r prosiect a’r cymunedau a’r mentrau cymdeithasol ysbrydoledig mae wedi’u cefnogi, tra’n dangos sut y gallai Cymru edrych yn y dyfodol – gydag economi a chymdeithas sy’n gweithio’n wahanol, er ein budd cymdeithasol ac economaidd ar y cyd.
Daeth Prosiect Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru i ben ym mis Ionawr 2024. Mae Cwmpas yn dal i gynnig cymorth am sefydlu cynllun cyfranddaliadau cymunedol ledled Cymru drwy ein rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol Sir Benfro a ariennir gan Gronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y DU. Cysylltwch â ni.